Skip to main content

Rydym wedi cadw rhai ffeiliau o'r enw cwcis ar eich dyfais. Y cwcis hyn yw:

  • Hanfodol ar gyfer y safle i weithio
  • Helpu i wella ein gwefan drwy gasglu ac adrodd gwybodaeth am sut rydych chi'n ei defnyddio

Hoffem hefyd arbed rhai cwcis i helpu i deilwra cyfathrebu.

BETA
Rydych yn edrych ar fersiwn wedi'i ddiweddaru o'r gwasanaeth hwn - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Astudiaeth Achos - Arcswood CIC

Menter gymdeithasol yw Arcswood sy’n cynnig gwasanaethau cynnal tiroedd a choetiroedd, gwaith coed a hyfforddiant. Mae wedi’i lleoli yn y Ganolfan Hyfforddi Sgiliau Gwledig, Sir Benfro.


Menter gymdeithasol yw Arcswood sy’n cynnig gwasanaethau cynnal tiroedd a choetiroedd, gwaith coed a hyfforddiant.  Mae wedi’i lleoli yn y Ganolfan Hyfforddi Sgiliau Gwledig, Sir Benfro.

Rob Howells – Arcswood CIC

“Sefydlwyd Arcswood yn 2012 fel chwaer fenter gymdeithasol i Green Links CIC, er mwyn cynnal incwm o ffynonellau masnachol.  Gan ein bod yn gwmni di-elw, gallwn ddenu cyllid o amrywiaeth o ffynonellau yn y sector masnachol sy’n ein galluogi i fuddsoddi mewn prosiectau sy’n creu budd cymunedol.  Mae hyn yn cynnwys darparu lleoliadau a phrofiad gwaith i
bobl ifanc ac oedolion o bob gallu, gan gynnwys pobl sydd ag anghenion  dysgu ychwanegol.

“Mae Arcswood wedi cael budd mawr o fynd I ddigwyddiadau cymorth GwerthwchiGymru.  Trwy’r broses dendro, rydym bellach wedi cael contract
3 blynedd gyda Chymdeithas Tai Sir Benfro.  Mae hyn yn rhoi tawelwch  meddwl i’n staff a sylfaen gadarn i ehangu’r cwmni.

Dylai unrhyw gwmni bach neu ganolig fanteisio i’r eithaf ar yr help sydd ar gael yn nigwyddiadau am ddim GwerthwchiGymru.  Wedi dweud hynny, ni all GwerthwchiGymru wneud popeth i chi – mae’n rhaid i chi fod yn rhagweithiol a mynd ar y wefan bob dydd i chwilio am gyfleoedd.  I gloi, cofiwch sicrhau bod eich proffil yn gyflawn – rhag ichi golli cyfleoedd pwysig!”

01646 686804

Twitter – https://twitter.com/@arcswood

Facebook – https://www.facebook.com/pages/Arcswood-CIC/214078175456053?ref=stream

LinkedIn - https://www.linkedin.com/company/arcswood-cic



0800 222 9004

Mae'r llinellau ar agor rhwng 8:30am a 5pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.

We welcome calls in Welsh.