Skip to main content

Rydym wedi cadw rhai ffeiliau o'r enw cwcis ar eich dyfais. Y cwcis hyn yw:

  • Hanfodol ar gyfer y safle i weithio
  • Helpu i wella ein gwefan drwy gasglu ac adrodd gwybodaeth am sut rydych chi'n ei defnyddio

Hoffem hefyd arbed rhai cwcis i helpu i deilwra cyfathrebu.

BETA
Rydych yn edrych ar fersiwn wedi'i ddiweddaru o'r gwasanaeth hwn - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Astudiaeth Achos - Empower - Be The Change (EBTC)

Mae EBTC yn fenter gymdeithasol arobryn sy'n cyfuno cymwysterau arweinyddiaeth achrededig, hyfforddiant a chanllawiau i rymuso unigolion a thimau i gyflawni eu potensial. Mae ein hyfforddiant yn adeiladu gwydnwch meddyliol, hunanymwybyddiaeth, hunan-barch, a'r sgiliau i gymryd dewisiadau rhagweithiol i wella amgylchiadau bywyd, yn enwedig o ran cyflogaeth. Ers ei sefydlu, mae EBTC wedi gweithio mewn partneriaeth ag amrywiaeth o asiantaethau i gefnogi dros 600 o bobl drwy gymwysterau a hyfforddiant.


Hanes Byr

Sefydlwyd y cwmni gan Jo Clay 5 mlynedd yn ôl yn dilyn 18 mis o waith ar y cyd gyda Vi-Ability yn sefydlu, cyflwyno a rheoli rhaglen wirfoddolwyr ryngwladol lwyddiannus iawn "India Adventure".
Ar 6 Mai 2021 dathlodd Empower – Be The Change ei ben-blwydd yn 5 oed. Mae'r cwmni wedi tyfu'n gynt yn ystod y cyfnod hwn: ym mlwyddyn un fe wnaethom rymuso 35 o bobl ag incwm o £17,000; erbyn blwyddyn pump roeddem wedi grymuso 500 o bobl ac roedd gennym incwm o £145,000.

Pryd oeddwn yn teimlo fwyaf balch

 Rydym yn falch iawn o'n gwobrau a'n cydnabyddiaethau o fewn y diwydiant:
• Social Enterprise UK: Rownd Derfynol 2021 – Tîm y Flwyddyn, Anrhydeddau y DU 2020, Rownd Derfynol 2018 – Addysg, Hyfforddiant a Chyflogaeth
• Busnes Cymdeithasol Cymru: Rownd Derfynol 2021 – Tîm y Flwyddyn & Tech for Good, Cymeradwyaeth Uchel 2019, Enillwyr 2018 – Addysg, Hyfforddiant a Chyflogaeth
• Busnes Cymdeithasol Wrecsam: Enillwyr 2017 – Cwmni newydd ac effaith gymunedol
• Gwobrau Mentora Busnes Cymru 2018 - 2019 – Gwobr Mentora a 
Mentor y Flwyddyn

 Ydych chi'n defnyddio'r Gymraeg yn eich busnes?

 Mae gennym aelodau o'r tîm sy'n rhugl yn y Gymraeg ac mae hyn wedi helpu i gyflwyno cyrsiau mewn ardaloedd sy'n siarad Cymraeg.

Beth fu eich her fwyaf hyd yma? 

Fel bron pob cwmni arall, roedd yr her a gyflwynwyd gan Covid yn waeth na’r un her arall.  Rydym yn falch iawn o'r ffaith, ym mis Mawrth 2020 pan ddaeth y byd i ben, ni ddaeth Empower – Be The Change i ben. O fod yn gyfan-gwbl yn yr ystafell ddosbarth cyn y pandemig, addaswyd ein holl raglenni i’w cyflwyno ar-lein, gan gynnwys creu cynnyrch hyfforddi pwrpasol i helpu pobl i ymdopi â'r arferion a'r systemau newydd oedd wedi'u gorfodi gan y cyfnod clo a gweithio o gartref. Bu inni gynyddu ein gweithlu hyd yn oed yn ystod y pandemig.  I fod yn onest gallem fod wedi rhoi hyn yn yr adran 'Pryd oeddwn yn teimlo fwyaf balch' hefyd ...
Ni fyddem wedi gwneud unrhyw beth yn wahanol – mewn gwirionedd rydym wedi croesawu ein ffordd newydd o weithio i'r fath raddau fel ein bod wedi dewis parhau i weithio gartref ac mae ein darpariaeth ddigidol yn mynd o nerth i nerth.

Beth yn eich barn chi yw manteision defnyddio GwerthwchiGymru?

Fel menter gymdeithasol sy'n gweithio yn y sector gwasanaethau, mae derbyn gwybodaeth am dendrau yn uniongyrchol yn ein mewnflwch yn amhrisiadwy a gan ein bod yn gwmni bach gallwn ymateb yn gyflym iddynt sy'n wych.

Unrhyw awgrymiadau y byddech yn eu rhoi i fusnesau eraill

Peidiwch â rhoi'r gorau iddi, a daliwch ati – os yw'r 18 mis diwethaf wedi dysgu unrhyw beth i ni, ein bod i gyd yn llawer mwy gwydn nag oeddem yn sylweddoli ... ond inni wybod ble i ddod o hyd iddo,

 www.empower-bethechange.org  

 Twitter: @Empower_BTC 

 Facebook: empower.bethechange 

 Tumblr: empowerbethechange


0800 222 9004

Mae'r llinellau ar agor rhwng 8:30am a 5pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.

We welcome calls in Welsh.