Manylion y contract
-
ID:
- 170614
-
OCID:
- ocds-kuma6s-169138
-
Math o gontract:
- Gwasanaethau
-
Math o weithdrefn:
- Agored
-
Hysbysiad dyfarnu contract cyf:
-
SEP658453
-
Cyf mewnol:
- Portal Ref: 170614
-
Cysylltwch â'r Catergory:
- C - contract lleol ar ran un prynwr sy'n contractio yn unig.
-
Prynwr:
- The National Library of Wales
-
Cod CPV cynradd:
- N/a
-
Cod (au) CPV ychwanegol:
-
A yw'n fframwaith:
- Nac Ydi
-
Cynllun lleihau carbon:
-
Dewisiadau:
-
Disgrifiad:
- ADRAN 1: CEFNDIR A MANYLEB
1 Trosolwg a Chyd-destun
1.1 Llyfrgell Genedlaethol Cymru
1.2 Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn Aberystwyth yn un o chwe llyfrgell adnau cyfreithiol ym Mhrydain ac Iwerddon. Er 1911, mae wedi mwynhau’r hawl i gasglu, yn rhad ac am ddim, copi o bob gwaith argraffedig a gyhoeddir ym Mhrydain ac Iwerddon. Yn ogystal, mae’n casglu gweithiau am Gymru a’r gwledydd Celtaidd eraill: llyfrau a phamffledi, cylchgronau a phapurau newydd, microffurfiau, effemera, a chyfoeth o ddeunydd electronig.
1.3 Sefydlwyd y Llyfrgell gan Siarter Brenhinol ym 1907 ac mae’n un o gyflawniadau mawr uchelgais ddiwylliannol Cymru fel cenedl. Ariannir y Llyfrgell yn bennaf gan Lywodraeth Cymru (mae’n Gorff a Noddir gan Lywodraeth Cymru). Mae’n anarferol fel llyfrgell genedlaethol gan ei bod yn ceisio casglu, diogelu, a rhannu casgliadau mewn amrywiaeth o wahanol gyfryngau, gan gynnwys un o’r casgliadau mwyaf o bapurau newydd a chyfnodolion argraffedig sy’n ymwneud â Chymru, y Cymry a phobl Geltaidd.
1.4 Nid llyfrgell yn unig yw’r Llyfrgell Genedlaethol. Mae’n casglu llawysgrifau ac archifau, lluniau a ffotograffau, mapiau, recordiadau sain a delweddau sy’n symud, y maent oll ar gael i bobl droi atynt yn y Llyfrgell, ac ar-lein yn gynyddol.
1.5 Gyda chymorth ariannol gan Lywodraeth Cymru, mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn gweithio tuag at fod yn garbon niwtral erbyn 2028, gyda’r nod o roi’r gorau i ddefnyddio nwy yn gyfan gwbl a lleihau allyriadau carbon. Yn ddiweddar, mae’r Llyfrgell wedi trawsnewid ei hystad hanesyddol trwy gyfrwng rhaglen ôl-osod uchelgeisiol, sy’n lleihau ei hôl troed carbon yn sylweddol, gan sicrhau dyfodol mwy cynaliadwy. Gan ddymuno rhannu’r hyn y mae wedi’i ddysgu gydag eraill, mae’r Llyfrgell wedi gosod nod i fod yn sefydliad blaenllaw ym maes cynaliadwyedd amgylcheddol yn ein Strategaeth 2025-30, Cysylltu Cymru a’r Byd.
1.6 Rhaglen Argyfwng Hinsawdd a Diwylliant a Hinsawdd Cymru
1.7 Mae gan y sector diwylliant yng Nghymru rôl bwysig i’w chyflawni wrth fynd i’r afael â’r argyfyngau natur a hinsawdd, am fod gan ddiwylliant allu unigryw i ysbrydoli, cysylltu, rhannu straeon, a’n helpu i ddychmygu dyfodol gwahanol. Yn ogystal, mae angen i’r sector diwylliant reoli effaith hinsawdd sy'n newid ar asedau diwylliannol a threftadaeth a’r amgylchedd hanesyddol, a chyflawni ei rhan wrth gyflawni sero net, bod yn gyfeillgar i fyd natur a chynorthwyo cyfiawnder o ran yr hinsawdd.
1.8 Gan weithio mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru, mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru (y Llyfrgell) yn arwain Rhaglen Argyfwng Hinsawdd amlwg a thrawsbynciol sy’n gweithio ar draws tri maes polisi – diwylliant, y celfyddydau a’r amgylchedd hanesyddol (Cadw). Mae’r rhaglen yn cynorthwyo’r broses o gyflawni Uchelgais 16 Blaenoriaethau Diwylliant Llywodraeth Cymru (y Llywodraeth flaenorol), sef bod y sector diwylliant yn dangos “arweinyddiaeth a chydweithio wrth ymateb i ddatblygu cynaliadwy, meithrin gwydnwch, a mynd i’r afael â’r argyfyngau natur a hinsawdd”, trwy ddarparu cyfres o brosiectau strategol a mentrau a fydd yn datblygu’r sector, gan gefnogi blaenoriaethau a amlinellwyd yn Rhaglen Lywodraethu 2021-2026, Blaenoriaethau ar gyfer Diwylliant, Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol a’r Sector diwylliant: adroddiad argyfyngau hinsawdd a natur.
1.9 Mae argymhellion yr adroddiad ymchwil yn cynnwys sefydlu rhwydwaith cymheiriaid yn y sector i ganolbwyntio ar yr hinsawdd a natur yn y sector diwylliant yng Nghymru. Gan ymateb i hyn, mae’r Llyfrgell wedi creu rhwydwaith Diwylliant a Hinsawdd Cymru | Culture and Climate Cymru, sydd wedi cynnal tair sesiwn hyd yn hyn, a fynychwyd gan 192 o bobl at ei gilydd. Cefnogir y rhwydwaith gan wefan a lansiwyd yn ddiweddar, sy’n cynnwys cylchlythyr a fforwm trafod ar-lein. Arweinir y gwaith hwn gan Swyddog Arweiniol y Llyfrgell dros y Rhaglen Argyfwng Hinsawdd.
1.10 Rydym yn dymuno cynnal 5 o ddigwyddiadau rhwydweithio wyneb yn wyneb pellach (2 yn 2026-27 a 3 yn 2027-28) ar d
-
Tîm Prynu:
- N/a
Dyddiadau'r contract
-
Dyddiad a ddyfarnwyd:
- 15 Medi 2026
-
Dyddiad cychwyn:
- 28 Medi 2026
-
Dyddiad gorffen:
- 28 Mawrth 2028
Estyniadau contract
-
Opsiynau estyniad Max ar gael:
- 0 (misoedd)
Gwybodaeth ychwanegol
-
Gwybodaeth ychwanegol:
Manylion cyswllt
-
Enw'r contract:
- Judith Musker Turner
-
E-bost contract:
- judith.muskerturner@llyfrgell.cymru
Cyflenwyr llwyddiannus
Isod mae rhestr o'r holl gyflenwyr llwyddiannus ar gyfer y contract hwn. Gellir dewis cyflenwyr hefyd ar gyfer LOTIAU penodol (os yw'n berthnasol) a gallant hefyd gael un neu fwy o isgontractwyr y gellir eu hychwanegu trwy'r tab Is gonontractwyr."
Lotiau
Isod mae manylion y symiau y mae'r contract wedi'u rhannu. I weld y cyflenwyr sydd wedi derbyn pob un o'r lots, ewch i'r adran Cyflenwyr.
Nid oes llawer wedi ei ychwanegu ar gyfer y contract hwn.
Cyflenwyr
Isod mae manylion y cyflenwyr llwyddiannus ar gyfer y contract hwn.
|
Rhif Lot
|
Enw
|
Tref
|
Côd post
|
Rhif Cofrestru
|
Gwerth
|
|
Deryncoch Cyf |
Llanon |
SY235nl |
230081792 |
0 |
Prynwyr sy'n cydweithio
Isod mae'r prynwyr sy'n cydweithio ar y contract hwn.
Dim prynwyr sy'n cydweithredu i'w dangos.
Galwadau i ffwrdd
Contract yn galw i ffwrdd.
Nid yw'r contract hwn yn defnyddio galwadau i ffwrdd.
Negeseuon
Nid yw'r cytundeb hwn yn defnyddio negeseuon.