Disgrifiad o'r nwyddau neu'r gwasanaethau sydd eu hangen
Mae gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru bwerau i ymchwilio i gwynion am wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru. Mae hefyd yn ymchwilio i gwynion fod aelodau o gyrff llywodraeth leol wedi torri cod ymddygiad eu hawdurdod. Nid yw ynghlwm wrth unrhyw gorff llywodraeth ac mae ganddo dîm o bobl sy’n ei helpu i ymchwilio i gwynion. Mae'r gwasanaeth yn ddiduedd ac am ddim. Ei nod yw unioni unrhyw gam y mae defnyddwyr gwasanaethau cyhoeddus wedi’i gael ac ysgogi gwelliannau mewn gwasanaethau ac yn safonau bywyd cyhoeddus gan ddefnyddio'r hyn mae’n ei ddysgu o'r cwynion mae’n eu hystyried.
Mae gan yr Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus system TG ar gyfer rheoli achosion ar hyn o bryd, ond mae’n bwriadu mynd drwy broses gaffael i gael contract newydd ar gyfer system rheoli achosion. Y bwriad yw y bydd y system rheoli achosion yn cefnogi llif gwaith ac yn hwyluso gwaith di-bapur fel nad oes rhaid i staff ddefnyddio dogfennau papur.
Mae angen cymorth i helpu’r Ombwdsmon gyda’r canlynol:
• Deall, adolygu a diwygio prosesau rheoli achosion
• Ymgysylltu â nifer o staff ar draws y swyddfa i ddeall sut rydym ni’n gweithio nawr a sut y gallem ni weithio yn y dyfodol
• Deall a nodi'r prif ofynion ar gyfer system rheoli achosion, i gynnwys gofynion mynediad o bell, trefniadau parhad busnes, cydnawsedd â systemau a chaledwedd eraill, sut mae’n integreiddio â’r wefan ac â meddalwedd e-bost
• Ystyried y gofynion ar gyfer cynnal, profi a mudo data ar yr un pryd
• Paratoi dogfennau’r prif ofynion ar gyfer proses gaffael
• Helpu gyda chyllidebu ac amcangyfrif costau.
Rhaid i’r gwaith hwn gael ei gwblhau mewn dau fis.
Y cynnyrch rydym yn chwilio amdano:
• Cyngor a chynigion ynghylch dull gweithredu ar gyfer caffael
• Costau dangosol
• Paratoi dogfennau’r prif ofynion sy’n trafod y materion uchod
Gwahoddir datganiadau o ddiddordeb ar gyfer y gwaith hwn. Dylai’r cynigion nodi profiad, adnoddau, dull gweithredu a chostau. Y cam cyntaf mewn proses hwy y mae’n rhaid ei chwblhau cyn mis Mawrth 2017 yw’r darn o waith hwn.
NODER: Ewch i'r Wefan yn http://www.sell2wales.gov.wales/Search/Search_Switch.aspx?ID=52229 i gofrestru eich diddordeb yn yr hysbysiad hwn a chael unrhyw wybodaeth ychwanegol.
|