Skip to main content

Rydym wedi cadw rhai ffeiliau o'r enw cwcis ar eich dyfais. Y cwcis hyn yw:

  • Hanfodol ar gyfer y safle i weithio
  • Helpu i wella ein gwefan drwy gasglu ac adrodd gwybodaeth am sut rydych chi'n ei defnyddio

Hoffem hefyd arbed rhai cwcis i helpu i deilwra cyfathrebu.

BETA
Rydych yn edrych ar fersiwn wedi'i ddiweddaru o'r gwasanaeth hwn - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Hysbysiad o Gontract

Dylunio ac adeiladu Ysgol Gynradd 135 FTE Newydd yn Llanfair DC, Rhuthun, Sir Ddinbych

  • Cyhoeddwyd gyntaf: 15 Awst 2017
  • Wedi'i addasu ddiwethaf: 15 Awst 2017

Nid yw'r prynwr yn defnyddio'r wefan hon i weinyddu'r hysbysiad.

I gofnodi eich diddordeb neu gael gwybodaeth neu ddogfennau ychwanegol, darllenwch y cyfarwyddiadau yn Nhestun Llawn yr Hysbysiad. (NODER: Nid oes angen ymateb i Hysbysiadau Dyfarnu Contractau a Hysbysiadau Gwybodaeth Ymlaen Llaw fel arfer)

Cynnwys

Crynodeb

OCID:
ocds-kuma6s-069272
Cyhoeddwyd gan:
Denbighshire County Council
ID Awudurdod:
AA0280
Dyddiad cyhoeddi:
15 Awst 2017
Dyddiad Cau:
25 Medi 2017
Math o hysbysiad:
Hysbysiad o Gontract
Mae ganddo ddogfennau:
Nac Ydi
Wedi SPD:
Nac Ydi
Mae ganddo gynllun lleihau carbon:
AMH

Crynodeb

Dylunio ac adeiladu ysgol gynradd BREEAM 'Rhagorol' newydd ynghyd â dodrefn rhydd, gwaith allanol, draenio a gwasanaethau allanol yn Llanfair Dyffryn Clwyd, Rhuthun, Sir Ddinbych.

Testun llawn y rhybydd

HYSBYSIAD O GONTRACT - CENEDLAETHOL

WORKS

1 Manylion yr Awdurdod

1.1

Enw a Chyfeiriad yr Awdurdod


Cyngor Sir Ddinbych

Cyllid, Asedau a Thai, Caledfryn, Ffordd y Ffair ,

Dinbych

LL16 3RJ

UK

Peter Simpson

+44 1824706706

peter.simpson@denbighshire.gov.uk

denbighshire.gov.uk
https://supplierlive.proactisp2p.com
https://supplierlive.proactisp2p.com

1.2

Cyfeiriad ar gyfer cael dogfennaeth

Fel yn I.1

1.3

Mae'n rhaid dychwelyd dogfennau wedi'u cwblhau at:

Fel yn I.1

2 Manylion y Contract

2.1

Teitl

Dylunio ac adeiladu Ysgol Gynradd 135 FTE Newydd yn Llanfair DC, Rhuthun, Sir Ddinbych

2.2

Disgrifiad o'r nwyddau neu'r gwasanaethau sydd eu hangen

Dylunio ac adeiladu ysgol gynradd BREEAM 'Rhagorol' newydd ynghyd â dodrefn rhydd, gwaith allanol, draenio a gwasanaethau allanol yn Llanfair Dyffryn Clwyd, Rhuthun, Sir Ddinbych.

2.3

Cod a Dosbarthiad yr Hysbysiad

45214200 Construction work for school buildings
45214210 Primary school construction work
45214220 Secondary school construction work
45214230 Special school construction work
71000000 Architectural, construction, engineering and inspection services
1013 Conwy a Sir Ddinbych

2.4

Cyfanswm maint neu gwmpas y tendr

Contract Dylunio ac Adeiladu JCT2016 ar gyfer ysgol gynradd newydd 135 FTE BREEAM 'Rhagorol'

3 Amodau ar gyfer Cymryd Rhan

3.1

Safonau gofynnol a'r cymhwyster sydd ei angen

Mae Cyngor Sir Ddinbych (CSDd) wedi ymrwymo i ddarparu addysg o'r radd flaenaf i holl blant a phobl ifanc y sir.

Diben y tendr yw gwahodd tendrau drwy Gwerthwchigymru drwy Proactis (Cyfeirnod Cais Proactis WKS1000125REQ). Bydd hyn yn arwain at benodi Contractwr i symud ymlaen â'r prosiect i Ddylunio ac Adeiladu Ysgol Gynradd Newydd yn Llanfair Dyffryn Clwyd, Rhuthun, Sir Ddinbych.

Mae’r ddogfen sy’n nodi'r broses werthuso ar gyfer tendrau cymwys wedi'i llwytho ar system Proactis. Mae'n rhaid anfon yr holl ddeialog a gwybodaeth drwy Proactis. Mae'r holl ddogfennau tendro ar gyfer y prosiect yn awr yn fyw ar borth Proactis.

4 Gwybodaeth Weinyddol

4.1

Math o Weithdrefn

Un cam

4.2

Rhif cyfeirnod a roddwyd i'r hysbysiad gan yr awdurdod contractio

N/a

4.3

Terfynau Amser



Terfyn amser ar gyfer derbyn tendrau wedi'u cwblhau
     25 - 09 - 2017  Amser   12:00

Dyddiad dyfarnu amcangyfrifedig   13 - 10 - 2017

4.5

Yr iaith neu'r ieithoedd y gellir ei/eu defnyddio i lunio tendrau neu geisiadau i gymryd rhan

EN  

Welsh

4.6

Blwch Postio Cyflwyno Tendrau

5 Gwybodaeth Arall

5.1

Gwybodaeth Ychwanegol

Gwybodaeth Ychwanegol (Cyfeirnod Cais Proactis WKS1000125REQ)

Cyfarwyddiadau ar gyfer Cofrestru Cyflenwr

Cyfarwyddiadau i Fynegi Diddordeb a Derbyn mynediad i'r dogfennau

1. Mewngofnodi i Borth E-gyrchu Proactis yn https://supplierlive.proactisp2p.com

2. SYLWER – os ydych chi eisoes wedi cofrestru ar borth Proactis defnyddiwch eich manylion mewngofnodi presennol a dechrau o Gam 14 y cyfarwyddiadau hyn, os nad ydych wedi cofrestru ewch i GAM 3.

3. Cliciwch y botwm "Sign Up" ar waelod y ffenestr

4. Nodwch Enw, Cyfeiriad a Phrif Fanylion Cyswllt eich sefydliad. Bydd angen creu ID Sefydliad ac Enw Defnyddiwr. Sylwer os oes gennych chi gyfeiriad e-bost cyffredinol ar gyfer eich sefydliad e.e. tendrau@xxx.co.uk yna defnyddiwch hwn fel y prif gyfeiriad e-bost gan y bydd hyn yn eich caniatáu i barhau i dderbyn negeseuon o gymharu â phan y nodir unigolyn penodol yn y rôl hon a'u bod yn symud ymlaen rywbryd yn y dyfodol.

5. Gwnewch nodyn o ID y Sefydliad a'r Enw Defnyddiwr a chlicio "Register"

6. Byddwch wedyn yn derbyn e-bost gan y system yn gofyn i chi "Click here to activate your account".

Mae hyn yn mynd â chi at sgrîn i gyflwyno Manylion eich Sefydliad.

7. Rhowch yr wybodaeth y gofynnir amdani, cliciwch ar y ">" ar y sgrîn a dilyn y cyfarwyddiadau gan sicrhau eich bod yn nodi'r holl fanylion perthnasol.

8. Yn y sgrîn Dosbarthiad sicrhewch eich bod yn dewis y Codau Dosbarthiad Cynnyrch (Codau CPV) sy'n ymddangos yn yr hysbysiad tendr gan y bydd hyn yn rhoi mynediad i chi i'r broses dendro. Sicrhewch fod y codau a ddewiswyd yn berthnasol i'ch busnes i sicrhau eich bod yn cael gwybod am gyfleoedd sydd o ddiddordeb i'ch sefydliad chi.

9. Yn y sgrîn Prynwyr dewiswch Cyngor Sir Ddinbych (er y gallwch gofrestru gyda sefydliadau prynu eraill ar yr un pryd os dymunwch).

10. Yn y sgrîn Prif Fanylion Cyswllt sicrhewch fod yr holl wybodaeth yn gyflawn. (Gweler nodyn 4 uchod.)

11. Derbyniwch y Telerau a'r Amodau ac yna cliciwch ar y ">". Mae hyn yn mynd â chi i'r ffenestr Groeso.

12. Yn y sgrîn Gorffen rhowch gyfrinair newydd a nodi eich holl fanylion Mewngofnodi ar gyfer y dyfodol.

13. Nawr cliciwch "Complete Registration" a byddwch yn mynd i'r dudalen Rhwydwaith Cyflenwr.

14. Ar ganol y sgrîn cliciwch ar "Opportunities". Bydd hyn yn mynd â chi at y rhestr o gyfleoedd sydd ar gael i chi.

15. Cliciwch ar y ">" sy'n ymwneud â'r hysbysiad hwn, bydd hyn yn mynd â chi i'r PQQ neu'r Tendr Cais a chliciwch "Register Interest". Sylwer y gall fod nifer o gyfleoedd sy'n ymddangos ar y sgrîn hon, sicrhewch eich bod yn dewis yr un cywir ar gyfer eich sefydliad.

16. Yn y sgrîn "Your Opportunities" nodwch y dyddiad a'r amser cau ar gyfer cwblhau'r prosiect perthnasol. Adolygwch y tab "Items" (cam Tendr yn unig) a'r tab Dogfennau (PQQ a chamau Tendr) gan y bydd yna wybodaeth yn ymwneud â'r prosiect yma. Mae’r Dogfennau i'w gweld drwy glicio ar y saeth i lawr o dan y tab Cyffredinol. Sicrhewch eich bod yn lawrlwytho'r holl ddogfennau ar eich cyfrifiadur gan y bydd angen i chi lenwi a llwytho rhai o'r dogfennau fel rhan o'ch cyflwyniad.

5.1

Mae yna hefyd gyfarwyddiadau ar sut i gwblhau eich cais yn y ddogfen Canllawiau i Gynigwyr sydd yn yr adran hon.

17. Gallwch yn awr naill ai greu eich ymateb neu ddewis "Decline" ar gyfer y cyfle hwn.

18. Unwaith y byddwch wedi llenwi eich ymateb i'r cyfle ac yn dymuno cadw a dychwelyd yn ddiweddarach cliciwch "Save". Y tro nesaf y byddwch yn Mewngofnodi i gael mynediad at y cyfle, ewch i'r tab "Opportunities" a nodi'r cais perthnasol i chi ei gadw'n flaenorol.

19. Pan fyddwch wedi cwblhau eich ymateb cliciwch ar "Validate" i sicrhau eich bod wedi ateb yr holl gwestiynau. Os nad oes unrhyw wallau wedi'u nodi cliciwch "Save" i sicrhau bod eich cyflwyniad yn cael ei gadw, yna cliciwch "Submit". Yna byddwch yn cael "Pop Up" gyda'ch rhif cyfeirnod cyflwyno unigryw. Caiff hyn hefyd ei gadarnhau trwy e-bost.

20. Os ydych yn ychwanegu atodiadau ar unrhyw adeg yn y broses sicrhewch eich bod yn clicio ar y botwm "Add to Library" oherwydd os cewch eich gwahodd i unrhyw gyfleoedd dilynol yn y dyfodol i dendro, bydd unrhyw ddogfennau yr ydych wedi'u hychwanegu yn cael eu rhoi yn awtomatig at eich cyflwyniad, a'r cyfan y bydd angen i chi ei wneud yw gwirio eu bod yn fersiwn gyfredol. Mae hon yn system ddiogel ac ni fydd neb arall â mynediad at eich dogfennau.

21. Nodwch fod yn rhaid anfon unrhyw ymholiadau drwy'r adran ddeialog ddiogel o'r porth e-dendro. Ni fyddwn yn ymateb i unrhyw ymholiadau a dderbynnir drwy unrhyw ddull arall.

22. Os ydych angen unrhyw gymorth pellach cysylltwch â Rheolwr y Prosiect fel y nodir ym manylion y prosiect.

(WA Ref:46188)

O dan delerau'r contract hwn bydd yn ofynnol i'r cyflenwr (cyflenwyr) llwyddiannus ddarparu Buddion Cymunedol i gefnogi amcanion economaidd a chymdeithasol yr awdurdod. Yn unol â hynny, efallai y bydd amodau perfformiad contract yn gysylltiedig ag ystyriaethau cymdeithasol ac amgylcheddol penodol. Y Buddion Cymunedol yn y contract hwn yw:

CORE ( recriwtio a hyfforddiant wedi’u targedu) yn berthnasol,

O'r wybodaeth a amlinellir yn y fanyleb ar y safle penodol hwn a beth fydd y prosiect yn ei wneud i wneud y mwyaf o gyfleoedd recriwtio a hyfforddiant wedi’u targedu a diwallu 78 wythnos o brentisiaethau /profiad gwaith/ di-waith hirdymor, NEETS, pobl anabl, economaidd anweithgar ar gyfer pob £1m sy'n cael ei wario.

Sylwer bod gofyniad bod y contractwr llwyddiannus yn cwblhau cynllun Sgiliau a Chyflogaeth gyda'r Cleient, wedi'u monitro gan SPONSA ac Academi Sgiliau Adeiladu Cenedlaethol.

(WA Ref:67458)

Mae Rhaglen Buddion Cymunedol wedi'i lwytho ar Proactis ac mae'n rhaid ei gwblhau.

(WA Ref:69272)

(WA Ref:69997)

O dan delerau'r contract hwn, bydd yn ofynnol i'r cyflenwr/cyflenwyr llwyddiannus gyflawni Manteision Cymunedol i gefnogi amcanion economaidd a chymdeithasol yr awdurdod. Yn unol â hynny, gall yr amodau sy'n gysylltiedig â pherfformiad y contract ymwneud yn benodol ag ystyriaethau cymdeithasol ac amgylcheddol. Caiff natur y Manteision Cymunedol y disgwylir iddynt gael eu cyflawni eu nodi yn y dogfennau tendr.

CORE (Targeted Recruitment and Training (TR&T)) Applies,

From the information outlined in the specification on this particular site and project what will do to

maximise the Targeted Recruitment and Training opportunities and meet the 78 weeks of

apprenticeships/work experience/long term unemployed, NEETS, disabled, economically inactive for

every 1m GBP spent.

Please note that it is a requirement that a successful contractor will complete an Employment and Skills

plan with the Client, monitored by SPONSA and the National Construction Skills Academy

The Community Benefits Programme has been loaded on to Proactis and this must be completed.

5.2

Dogfennaeth Ychwanegol

5.3

Dyddiad cyhoeddi'r hysbysiad hwn

  15 - 08 - 2017

Codio

Categorïau nwyddau

ID Teitl Prif gategori
45214200 Gwaith adeiladu ar gyfer adeiladau ysgol Gwaith adeiladu ar gyfer adeiladau sy’n gysylltiedig ag addysg ac ymchwil
45214230 Gwaith adeiladu ysgolion arbennig Gwaith adeiladu ar gyfer adeiladau sy’n gysylltiedig ag addysg ac ymchwil
45214210 Gwaith adeiladu ysgolion cynradd Gwaith adeiladu ar gyfer adeiladau sy’n gysylltiedig ag addysg ac ymchwil
45214220 Gwasanaethau addysg uwchradd Gwaith adeiladu ar gyfer adeiladau sy’n gysylltiedig ag addysg ac ymchwil
71000000 Gwasanaethau pensaernïol, adeiladu, peirianneg ac archwilio Adeiladu ac Eiddo Tiriog

Lleoliadau Dosbarthu

ID Disgrifiad
1013 Conwy a Sir Ddinbych

Cyfyngiadau Rhanbarthol ar y Rhybuddion

Mae’r prynwr wedi cyfyngu’r rhybuddion ar gyfer yr hysbysiad hwn i gyflenwyr yn y rhanbarthau canlynol.

ID Disgrifiad
Nid oes cyfyngiadau ar y rhybuddion ar gyfer yr hysbysiad hwn.

Ynglŷn â'r prynwr

Prif gyswllt:
peter.simpson@denbighshire.gov.uk
Cyswllt gweinyddol:
peter.simpson@denbighshire.gov.uk
Cyswllt technegol:
N/a
Cyswllt arall:
N/a

Gwybodaeth bellach

Dyddiad Manylion
Nid oes unrhyw wybodaeth bellach wedi'i lanlwytho.

0800 222 9004

Mae'r llinellau ar agor rhwng 8:30am a 5pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.

We welcome calls in Welsh.