Disgrifiad o'r nwyddau neu'r gwasanaethau sydd eu hangen
Mae Comisiynwyr Heddlu a Throseddu (CHTh) yn gweithredu fel llais y cyhoedd ar faterion plismona a throsedd, ac maen nhw’n gyfrifol am osod y cyfeiriad strategol ar gyfer plismona o fewn eu hardaloedd heddlu unigol.
Maen nhw’n gysylltiedig â gweithredu deddfwriaethau cwynion ac ymddygiad newydd sy’n deillio o ddiwygiadau unplygrwydd heddlu 2019, a gychwynnodd ar 1 Chwefror 2020. Elfen allweddol o’r diwygiadau yw cynnal adolygiadau annibynnol o gwynion heddlu lle mae’r Comisiynydd wedi’i asesu fel y corff adolygu annibynnol ac mae’r achwynydd yn gwneud cais ffurfiol ar gyfer adolygiad mewn perthynas â’r ffordd yr ymdriniodd yr Heddlu â’i gŵyn.
Am wybodaeth, gweler isod ddolenni i’r Rheoliadau:
• Rheoliadau’r Heddlu (Cwynion a Chamymddwyn) 2020: http://www.legislation.gov.uk/id/uksi/2020/2
• Rheoliadau’r Heddlu (Ymddygiad) 2020: http://www.legislation.gov.uk/id/uksi/2020/4
• Rheoliadau’r Heddlu (Perfformiad) 2020: http://www.legislation.gov.uk/id/uksi/2020/3
Bydd hyn yn mynnu capasiti i ymchwilio a gwerthuso prosesau a gweithdrefnau cwyno’r heddlu’n annibynnol fel y maent yn berthnasol i achosion unigol, ac ar ôl hynny, gwneud argymhellion i’r Comisiynydd Heddlu a Throseddu perthnasol, a fydd yna’n penderfynu ar ganlyniad yr adolygiad.
Mae Comisiynwyr Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys, Gwent a Gogledd Cymru’n ceisio penodi darparwr gwasanaeth annibynnol i gynnal adolygiadau annibynnol ar eu rhan.
Bydd y cytundeb am gyfnod o 36 mis â’r dewis o’i estyn am gyfnod pellach o 2 x 12 mis. Bydd y cytundeb yn cychwyn ar 03/04/2022.
NODYN: Mae’r awdurdod yn defnyddio eDendro Cymru i gynnal y broses gaffael hon. I gael rhagor o wybodaeth mynegwch eich diddordeb ar GwerthwchiGymru ar https://www.sell2wales.gov.wales/search/search_switch.aspx?ID=116818
|