Skip to main content

Rydym wedi cadw rhai ffeiliau o'r enw cwcis ar eich dyfais. Y cwcis hyn yw:

  • Hanfodol ar gyfer y safle i weithio
  • Helpu i wella ein gwefan drwy gasglu ac adrodd gwybodaeth am sut rydych chi'n ei defnyddio

Hoffem hefyd arbed rhai cwcis i helpu i deilwra cyfathrebu.

BETA
Rydych yn edrych ar fersiwn wedi'i ddiweddaru o'r gwasanaeth hwn - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Hysbysiad o Gontract

Gwasanaethau Archwilio Mewnol S4C Internal Audit Services

  • Cyhoeddwyd gyntaf: 16 Rhagfyr 2021
  • Wedi'i addasu ddiwethaf: 16 Rhagfyr 2021
  • Efallai na fydd y ffeil hon yn gwbl hygyrch.

  •  

Eicon Gwybodaeth
Rydych yn gweld hysbysiad sydd wedi dod i ben.

Cynnwys

Crynodeb

OCID:
ocds-kuma6s-116876
Cyhoeddwyd gan:
S4C
ID Awudurdod:
AA0674
Dyddiad cyhoeddi:
16 Rhagfyr 2021
Dyddiad Cau:
21 Ionawr 2022
Math o hysbysiad:
Hysbysiad o Gontract
Mae ganddo ddogfennau:
Yndi
Wedi SPD:
Nac Ydi
Mae ganddo gynllun lleihau carbon:
AMH

Crynodeb

S4C yw’r unig sianel deledu Cymraeg yn y byd ac un o’r pum darlledwr teledu gwasanaeth cyhoeddus yn y DU. Mae’n awdurdod darlledu annibynnol a sefydlwyd o dan Ddeddf Darlledu 1981, ac mae’n cael ei rheoleiddio gan Ddeddf Gyfathrebu 2003 a’r Ddeddf Darlledu 1990. Mae S4C yn darparu ystod eang o raglenni amrywiol o safon uchel. Mae’r sianel yn darlledu dros 115 awr o raglenni Cymraeg bob wythnos. Mae rhaglenni S4C ar gael i’w gwylio’n fyw ar wefan S4C trwy fandllydan a’r gwasanaeth gwylio ar alw ar wefan s4c.cymru, trwy iPlayer y BBC ac ar YouView, teledu clyfar, Sky, Freeview a nifer o blatfformau eraill. O Ebrill 2022 ymlaen, bydd cyllid cyhoeddus S4C yn dod o ffi’r drwydded – gyda’r Adran Dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon (ADdCCh) yn pennu gwerth y cyllid hwnnw. Mae S4C yn cynhyrchu incwm ychwanegol drwy weithgareddau masnachol a hysbysebu. Yn ogystal mae'r BBC yn darparu 10 awr o raglenni Cymraeg i S4C wedi ei ariannu gyfran y BBC o ffi’r drwydded. Bydd ystod y gwaith o dan gytundeb y gwasanaeth yn cynnwys archwiliad o’r cofnodion a phrosesau cyfrifo ac eraill o flynyddoedd ariannol ar gyfer cyfnod tair blynedd cychwynnol o’r flwyddyn adrodd 2022/23, yn unol â rhaglen waith a gytunir gyda’r Pwyllgor. Mae S4C yn amcangyfrif y byddai nifer y diwrnodau sydd eu hangen i gyflawni’r gwasanaeth tua 25 diwrnod y flwyddyn (gan gynnwys cynllunio a gweinyddu). Mae'r rhan fwyaf o'r dogfennau sy'n ymwneud â'r gwasanaeth ar gael yn Gymraeg yn unig, felly bydd angen i’r Tendrwyr sicrhau a dangos gallu ieithyddol digonol yn eu cais. Mae dyletswydd ar S4C i sicrhau nad oes unrhyw gymhorthdal uniongyrchol nac anuniongyrchol ar gyfer ei gweithgareddau masnachol yn dod o Gronfa’r Gwasanaeth Cyhoeddus. Mae dyletswydd hefyd i ymdrin ar wahân â’r Gronfa’r Gwasanaeth Cyhoeddus a’r Gronfa Gyffredinol. Dylai ceisiadau ddangos cynlluniau’r Tendrwr i adlewyrchu’r gofynion hyn o fewn y swyddogaeth archwilio. Disgwylir i’r Tendrwr llwyddiannus wneud asesiad risg ar y cychwyn ac i lunio cynllun archwilio tair blynedd newydd yn ystod blwyddyn gyntaf y cytundeb. Dylai’r Tendrwr esbonio sut y bydd yn cyfathrebu gyda’r Swyddfa Archwilio Genedlaethol, fel archwilwyr allanol S4C, ac i gadarnhau y bydd yn caniatáu mynediad dilyffethair iddynt i’w papurau gweithiol.

Testun llawn y rhybydd

HYSBYSIAD O GONTRACT - CENEDLAETHOL

SERVICES

1 Manylion yr Awdurdod

1.1

Enw a Chyfeiriad yr Awdurdod


S4C

Canolfan S4C yr Egin, Heol y Coleg,

Caerfyrddin

SA31 3EQ

UK

Geraint Pugh

+44 3305880402


s4c.cymru

1.2

Cyfeiriad ar gyfer cael dogfennaeth

Fel yn I.1

1.3

Mae'n rhaid dychwelyd dogfennau wedi'u cwblhau at:


S4C

Canolfan S4C yr Egin, Heol y Coleg,

Caerfyrddin

SA31 3EQ

UK


+44 3305880402

tendrarchwilio@s4c.cymru

s4c.cymru

2 Manylion y Contract

2.1

Teitl

Gwasanaethau Archwilio Mewnol S4C Internal Audit Services

2.2

Disgrifiad o'r nwyddau neu'r gwasanaethau sydd eu hangen

S4C yw’r unig sianel deledu Cymraeg yn y byd ac un o’r pum darlledwr teledu gwasanaeth cyhoeddus yn y DU. Mae’n awdurdod darlledu annibynnol a sefydlwyd o dan Ddeddf Darlledu 1981, ac mae’n cael ei rheoleiddio gan Ddeddf Gyfathrebu 2003 a’r Ddeddf Darlledu 1990.

Mae S4C yn darparu ystod eang o raglenni amrywiol o safon uchel. Mae’r sianel yn darlledu dros 115 awr o raglenni Cymraeg bob wythnos. Mae rhaglenni S4C ar gael i’w gwylio’n fyw ar wefan S4C trwy fandllydan a’r gwasanaeth gwylio ar alw ar wefan s4c.cymru, trwy iPlayer y BBC ac ar YouView, teledu clyfar, Sky, Freeview a nifer o blatfformau eraill.

O Ebrill 2022 ymlaen, bydd cyllid cyhoeddus S4C yn dod o ffi’r drwydded – gyda’r Adran Dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon (ADdCCh) yn pennu gwerth y cyllid hwnnw. Mae S4C yn cynhyrchu incwm ychwanegol drwy weithgareddau masnachol a hysbysebu. Yn ogystal mae'r BBC yn darparu 10 awr o raglenni Cymraeg i S4C wedi ei ariannu gyfran y BBC o ffi’r drwydded.

Bydd ystod y gwaith o dan gytundeb y gwasanaeth yn cynnwys archwiliad o’r cofnodion a phrosesau cyfrifo ac eraill o flynyddoedd ariannol ar gyfer cyfnod tair blynedd cychwynnol o’r flwyddyn adrodd 2022/23, yn unol â rhaglen waith a gytunir gyda’r Pwyllgor.

Mae S4C yn amcangyfrif y byddai nifer y diwrnodau sydd eu hangen i gyflawni’r gwasanaeth tua 25 diwrnod y flwyddyn (gan gynnwys cynllunio a gweinyddu).

Mae'r rhan fwyaf o'r dogfennau sy'n ymwneud â'r gwasanaeth ar gael yn Gymraeg yn unig, felly bydd angen i’r Tendrwyr sicrhau a dangos gallu ieithyddol digonol yn eu cais.

Mae dyletswydd ar S4C i sicrhau nad oes unrhyw gymhorthdal uniongyrchol nac anuniongyrchol ar gyfer ei gweithgareddau masnachol yn dod o Gronfa’r Gwasanaeth Cyhoeddus. Mae dyletswydd hefyd i ymdrin ar wahân â’r Gronfa’r Gwasanaeth Cyhoeddus a’r Gronfa Gyffredinol. Dylai ceisiadau ddangos cynlluniau’r Tendrwr i adlewyrchu’r gofynion hyn o fewn y swyddogaeth archwilio.

Disgwylir i’r Tendrwr llwyddiannus wneud asesiad risg ar y cychwyn ac i lunio cynllun archwilio tair blynedd newydd yn ystod blwyddyn gyntaf y cytundeb.

Dylai’r Tendrwr esbonio sut y bydd yn cyfathrebu gyda’r Swyddfa Archwilio Genedlaethol, fel archwilwyr allanol S4C, ac i gadarnhau y bydd yn caniatáu mynediad dilyffethair iddynt i’w papurau gweithiol.

NODER: Ewch i'r Wefan yn https://www.sell2wales.gov.wales/Search/Search_Switch.aspx?ID=116876 i gofrestru eich diddordeb yn yr hysbysiad hwn a chael unrhyw wybodaeth ychwanegol.

2.3

Cod a Dosbarthiad yr Hysbysiad

79200000 Accounting, auditing and fiscal services
79210000 Accounting and auditing services
79212000 Auditing services
79212100 Financial auditing services
79212200 Internal audit services
1014 De-orllewin Cymru (Sir Gaerfyrddin, Sir Benfro, Ceredigion)
1022 Caerdydd a Bro Morgannwg

2.4

Cyfanswm maint neu gwmpas y tendr

Bydd y cytundeb am gyfnod cychwynnol o dair mlynedd.

3 Amodau ar gyfer Cymryd Rhan

3.1

Safonau gofynnol a'r cymhwyster sydd ei angen

Mae S4C yn chwilio am ymatebion oddi wrth gwmniau sy'n medru dangos profiad o ddarparu gwasanaethau archwilio yn llwyddiannus.

4 Gwybodaeth Weinyddol

4.1

Math o Weithdrefn

Un cam

4.2

Rhif cyfeirnod a roddwyd i'r hysbysiad gan yr awdurdod contractio

N/a

4.3

Terfynau Amser



Terfyn amser ar gyfer derbyn tendrau wedi'u cwblhau
     21 - 01 - 2022  Amser   12:00

Dyddiad dyfarnu amcangyfrifedig   28 - 02 - 2022

4.5

Yr iaith neu'r ieithoedd y gellir ei/eu defnyddio i lunio tendrau neu geisiadau i gymryd rhan

EN   CY  

4.6

Blwch Postio Cyflwyno Tendrau

5 Gwybodaeth Arall

5.1

Gwybodaeth Ychwanegol

Ni fydd rheidrwydd ar S4C i dderbyn unrhyw dendr ac mae S4C yn cadw’r hawl: (a) i dynnu yn ôl o a/neu roi’r gorau i a/neu ohirio’r broses dendro hon ar unrhyw adeg; a/neu (b) i beidio dyfarnu unrhyw gytundeb o ganlyniad i’r broses dendro hon.

Am ragor o wybodaeth am ofynion a’r broses dendro hon, cyfeiriwch at y Gwahoddiad i Dendro sydd at gael ar wefan S4C (www.s4c.cymru) trwy glicio ar ‘tendrau’ a dilyn y ddolen gyswllt.

Rhaid i gwmnïau sy’n dymuno cymryd rhan yn y tendr hwn gael a chwblhau’r Gwahoddiad i Dendro. Ni fydd ceisiadau nad ydynt yn cael eu cyflwyno yn unol â’r Gwahoddiad i Dendro yn cael eu hystyried.

Mae S4C yn cadw’r hawl i roi’r gorau ddyfarnu’r cytundeb hwn ar unrhyw adeg o’r broses dendro ac i beidio â derbyn unrhyw dendrau a gyflwynwyd.

Rhyddid Gwybodaeth

Mae’r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth (“RhG”) 2000 yn weithredol i S4C. Gall fod gofyn i S4C ddatgelu unrhyw wybodaeth a ddarperir gan unrhyw gwmni i S4C yn unol â’r RhG. Os bydd unrhyw Dendrwr o’r farn bod unrhyw wybodaeth a ddarperir ganddo i S4C yn sgil y gwahoddiad hwn, o natur gyfrinachol neu sensitif yn fasnachol, dylai’r Tendrwr nodi hynny yn benodol gan nodi’r rhesymau dros ystyried y fath wybodaeth yn wybodaeth sensitif. Noder, serch hynny, na fydd nodi bod gwybodaeth yn gyfrinachol neu’n sensitif yn fasnachol yn sicrhau y bydd yn cael ei eithrio rhag ei ddadlennu. Mae S4C yn cadw’r hawl i benderfynu yn ei disgresiwn llwyr os yw unrhyw wybodaeth arbennig wedi ei eithrio rhag ei ddadlennu.

Diogelu Data

Trwy gyflwyno ymateb i’r tendr hwn, mae Tendrwyr yn cadarnhau eu bod wedi rhoi gwybod i bob unigolyn a nodir yng nghyflwyniad y tendr y byddant yn rhannu eu data personol fel hyn. Mae Tendrwyr yn cydnabod y bydd S4C yn prosesu’r holl ddata personol a ddarperir fel rhan o ymateb y tendr yn unol â’r ddeddfwriaeth diogelu data berthnasol (gan gynnwys y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data 2016 a Deddf Diogelu Data 2018). Mae Hysbysiad Preifatrwydd S4C ar gael yn www.s4c.cymru ac mae Tendrwyr yn cadarnhau trwy hyn y byddant yn hysbysu pob unigolyn y mae eu data personol yn cael ei ddarparu i S4C. Bydd S4C yn prosesu unrhyw ddata personol a ddarperir yn ymatebion y tendr ar y sail ei bod o fudd cyfreithlon i’r Tendrwr ac S4C i brosesu’r holl ddata personol a ddarperir fel rhan o ymateb y tendr at ddiben gwerthuso ymateb y tendr.

(WA Ref:116876)

Mae'r prynwr yn ystyried bod y contract hwn yn addas ar gyfer ceisiadau consortia.

5.2

Dogfennaeth Ychwanegol

5.3

Dyddiad cyhoeddi'r hysbysiad hwn

  16 - 12 - 2021

Codio

Categorïau nwyddau

ID Teitl Prif gategori
79212100 Gwasanaethau archwilio ariannol Gwasanaethau eiriolaeth
79212200 Gwasanaethau archwilio mewnol Gwasanaethau eiriolaeth
79210000 Gwasanaethau cyfrifyddu ac archwilio Gwasanaethau cyfrifyddu, archwilio a chyllidol
79200000 Gwasanaethau cyfrifyddu, archwilio a chyllidol Gwasanaethau busnes: y gyfraith, marchnata, ymgynghori, recriwtio, argraffu a diogelwch
79212000 Gwasanaethau eiriolaeth Gwasanaethau cyfrifyddu ac archwilio

Lleoliadau Dosbarthu

ID Disgrifiad
1022 Caerdydd a Bro Morgannwg
1014 De-orllewin Cymru (Sir Gaerfyrddin, Sir Benfro, Ceredigion)

Cyfyngiadau Rhanbarthol ar y Rhybuddion

Mae’r prynwr wedi cyfyngu’r rhybuddion ar gyfer yr hysbysiad hwn i gyflenwyr yn y rhanbarthau canlynol.

ID Disgrifiad
Nid oes cyfyngiadau ar y rhybuddion ar gyfer yr hysbysiad hwn.

Ynglŷn â'r prynwr

Prif gyswllt:
N/a
Cyswllt gweinyddol:
N/a
Cyswllt technegol:
N/a
Cyswllt arall:
tendrarchwilio@s4c.cymru

Gwybodaeth bellach

Dyddiad Manylion
Nid oes unrhyw wybodaeth bellach wedi'i lanlwytho.

Dogfennau Ychwanegol

Mae'r dogfennau ychwanegol canlynol wedi'u hatodi i'r hysbysiad hwn. I gael y dogfennau hyn, dewiswch enwau'r ffeiliau unigol isod.

Dogfennau cyfredol

pdf
pdf237.20 KB
Gofyn am fformat gwahanol.
pdf
pdf241.79 KB
Gofyn am fformat gwahanol.

Dogfennau wedi'u disodli

Nid oes unrhyw fersiynau blaenorol o'r dogfennau hyn


0800 222 9004

Mae'r llinellau ar agor rhwng 8:30am a 5pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.

We welcome calls in Welsh.