Skip to main content

Rydym wedi cadw rhai ffeiliau o'r enw cwcis ar eich dyfais. Y cwcis hyn yw:

  • Hanfodol ar gyfer y safle i weithio
  • Helpu i wella ein gwefan drwy gasglu ac adrodd gwybodaeth am sut rydych chi'n ei defnyddio

Hoffem hefyd arbed rhai cwcis i helpu i deilwra cyfathrebu.

BETA
Rydych yn edrych ar fersiwn wedi'i ddiweddaru o'r gwasanaeth hwn - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Hysbysiad o Gontract

Tendr ar gyfer darparu Gwasanaeth Cyngor Pensiwn

  • Cyhoeddwyd gyntaf: 09 Chwefror 2024
  • Wedi'i addasu ddiwethaf: 09 Chwefror 2024
  • Efallai na fydd y ffeil hon yn gwbl hygyrch.

  •  

Eicon Gwybodaeth
Rydych yn gweld hysbysiad sydd wedi dod i ben.

Cynnwys

Crynodeb

OCID:
ocds-kuma6s-138921
Cyhoeddwyd gan:
S4C
ID Awudurdod:
AA0674
Dyddiad cyhoeddi:
09 Chwefror 2024
Dyddiad Cau:
01 Mawrth 2024
Math o hysbysiad:
Hysbysiad o Gontract
Mae ganddo ddogfennau:
Yndi
Wedi SPD:
Nac Ydi
Mae ganddo gynllun lleihau carbon:
Nac Ydi

Crynodeb

Mae S4C yn edrych i apwyntio darparwr gwasanaeth pensiwn yn dechrau 5 Ebrill 2024 i ddarparu’r gwasanaethau a ddisgrifir isod ar draws y tri lleoliad (y “Gwasanaethau”): 2.2.1. darparu’r rhyngwyneb rhwng S4C/ei gweithwyr a’r cynllun grŵp a’i darparwr o bryd i’w gilydd; 2.2.2. delio gyda gweinyddiaeth cynllun grŵp, er enghraifft cofrestru aelodau newydd fel sydd angen gan S4C a darparu iddyn nhw waith papur y cynllun a phrosesi newidiadau i fanylion personol neu gyfarwyddiadau aelod; 2.2.3. cynghori gweithwyr newydd S4C ar eu opsiynau pensiwn a phrosesi unrhyw drosglwyddiadau o’u pensiynau; 2.2.4. darparu cyngor ar fuddsoddiadau i aelodau ar eu dewis o gronfeydd o fewn y cynllun grŵp a phrosesi unrhyw newidiadau; 2.2.5. darparu adolygiadau unigol fel sydd angen, er enghraifft adolygiadau cronfeydd, adroddiadau opsiynau ymddeoliad ac adroddiadau lwfans oes; 2.2.6. cynghori a chynorthwyo aelodau ar eu opsiynau pensiwn pan yn gadael S4C a phrosesi eu opsiynau lle yn berthnasol; 2.2.7. cynghori a chynorthwyo aelodau gyda’u ymddeoliad o S4C, gan gynnwys derbyn a thalu’r budd-daliadau; 2.2.8. darparu diweddariadau rheoleiddiol pensiwn cyffredinol i weithwyr S4C ar faterion a all effeithio nhw; 2.2.9. hysbysu S4C o unrhyw newidiadau rheoleiddiol pensiwn a all effeithio ar S4C, cynghori ar y goblygiadau a chynorthwyo gyda gweithredu unrhyw newidiadau sydd eu hangen; 2.2.10. sicrhau bod y gwaith papur a ddarparwyd i weithwyr S4C yn gyfredol ac yn cydymffurfio â darpariaethau treth a deddfwriaeth; 2.2.11. cynorthwyo aelodau â chwestiynau cyffredinol ynglŷn a’u pensiwn a’u cynorthwyo i ddatrys unrhyw broblemau cysylltiedig; 2.2.12. cynorthwyo S4C i gydymffurfio â’u gofynion cofrestriadau awtomatig; ac 2.2.13. o bryd i’w gilydd, adolygu a meincnodi darparwr y cynllun grŵp, rhoi awgrymiadau i S4C, a chynorthwyo â gweithredu unrhyw newidiadau. Mae unrhyw gyfeiriad at ‘gyngor’ neu ‘gynghori’ yn y Gwasanaethau uchod yn cyfeirio at wneud awgrymiadau penodol, ffurfiol i aelod a fyddai gyfystyr â chyngor rheoledig yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol. Bydd y gwasanaethau yn cynnwys ymweliadau safle i bob swyddfa S4C o bryd i’w gilydd, gan gynnwys ei swyddfeydd yng Nghaerdydd, Caerfyrddin a Chaernarfon, cynnal cyfarfodydd unigol gydag aelodau S4C, ac hefyd paratoi cyflwyniadau i weithwyr S4C pan yn briodol. Bydd y gwaith papur yn cynnwys adroddiadau unigol ac hefyd pecynnau safonol ar gyfer y cynllun. Bydd y Gwasanaethau hefyd yn cynnwys mynychu cyfarfodydd gyda staff S4C sydd yn gyfrifol am faterion pensiwn S4C. Ni fydd disgwyl i’r darparwr llwyddiannus gynghori ar y Cynllun Budd Diffiniedig, ond fe all ddealltwriaeth o’r cynllun fod yn ofynnol i allu darparu cyngor cyfannol i aelodau o’r cynllun. I osgoi amheuaeth, ni fydd rhaid i’r darparwr llwyddiannus gynghori ar drosglwyddiadau o’r Cynllun Budd Diffiniedig. Bydd disgwyl i’r darparwr llwyddiannus gynghori y rhai a fydd yn ymddeol neu yn gadael S4C ar eu opsiynau pensiwn ac ar hawlio eu budd-daliadau, ond fel arall ni fydd disgwyl i chi gynghori unrhyw aelod sydd ddim bellach yn cyflogedig gan S4C.

Testun llawn y rhybydd

HYSBYSIAD O GONTRACT - CENEDLAETHOL

SERVICES

1 Manylion yr Awdurdod

1.1

Enw a Chyfeiriad yr Awdurdod


S4C

Canolfan S4C yr Egin, Heol y Coleg,

Caerfyrddin

SA31 3EQ

UK

Elin Morris

+44 3305880402


http://s4c.cymru

1.2

Cyfeiriad ar gyfer cael dogfennaeth


S4C

Canolfan S4C yr Egin, Heol y Coleg,

Caerfyrddin

SA31 3EQ

UK

Elin Morris

+44 3305880402

elin.morris@s4c.cymru

http://s4c.cymru

1.3

Mae'n rhaid dychwelyd dogfennau wedi'u cwblhau at:

Fel yn I.1

2 Manylion y Contract

2.1

Teitl

Tendr ar gyfer darparu Gwasanaeth Cyngor Pensiwn

2.2

Disgrifiad o'r nwyddau neu'r gwasanaethau sydd eu hangen

Mae S4C yn edrych i apwyntio darparwr gwasanaeth pensiwn yn dechrau 5 Ebrill 2024 i ddarparu’r gwasanaethau a ddisgrifir isod ar draws y tri lleoliad (y “Gwasanaethau”):

2.2.1. darparu’r rhyngwyneb rhwng S4C/ei gweithwyr a’r cynllun grŵp a’i darparwr o bryd i’w gilydd;

2.2.2. delio gyda gweinyddiaeth cynllun grŵp, er enghraifft cofrestru aelodau newydd fel sydd angen gan S4C a darparu iddyn nhw waith papur y cynllun a phrosesi newidiadau i fanylion personol neu gyfarwyddiadau aelod;

2.2.3. cynghori gweithwyr newydd S4C ar eu opsiynau pensiwn a phrosesi unrhyw drosglwyddiadau o’u pensiynau;

2.2.4. darparu cyngor ar fuddsoddiadau i aelodau ar eu dewis o gronfeydd o fewn y cynllun grŵp a phrosesi unrhyw newidiadau;

2.2.5. darparu adolygiadau unigol fel sydd angen, er enghraifft adolygiadau cronfeydd, adroddiadau opsiynau ymddeoliad ac adroddiadau lwfans oes;

2.2.6. cynghori a chynorthwyo aelodau ar eu opsiynau pensiwn pan yn gadael S4C a phrosesi eu opsiynau lle yn berthnasol;

2.2.7. cynghori a chynorthwyo aelodau gyda’u ymddeoliad o S4C, gan gynnwys derbyn a thalu’r budd-daliadau;

2.2.8. darparu diweddariadau rheoleiddiol pensiwn cyffredinol i weithwyr S4C ar faterion a all effeithio nhw;

2.2.9. hysbysu S4C o unrhyw newidiadau rheoleiddiol pensiwn a all effeithio ar S4C, cynghori ar y goblygiadau a chynorthwyo gyda gweithredu unrhyw newidiadau sydd eu hangen;

2.2.10. sicrhau bod y gwaith papur a ddarparwyd i weithwyr S4C yn gyfredol ac yn cydymffurfio â darpariaethau treth a deddfwriaeth;

2.2.11. cynorthwyo aelodau â chwestiynau cyffredinol ynglŷn a’u pensiwn a’u cynorthwyo i ddatrys unrhyw broblemau cysylltiedig;

2.2.12. cynorthwyo S4C i gydymffurfio â’u gofynion cofrestriadau awtomatig; ac

2.2.13. o bryd i’w gilydd, adolygu a meincnodi darparwr y cynllun grŵp, rhoi awgrymiadau i S4C, a chynorthwyo â gweithredu unrhyw newidiadau.

Mae unrhyw gyfeiriad at ‘gyngor’ neu ‘gynghori’ yn y Gwasanaethau uchod yn cyfeirio at wneud awgrymiadau penodol, ffurfiol i aelod a fyddai gyfystyr â chyngor rheoledig yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol.

Bydd y gwasanaethau yn cynnwys ymweliadau safle i bob swyddfa S4C o bryd i’w gilydd, gan gynnwys ei swyddfeydd yng Nghaerdydd, Caerfyrddin a Chaernarfon, cynnal cyfarfodydd unigol gydag aelodau S4C, ac hefyd paratoi cyflwyniadau i weithwyr S4C pan yn briodol. Bydd y gwaith papur yn cynnwys adroddiadau unigol ac hefyd pecynnau safonol ar gyfer y cynllun. Bydd y Gwasanaethau hefyd yn cynnwys mynychu cyfarfodydd gyda staff S4C sydd yn gyfrifol am faterion pensiwn S4C.

Ni fydd disgwyl i’r darparwr llwyddiannus gynghori ar y Cynllun Budd Diffiniedig, ond fe all ddealltwriaeth o’r cynllun fod yn ofynnol i allu darparu cyngor cyfannol i aelodau o’r cynllun. I osgoi amheuaeth, ni fydd rhaid i’r darparwr llwyddiannus gynghori ar drosglwyddiadau o’r Cynllun Budd Diffiniedig.

Bydd disgwyl i’r darparwr llwyddiannus gynghori y rhai a fydd yn ymddeol neu yn gadael S4C ar eu opsiynau pensiwn ac ar hawlio eu budd-daliadau, ond fel arall ni fydd disgwyl i chi gynghori unrhyw aelod sydd ddim bellach yn cyflogedig gan S4C.

NODER: Ewch i'r Wefan yn https://www.sell2wales.gov.wales/Search/Search_Switch.aspx?ID=138925 i gofrestru eich diddordeb yn yr hysbysiad hwn a chael unrhyw wybodaeth ychwanegol.

2.3

Cod a Dosbarthiad yr Hysbysiad

66131100 Pension investment services
66141000 Pension fund management services
66520000 Pension services
66522000 Group pension services
66523000 Pension fund consultancy services
66523100 Pension fund administration services
1012 Gwynedd
1014 De-orllewin Cymru (Sir Gaerfyrddin, Sir Benfro, Ceredigion)
1022 Caerdydd a Bro Morgannwg

2.4

Cyfanswm maint neu gwmpas y tendr

Bydd y cytundeb am gyfnod o 2 flynedd gyda’r opsiwn i ymestyn am flwyddyn bellach.

3 Amodau ar gyfer Cymryd Rhan

3.1

Safonau gofynnol a'r cymhwyster sydd ei angen

Gwahoddir tendrau gan ddarparwyr sy'n gallu dangos profiad o ddarparu gwasanaeth cynghori pensiwn yn llwyddiannus.

4 Gwybodaeth Weinyddol

4.1

Math o Weithdrefn

Un cam

4.2

Rhif cyfeirnod a roddwyd i'r hysbysiad gan yr awdurdod contractio

N/a

4.3

Terfynau Amser



Terfyn amser ar gyfer derbyn tendrau wedi'u cwblhau
     01 - 03 - 2024  Amser   12:00

Dyddiad dyfarnu amcangyfrifedig   11 - 03 - 2024

4.5

Yr iaith neu'r ieithoedd y gellir ei/eu defnyddio i lunio tendrau neu geisiadau i gymryd rhan

EN   CY  

4.6

Blwch Postio Cyflwyno Tendrau

5 Gwybodaeth Arall

5.1

Gwybodaeth Ychwanegol

Ni fydd rheidrwydd ar S4C i dderbyn unrhyw dendr ac mae S4C yn cadw’r hawl: (a) i dynnu yn ôl o a/neu roi’r gorau i a/neu ohirio’r broses dendro hon ar unrhyw adeg; a/neu (b) i beidio dyfarnu unrhyw gytundeb o ganlyniad i’r broses dendro hon.

Am ragor o wybodaeth am ofynion a’r broses dendro hon, cyfeiriwch at y Gwahoddiad i Dendro sydd at gael ar wefan S4C (www.s4c.cymru) trwy glicio ar ‘tendrau’ a dilyn y ddolen gyswllt.

Rhaid i gwmnïau sy’n dymuno cymryd rhan yn y tendr hwn gael a chwblhau’r Gwahoddiad i Dendro. Ni fydd ceisiadau nad ydynt yn cael eu cyflwyno yn unol â’r Gwahoddiad i Dendro yn cael eu hystyried.

Mae S4C yn cadw’r hawl i roi’r gorau ddyfarnu’r cytundeb hwn ar unrhyw adeg o’r broses dendro ac i beidio â derbyn unrhyw dendrau a gyflwynwyd.

Rhyddid Gwybodaeth

Mae’r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth (“RhG”) 2000 yn weithredol i S4C. Gall fod gofyn i S4C ddatgelu unrhyw wybodaeth a ddarperir gan unrhyw gwmni i S4C yn unol â’r RhG. Os bydd unrhyw Dendrwr o’r farn bod unrhyw wybodaeth a ddarperir ganddo i S4C yn sgil y gwahoddiad hwn, o natur gyfrinachol neu sensitif yn fasnachol, dylai’r Tendrwr nodi hynny yn benodol gan nodi’r rhesymau dros ystyried y fath wybodaeth yn wybodaeth sensitif. Noder, serch hynny, na fydd nodi bod gwybodaeth yn gyfrinachol neu’n sensitif yn fasnachol yn sicrhau y bydd yn cael ei eithrio rhag ei ddadlennu. Mae S4C yn cadw’r hawl i benderfynu yn ei disgresiwn llwyr os yw unrhyw wybodaeth arbennig wedi ei eithrio rhag ei ddadlennu.

Diogelu Data

Trwy gyflwyno ymateb i’r tendr hwn, mae Tendrwyr yn cadarnhau eu bod wedi rhoi gwybod i bob unigolyn a nodir yng nghyflwyniad y tendr y byddant yn rhannu eu data personol fel hyn. Mae Tendrwyr yn cydnabod y bydd S4C yn prosesu’r holl ddata personol a ddarperir fel rhan o ymateb y tendr yn unol â’r ddeddfwriaeth diogelu data berthnasol (gan gynnwys y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data 2016 a Deddf Diogelu Data 2018). Mae Hysbysiad Preifatrwydd S4C ar gael yn www.s4c.cymru ac mae Tendrwyr yn cadarnhau trwy hyn y byddant yn hysbysu pob unigolyn y mae eu data personol yn cael ei ddarparu i S4C. Bydd S4C yn prosesu unrhyw ddata personol a ddarperir yn ymatebion y tendr ar y sail ei bod o fudd cyfreithlon i’r Tendrwr ac S4C i brosesu’r holl ddata personol a ddarperir fel rhan o ymateb y tendr at ddiben gwerthuso ymateb y tendr.

(WA Ref:138925)

5.2

Dogfennaeth Ychwanegol

5.3

Dyddiad cyhoeddi'r hysbysiad hwn

  09 - 02 - 2024

Codio

Categorïau nwyddau

ID Teitl Prif gategori
66131100 Gwasanaethau buddsoddi pensiwn Gwasanaethau broceriaeth diogelwch
66523100 Gwasanaethau gweinyddu cronfeydd pensiwn Gwasanaethau ymgynghori ar gronfeydd pensiwn
66520000 Gwasanaethau pensiwn Gwasanaethau yswiriant a phensiwn
66522000 Gwasanaethau pensiwn grwp Gwasanaethau pensiwn
66141000 Gwasanaethau rheoli cronfeydd pensiwn Gwasanaethau rheoli portffolios
66523000 Gwasanaethau ymgynghori ar gronfeydd pensiwn Gwasanaethau pensiwn

Lleoliadau Dosbarthu

ID Disgrifiad
1022 Caerdydd a Bro Morgannwg
1014 De-orllewin Cymru (Sir Gaerfyrddin, Sir Benfro, Ceredigion)
1012 Gwynedd

Cyfyngiadau Rhanbarthol ar y Rhybuddion

Mae’r prynwr wedi cyfyngu’r rhybuddion ar gyfer yr hysbysiad hwn i gyflenwyr yn y rhanbarthau canlynol.

ID Disgrifiad
Nid oes cyfyngiadau ar y rhybuddion ar gyfer yr hysbysiad hwn.

Ynglŷn â'r prynwr

Prif gyswllt:
N/a
Cyswllt gweinyddol:
elin.morris@s4c.cymru
Cyswllt technegol:
N/a
Cyswllt arall:
N/a

Gwybodaeth bellach

Dyddiad Manylion
Nid oes unrhyw wybodaeth bellach wedi'i lanlwytho.

Dogfennau Ychwanegol

Mae'r dogfennau ychwanegol canlynol wedi'u hatodi i'r hysbysiad hwn. I gael y dogfennau hyn, dewiswch enwau'r ffeiliau unigol isod.

Dogfennau cyfredol

docx
docx77.33 KB
Gofyn am fformat gwahanol.
docx
docx89.36 KB
Gofyn am fformat gwahanol.
doc
doc188.00 KB
Gofyn am fformat gwahanol.
doc
doc167.00 KB
Gofyn am fformat gwahanol.
docx
docx84.15 KB
Gofyn am fformat gwahanol.

Dogfennau wedi'u disodli

Nid oes unrhyw fersiynau blaenorol o'r dogfennau hyn


0800 222 9004

Mae'r llinellau ar agor rhwng 8:30am a 5pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.

We welcome calls in Welsh.