Skip to main content

Rydym wedi cadw rhai ffeiliau o'r enw cwcis ar eich dyfais. Y cwcis hyn yw:

  • Hanfodol ar gyfer y safle i weithio
  • Helpu i wella ein gwefan drwy gasglu ac adrodd gwybodaeth am sut rydych chi'n ei defnyddio

Hoffem hefyd arbed rhai cwcis i helpu i deilwra cyfathrebu.

BETA
Rydych yn edrych ar fersiwn wedi'i ddiweddaru o'r gwasanaeth hwn - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Hysbysiad o Gontract

Cytundeb Darparu Gwasanaethau Archwilio Mewnol/Contract for the Provision of Internal Audit Services

  • Cyhoeddwyd gyntaf: 13 Ionawr 2015
  • Wedi'i addasu ddiwethaf: 13 Ionawr 2015
  • Fersiwn: N/A
  • Efallai na fydd y ffeil hon yn gwbl hygyrch.

  •  

Eicon Gwybodaeth
Rydych yn gweld hysbysiad sydd wedi dod i ben.

Cynnwys

Crynodeb

OCID:
ocds-kuma6s-021085
Cyhoeddwyd gan:
S4C
ID Awudurdod:
AA0674
Dyddiad cyhoeddi:
13 Ionawr 2015
Dyddiad Cau:
05 Chwefror 2015
Math o hysbysiad:
Hysbysiad o Gontract
Mae ganddo ddogfennau:
Yndi
Wedi SPD:
Nac Ydi
Mae ganddo gynllun lleihau carbon:
AMH

Crynodeb

1. Cyflwyniad 1.1 Mae Awdurdod S4C yn gyfrifol am ddarpariaeth a chydymffurfiaeth rheoleiddiol gwasanaethau S4C (yn amodol ar bwerau sydd gan Ofcom o dan y Ddeddf Gyfathrebiadau 2003). Mae’r gofynion statudol ar S4C wedi’u gosod allan yn Neddfau Darlledu 1990 a 1996 a’r Ddeddf Gyfathrebiadau 2003. Mae S4C yn gweithredu o dan Adrannau 203 hyd 207 (yn gynwysedig) ac Atodlen 12 Deddf Cyfathrebiadau 2003. Mae Adran 204 yn darparu bod yr Awdurdod yn gweithredu i ddarparu gwasanaethau rhaglenni teledu o safon uchel gyda’r bwriad iddynt fod ar gael yn gyfan gwbl neu yn bennaf i’r cyhoedd yng Nghymru. 1.2 Corfforaeth Statudol yw S4C sydd yn derbyn cyllid gan yr Adran dros Ddiwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon (ADdCCh), o’i incwm masnachol ac, ers 2013/14, o’r Ffi Drwydded trwy Ymddiriedolaeth y BBC. Mae hyn yn unol â’r Cytundeb Fframwaith o Medi 2011 rhwng yr Ysgrifennydd Gwladol dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon ag Ymddiriedolaeth y BBC a’r Cytundeb Gweithredu rhwng Ymddiriedolaeth y BBC ag Awdurdod S4C o Ionawr 2013. Mae S4C yn atebol i Ymddiriedolaeth y BBC am ddefnydd arian y ffi’r drwydded a ddaw drwy’r Ymddiriedolaeth. 1.3 Er mwyn galluogi'r Ysgrifennydd Gwladol dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon i weithredu'r newidiadau i ariannu S4C, diwygiwyd fformiwla cyllido blaenorol Awdurdod S4C ym mis Rhagfyr 2011 gan Adran 31 o’r Ddeddf Cyrff Cyhoeddus 2011. O dan y ddarpariaeth ddiwygiedig hon mae gan yr Ysgrifennydd Gwladol am Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon bellach ddyletswydd statudol i sicrhau ym 2012, a phob blwyddyn dilynol, y bydd Awdurdod S4C yn cael ei dalu swm y mae ef / hi yn ystyried ei fod yn ddigonol ar gyfer y gost i'r Awdurdod yn ystod y flwyddyn honno sy’n gysylltiedig â (a) darparu gwasanaethau cyhoeddus yr Awdurdod; a (b) threfnu darlledu neu dosbarthu’r gwasanaethau hynny. 1.4 Sefydlwyd nifer cyfyngedig o is-gwmnïau a berchenogir yn llwyr gan S4C sy’n cynhyrchu incwm masnachol drwy ystod o weithgareddau masnachol. 1.5 Rhennir cyllid S4C rhwng Cronfa’r Gwasanaeth Cyhoeddus, (sy’n cynnwys yr incwm a dderbynnir gan ADdCCh ac Ymddiriedolaeth y BBC), a’r Gronfa Gyffredinol (nad yw’n cynnwys yr incwm a dderbynnir gan ADdCCh ac Ymddiriedolaeth y BBC ond sy’n cwmpasu’r incwm o’r gweithgareddau masnachol hyn). Mae’r swyddogaethau archwilio dan sylw yn y tendr hwn yn ymestyn ar draws y ddwy gronfa. 1.6 Mae S4C hefyd yn derbyn o leiaf 10 awr ar gyfartaledd o raglenni Cymraeg bob wythnos gan y BBC am ddim. 1.7 Ym mis Hydref 2010, yn dilyn yr Adolygiad Cynhwysfawr o Wariant, gwelodd S4C toriad sylweddol yn ei gyllid. Er mwyn cyflawni'r arbedion angenrheidiol cynhaliodd y sefydliad proses ailstrwythuro sylweddol. 1.8 Mae Siarter Frenhinol bresennol y BBC yn rhedeg tan 31 Rhagfyr 2016. Oherwydd y dull o ariannu S4C bydd adnewyddu Siarter y BBC yn cael effaith ar S4C yn ystod y contract hwn. 1.9 Mae S4C wedi cyhoeddi’r bwriad i Adleoli ei bencadlys i Gaerfyrddin erbyn Ionawr 2018 ac i gydleoli rhai staff gyda BBC Cymru/Wales mewn adeilad newydd i’w adeiladu yng nghanol Caerdydd. 2. Cwmpas y Tendr 2.1 Bydd ystod y gwaith o dan y cytundeb Gwasanaethau Archwilio Mewnol yn cynnwys archwiliad o’r cofnodion a phrosesau cyfrifo o 2015/16 hyd 2017/18 yn unol â rhaglen waith a gytunir gyda Pwyllgor Archwilio a Rheoli Risg Awdurdod S4C. 2.2 Rydym yn amcangyfrif y byddai nifer y diwrnodau sydd eu hangen i gyflawni anghenion Archwilio Mewnol S4C tua 35 diwrnod y flwyddyn (gan gynnwys cynllunio a gweinyddu). 2.3 Bydd y rhan fwyaf o’r ddogfennaeth sy’n ymwneud â’r swyddogaeth archwilio ar gael yn y Gymraeg yn unig. Bydd felly angen i chi sicrhau a dangos gallu ieithyddol digonol yn eich cais. 2.4 Mae dyletswydd ar S4C i sicrhau nad oes unrhyw gymhorthdal uniongyrchol nac anuniongyrchol ar gyfer ei gweithgareddau masnachol yn dod o’r Gronfa’r Gwasanaeth Cyhoeddus. Hefyd, gofynnir iddi ymdrin ar wahân â’r Gronfa’r Gwasanaeth Cyhoeddus a’r Gronfa Gyffredinol. Felly, dylai ceisiadau ddangos cynlluniau’r ymgeisyd

Testun llawn y rhybydd

HYSBYSIAD O GONTRACT - CENEDLAETHOL

SERVICES

1 Manylion yr Awdurdod

1.1

Enw a Chyfeiriad yr Awdurdod


S4C

Parc Ty Glas, Llanisien,

Caerdydd

CF14 5DU

UK

Phil Williams

+44 2920741227


s4c.co.uk
http://www.s4c.co.uk/tendrau/c_index.shtml
http://www.s4c.co.uk/tendrau/c_index.shtml

1.2

Cyfeiriad ar gyfer cael dogfennaeth


S4C

Parc Ty Glas, Llanisien,

Caerdydd

CF14 5DU

UK


+44 2920741227


http://www.s4c.co.uk/tendrau/c_index.shtml

1.3

Mae'n rhaid dychwelyd dogfennau wedi'u cwblhau at:


S4C

Parc Ty Glas, Llanisien,

Caerdydd

CF14 5DU

UK

Phil Williams

+44 2920741227


http://www.s4c.co.uk/tendrau/c_index.shtml

2 Manylion y Contract

2.1

Teitl

Cytundeb Darparu Gwasanaethau Archwilio Mewnol/Contract for the Provision of Internal Audit Services

2.2

Disgrifiad o'r nwyddau neu'r gwasanaethau sydd eu hangen

1. Cyflwyniad

1.1 Mae Awdurdod S4C yn gyfrifol am ddarpariaeth a chydymffurfiaeth rheoleiddiol gwasanaethau S4C (yn amodol ar bwerau sydd gan Ofcom o dan y Ddeddf Gyfathrebiadau 2003). Mae’r gofynion statudol ar S4C wedi’u gosod allan yn Neddfau Darlledu 1990 a 1996 a’r Ddeddf Gyfathrebiadau 2003. Mae S4C yn gweithredu o dan Adrannau 203 hyd 207 (yn gynwysedig) ac Atodlen 12 Deddf Cyfathrebiadau 2003. Mae Adran 204 yn darparu bod yr Awdurdod yn gweithredu i ddarparu gwasanaethau rhaglenni teledu o safon uchel gyda’r bwriad iddynt fod ar gael yn gyfan gwbl neu yn bennaf i’r cyhoedd yng Nghymru.

1.2 Corfforaeth Statudol yw S4C sydd yn derbyn cyllid gan yr Adran dros Ddiwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon (ADdCCh), o’i incwm masnachol ac, ers 2013/14, o’r Ffi Drwydded trwy Ymddiriedolaeth y BBC. Mae hyn yn unol â’r Cytundeb Fframwaith o Medi 2011 rhwng yr Ysgrifennydd Gwladol dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon ag Ymddiriedolaeth y BBC a’r Cytundeb Gweithredu rhwng Ymddiriedolaeth y BBC ag Awdurdod S4C o Ionawr 2013. Mae S4C yn atebol i Ymddiriedolaeth y BBC am ddefnydd arian y ffi’r drwydded a ddaw drwy’r Ymddiriedolaeth.

1.3 Er mwyn galluogi'r Ysgrifennydd Gwladol dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon i weithredu'r newidiadau i ariannu S4C, diwygiwyd fformiwla cyllido blaenorol Awdurdod S4C ym mis Rhagfyr 2011 gan Adran 31 o’r Ddeddf Cyrff Cyhoeddus 2011. O dan y ddarpariaeth ddiwygiedig hon mae gan yr Ysgrifennydd Gwladol am Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon bellach ddyletswydd statudol i sicrhau ym 2012, a phob blwyddyn dilynol, y bydd Awdurdod S4C yn cael ei dalu swm y mae ef / hi yn ystyried ei fod yn ddigonol ar gyfer y gost i'r Awdurdod yn ystod y flwyddyn honno sy’n gysylltiedig â (a) darparu gwasanaethau cyhoeddus yr Awdurdod; a (b) threfnu darlledu neu dosbarthu’r gwasanaethau hynny.

1.4 Sefydlwyd nifer cyfyngedig o is-gwmnïau a berchenogir yn llwyr gan S4C sy’n cynhyrchu incwm masnachol drwy ystod o weithgareddau masnachol.

1.5 Rhennir cyllid S4C rhwng Cronfa’r Gwasanaeth Cyhoeddus, (sy’n cynnwys yr incwm a dderbynnir gan ADdCCh ac Ymddiriedolaeth y BBC), a’r Gronfa Gyffredinol (nad yw’n cynnwys yr incwm a dderbynnir gan ADdCCh ac Ymddiriedolaeth y BBC ond sy’n cwmpasu’r incwm o’r gweithgareddau masnachol hyn). Mae’r swyddogaethau archwilio dan sylw yn y tendr hwn yn ymestyn ar draws y ddwy gronfa.

1.6 Mae S4C hefyd yn derbyn o leiaf 10 awr ar gyfartaledd o raglenni Cymraeg bob wythnos gan y BBC am ddim.

1.7 Ym mis Hydref 2010, yn dilyn yr Adolygiad Cynhwysfawr o Wariant, gwelodd S4C toriad sylweddol yn ei gyllid. Er mwyn cyflawni'r arbedion angenrheidiol cynhaliodd y sefydliad proses ailstrwythuro sylweddol.

1.8 Mae Siarter Frenhinol bresennol y BBC yn rhedeg tan 31 Rhagfyr 2016. Oherwydd y dull o ariannu S4C bydd adnewyddu Siarter y BBC yn cael effaith ar S4C yn ystod y contract hwn.

1.9 Mae S4C wedi cyhoeddi’r bwriad i Adleoli ei bencadlys i Gaerfyrddin erbyn Ionawr 2018 ac i gydleoli rhai staff gyda BBC Cymru/Wales mewn adeilad newydd i’w adeiladu yng nghanol Caerdydd.

2. Cwmpas y Tendr

2.1 Bydd ystod y gwaith o dan y cytundeb Gwasanaethau Archwilio Mewnol yn cynnwys archwiliad o’r cofnodion a phrosesau cyfrifo o 2015/16 hyd 2017/18 yn unol â rhaglen waith a gytunir gyda Pwyllgor Archwilio a Rheoli Risg Awdurdod S4C.

2.2 Rydym yn amcangyfrif y byddai nifer y diwrnodau sydd eu hangen i gyflawni anghenion Archwilio Mewnol S4C tua 35 diwrnod y flwyddyn (gan gynnwys cynllunio a gweinyddu).

2.3 Bydd y rhan fwyaf o’r ddogfennaeth sy’n ymwneud â’r swyddogaeth archwilio ar gael yn y Gymraeg yn unig. Bydd felly angen i chi sicrhau a dangos gallu ieithyddol digonol yn eich cais.

2.4 Mae dyletswydd ar S4C i sicrhau nad oes unrhyw gymhorthdal uniongyrchol nac anuniongyrchol ar gyfer ei gweithgareddau masnachol yn dod o’r Gronfa’r Gwasanaeth Cyhoeddus. Hefyd, gofynnir iddi ymdrin ar wahân â’r Gronfa’r Gwasanaeth Cyhoeddus a’r Gronfa Gyffredinol. Felly, dylai ceisiadau ddangos cynlluniau’r ymgeisydd i adlewyrchu’r gofynion hyn yn y swyddogaeth archwilio. Disgwylir i’r ymgeisydd llwyddiannus wneud asesiad risg ar y cychwyn ac i lunio cynllun archwilio tair blynedd newydd yn ystod blwyddyn gyntaf y cytundeb newydd.

2.5 Dylid esbonio sut y byddwch yn cyfathrebu gyda’r archwilwyr allanol ac i gadarnhau y byddwch yn caniatáu mynediad dilyffethair iddynt i’ch papurau gweithiol.

2.6 Mae S4C yn cynnig penodiad tair blynedd. Bydd S4C yn adolygu’r cytundeb a pherfformiad yr ymgeisydd llwyddiannus ar ôl y flwyddyn gyntaf ac mae’n cadw’r hawl i derfynu’r cytundeb ar ddiwedd y flwyddyn gyntaf yn dilyn adolygiad o’r fath. Bydd yr adolygiad hwn yn ychwanegol i unrhyw adolygiadau rheolaidd a ddarparir yn y cytundeb.

NODER: Ewch i'r Wefan yn http://www.sell2wales.gov.uk/Search/Search_Switch.aspx?ID=21133 i gofrestru eich diddordeb yn yr hysbysiad hwn a chael unrhyw wybodaeth ychwanegol.

2.3

Cod a Dosbarthiad yr Hysbysiad

79212000 Auditing services
79212200 Internal audit services
1000 WALES

2.4

Cyfanswm maint neu gwmpas y tendr

Darparu gwasanaethau archwilio am dair blwyddyn ariannol.

3 Amodau ar gyfer Cymryd Rhan

3.1

Safonau gofynnol a'r cymhwyster sydd ei angen

4 Gwybodaeth Weinyddol

4.1

Math o Weithdrefn

Un cam

4.2

Rhif cyfeirnod a roddwyd i'r hysbysiad gan yr awdurdod contractio

N/a

4.3

Terfynau Amser



Terfyn amser ar gyfer derbyn tendrau wedi'u cwblhau
     05 - 02 - 2015  Amser   12:00

Dyddiad dyfarnu amcangyfrifedig   27 - 02 - 2015

4.5

Yr iaith neu'r ieithoedd y gellir ei/eu defnyddio i lunio tendrau neu geisiadau i gymryd rhan

EN  

Cymraeg

4.6

Blwch Postio Cyflwyno Tendrau

5 Gwybodaeth Arall

5.1

Gwybodaeth Ychwanegol

Ni fydd rheidrwydd ar S4C i dderbyn unrhyw dendr ac mae’n cadw’r hawl: a) i dynnu nôl ac/neu i roi’r gorau ac/neu i ohirio’r caffaeliad hwn ar unrhyw adeg; ac/neu b) i beidio â dyfarnu’r cytundeb o ganlyniad i’r caffaeliad hwn.

Am ragor o wybodaeth ynglyn â gofynion S4C a’r broses dendro hon, gweler y Gwahoddiad i Dendro, y mae copi ohono ar gael ar wefan S4C (www.s4c.co.uk) trwy glicio ar “tendrau” a dilyn y ddolen gyswllt.

Rhaid i ymgeiswyr gael a chwblhau’r Gwahoddiad i Dendro safonol sydd ar gael ar www.s4c.co.uk/tendrau/c_index.shtml neu trwy ofyn yn y man cyswllt a nodir yn yr Hysbysiad Contract hwn. Ni fydd ceisiadau nad ydynt yn cael eu cyflwyno yn unol â’r ffurflen ymgeisio safonol yn cael eu hystyried.

Mae S4C yn cadw’r hawl i beidio â pharhau i ddyfarnu’r cytundeb hwn ar unrhyw adeg o’r broses dendro ac i beidio â derbyn unrhyw dendrau a gaiff eu cyflwyno.

Rhyddid Gwybodaeth

Mae’r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth (“RhG”) 2000 yn weithredol i S4C. Gall fod gofyn i S4C ryddhau gwybodaeth a ddarperir gan unrhyw ymgeisydd i S4C o dan ddarpariaethai’r Ddeddf RhG 2000. Os byddwch o’r farn bod unrhyw wybodaeth a ddarperir gennych i S4C yn sgil yr Hysbysiad Contract hwn o natur gyfrinachol neu sensitif yn fasnachol, dylech nodi hynny yn benodol gan nodi’r rhesymau dros ystyried y fath wybodaeth yn wybodaeth sensitif. Bydd S4C yn ystyried hyn wrth benderfynu a fydd yn rhyddhau’r wybodaeth wrth ymateb i geisiadau RhG. Fodd bynnag, rhaid ichi dderbyn y bydd S4C yn rhyddhau gwybodaeth o’r fath os bydd yn cael cyngor cyfreithiol bod yn rhaid iddo wneud hynny er mwyn cydymffurfio gyda Deddf RhG. Mae S4C yn cadw’r hawl i benderfynu yn ei ddisgresiwn llwyr os yw unrhyw wybodaeth arbennig wedi ei eithrio rhag ei ddadlenni.

Diogelu Data

Trwy gyflwyno tendr, mae ymgeiswyr yn awdurdodi S4C i brosesu’r holl wybodaeth bersonol a ddarparwyd fel rhan o’ch cais ac rydych yn cadarnhau eich bod wedi sicrhau’r holl ganiatâd trydydd parti angenrheidiol er mwyn galluogi S4C i wneud hynny.

(WA Ref:21133)

5.2

Dogfennaeth Ychwanegol

5.3

Dyddiad cyhoeddi'r hysbysiad hwn

  13 - 01 - 2015

Codio

Categorïau nwyddau

ID Teitl Prif gategori
79212200 Gwasanaethau archwilio mewnol Gwasanaethau eiriolaeth
79212000 Gwasanaethau eiriolaeth Gwasanaethau cyfrifyddu ac archwilio

Lleoliadau Dosbarthu

ID Disgrifiad
1000 CYMRU

Cyfyngiadau Rhanbarthol ar y Rhybuddion

Mae’r prynwr wedi cyfyngu’r rhybuddion ar gyfer yr hysbysiad hwn i gyflenwyr yn y rhanbarthau canlynol.

ID Disgrifiad
Nid oes cyfyngiadau ar y rhybuddion ar gyfer yr hysbysiad hwn.

Ynglŷn â'r prynwr

Prif gyswllt:
N/a
Cyswllt gweinyddol:
N/a
Cyswllt technegol:
N/a
Cyswllt arall:
N/a

Gwybodaeth bellach

Dyddiad Manylion
Nid oes unrhyw wybodaeth bellach wedi'i lanlwytho.

Dogfennau Ychwanegol

Mae'r dogfennau ychwanegol canlynol wedi'u hatodi i'r hysbysiad hwn. I gael y dogfennau hyn, dewiswch enwau'r ffeiliau unigol isod.

Dogfennau cyfredol

doc
doc224.00 KB
Gofyn am fformat gwahanol.
doc
doc224.50 KB
Gofyn am fformat gwahanol.

Dogfennau wedi'u disodli

Nid oes unrhyw fersiynau blaenorol o'r dogfennau hyn


0800 222 9004

Mae'r llinellau ar agor rhwng 8:30am a 5pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.

We welcome calls in Welsh.