Disgrifiad o'r nwyddau neu'r gwasanaethau sydd eu hangen
Mae Menter Môn cyf, ar ran y Rhaglen Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig Cymru 2014-2020 yng Ngwynedd ac Ynys Môn, am wahodd sefydliadau i dendro am gytundeb fframwaith ar gyfer gwasanaethau cyfieithu ysgrifenedig o'r Gymraeg i'r Saesneg ac o'r Saesneg i'r Gymraeg dros gyfnod o flwyddyn. Mae Rhaglen Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig Cymru 2014-2020 yn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru a’r Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.
Mae Menter Môn yn edrych i sefydlu fframwaith ar gyfer gwasanaethau cyfieithu sy'n cynnwys dwy elfen ar wahân:
1) Cyfieithu ysgrifenedig (Lot 1)
Cyfieithu ysgrifenedig o lythyrau, dogfennau, adroddiadau, cofnodion, deunydd marchnata, canllawiau a pholisïau, deunyddiau hyfforddi, deunyddiau gweithdy a chynnwys ar y we. Bydd yn ofynnol danfon copïau digidol o waith cyfieithu dros e-bost.
2) Cyfieithu ar y pryd (Lot 2)
Cyfieithu ar y pryd mewn amrywiaeth o ddigwyddiadau a chyfarfodydd ar draws Gwynedd ac Ynys Môn yn cynnwys cynadleddau, cyfarfodydd y Grwp Gweithredu Lleol, gweithdai a chyfarfodydd gyda grwpiau cymunedol. Amcangyfrifir maint y gynulleidfa rhwng 6-50 o bobl.
Rydym yn chwilio am nifer cyfyngedig o gyflenwyr (uchafswm o 6 fesul lot) i ffurfio fframwaith o gyflenwyr ar gyfer gwasanaethau cyfieithu ar gyfer gweithgareddau amrywiol. Mi fydd cyfnod y cytundeb fframwaith yn flwyddyn, ac yn dilyn y cyfnod blwyddyn, adolygir ac ail-gyhoeddir y fframwaith ar Sell2Wales; lle fydd Menter Môn yn gwahodd cyflenwyr presennol a newydd i wneud cais i gael eu cynnwys ar y fframwaith cyflenwr.
Mi fydd cyflenwyr sy'n ffurfio rhan o'r fframwaith hwn yn cael cynnig gwaith cyfieithu gan Fenter Môn yn ôl yr angen ac ar sail prosiect / prosiectau fel sydd angen.
NODER: Ewch i'r Wefan yn http://www.sell2wales.gov.uk/Search/Search_Switch.aspx?ID=40049 i gofrestru eich diddordeb yn yr hysbysiad hwn a chael unrhyw wybodaeth ychwanegol.
|