Cyfanswm maint neu gwmpas y tendr
Rydym yn chwilio am bractis a fydd yn gweithio gydag ac yn cefnogi tîm Canolfan Mileniwm Cymru a’i rhanddeiliaid, yn benodol pobl ifanc, cymunedau ac artistiaid, mewn ffordd weithredol i fireinio’u gofynion i gyrraedd opsiwn dewisol. Rydym hefyd yn rhagweld y bydd angen i ni ddefnyddio ymgynghorwyr cost fel rhan o is-gytundeb, i ddarparu cwmpas costau ar gyfer y cynlluniau. Bydd hyn yn ein galluogi i godi mwy o arian ar gyfer costau datblygu cyfalaf rhagamcanol. Bydd Canolfan Mileniwm Cymru yn cadw’r hawlfraint i’r gwaith a gynhyrchir yn y cytundeb hwn. Os caiff y cytundeb cychwynnol ei gwblhau’n llwyddiannus, mae’n debygol y byddwn yn gofyn i’r practis cyfredol gwblhau hyd at RIBA 3. Ar hyn o bryd, tybiwn y byddwn yn cyhoeddi gwahoddiad i dendro ar ddiwedd RIBA 3 ar gyfer gwaith dylunio ac adeiladu (RIBA 4-6). Byddwn yn adolygu’r rhagdybiaethau cyfredol ar ddiwedd yr Astudiaeth Ddichonoldeb Bensaernïol ac rydym yn cadw’r hawl bob amser i beidio symud ymlaen gyda’r cais llwyddiannus.
Dylai’ch cyllideb gydnabod y disgwyliadau uchod dros gyfnod o 4-6 mis a dylid fod yn ddigonol i wireddu’r allbynnau canlynol:
1) Allbynnau proses:
• Dadansoddiad o’r adeilad a’r cyd-destun
• Diagramau a darluniau ansoddol
• Teithiau defnyddwyr yr adeilad
• Adborth, dogfennaeth a mewnbwn creadigol o’r ymgynghoriad (yn barhaus drwy gydol cam 1)
• Themâu ac egwyddorion dylunio
• Syniadau dylunio cychwynnol
2) Allbynnau terfynol:
Casgliad o ddogfennau gorffenedig y gellir eu defnyddio i ddatblygu’r posiect i’r cam nesaf. Bydd y dogfennau’n cynnwys:
• Gweledigaeth o’r dyluniad a darluniau
• Dogfen gwerthoedd pensaernïol
• Strategaeth ddylunio gydsyniol a dewisol
• Cyllideb rhagamcanol a chostau adeiladu (yn ddarostyngedig i fireinio yn y camau nesaf);
• Opsiynau rhaglen a chaffael (wedi’u dylunio gydag ymgynghorydd cost);
• Dyluniad dros dro a digwyddiad at ddefnydd cyfranogwyr y rhaglen – i brofi syniadau ac i gynnal rhai gweithgareddau yn ystod 2020-2021
3) Cyfarfodydd/diweddariadau rheoli prosiect rheolaidd gyda’r rheolwr prosiect technegol (yn wythnosol) a’r Tîm Rheoli Prosiect y Gofodau Creu (bob pythefnos)
4) Ymgynghori ac ymgysylltu â rhanddeiliaid:
• Yn ogystal â’r dyddiau a restrir uchod, bydd angen isafswm o 20 diwrnod i sicrhau ymgysylltiad ystyrlon â rhanddeiliaid allweddol yng Nghymru. Bydd y rhain yn cynnwys:
• Y Grŵp Datblygu Creadigol (GDC) a fydd yn cynnwys 12 aelod: pedwar person ifanc, pedwar aelod o’r gymuned a phedwar artist, ymarferwyr a phartneriaid strategol a staff/cynghorwyr Canolfan Mileniwm Cymru. Byddant yn ymgysylltu’n llawn gyda phob agwedd o’r datblygiad, ac yn cyfarfod unwaith bob pythefnos dros gyfnod o 4-5 mis. Byddant yn chwarae rhan bwysig yng ngweithgareddau ehangach yr ymgynghoriad.
• Ymgynghoriad cymunedol ac ieuenctid. Gan gynnwys:
a. Tair sesiwn fyw i grŵp mawr (yn ddarostyngedig i gyfyngiadau’r Coronafeirws) ar gychwyn, canol a diwedd cam 1
b. Dau ddigwyddiad ymgynghorol ar-lein ar gyfer cyfranogwyr o bob rhan o Gymru
c. Ymgynghori â phobl ifanc: wedi’i drefnu gyda Chanolfan Mileniwm Cymru gyda ffocws ar ddefnyddio cyfryngau cymdeithasol (gan gymryd yn ganiataol bod pobl ifanc hefyd yn cael eu cynrychioli yn y sesiynau ymgynghori byw)
• Grŵp ymgynghori artist/ymarferydd/diwydiant:
A fydd yn cyfarfod ar-lein o leiaf dwywaith yn ystod y cyfnod dichonoldeb.
• Ymgynghoriad ac adborth mewnol – sesiynau briffio gyda’r uwch dîm rheoli a’r Bwrdd
5) Dylid cynnwys cyllideb rhagamcanol ar gyfer ymgynghorydd cost.
|