Disgrifiad o'r nwyddau neu'r gwasanaethau sydd eu hangen
Arweiniodd pandemig covid-19 at newidiadau yn y maes gwirfoddoli. Canfu bod angen gwella ffyrdd o weithio, cysylltu rhwng sectorau a pheidio â gweithio’n gyfochrog.
Bydd y gwerthusiad yn edrych ar a yw Cynllun Grant Strategol Gwirfoddoli Cymru 2021/22 wedi bodloni ei amcanion o helpu i greu gwelliannau effeithiol a chynaliadwy mewn seilweithiau gwirfoddoli ac yn cyflwyno argymhellion ar sut gellid buddsoddi unrhyw gyllid strategol yn y dyfodol.
Cwmpas a chyfrifoldebau
Llunio adroddiad sy’n rhoi dadansoddiad cyffredinol o’r gweithgareddau a gyllidwyd gan grant a nodwyd
Pa weithgareddau y gwariwyd y cyllid arnynt a’r effaith y cafodd y cyllid ar wirfoddolwyr a’r cymunedau y maen nhw’n eu gwasanaethu.
Sut cipiwyd effaith y prosiectau, gydag argymhellion ar sut gellid cryfhau hyn
Adolygiad o sut wnaeth derbynyddion y grant rannu mewnwelediadau a phethau a ddysgwyd; beth ddigwyddodd a sut gellid gwella hyn?
Argymhellion ar sut gellid rhoi’r pethau a ddysgwyd o’r profiad hwn ar waith mewn unrhyw gynllun grant yn y dyfodol, a sut gellid newid amcanion unrhyw gynllun grant yn y dyfodol i gryfhau’r dull gweithredu hwn?
A yw’r gweithgareddau a gyflawnwyd yn cael effaith barhaus, a yw’r seilweithiau’n gynaliadwy?
Gofynion manwl
Canlyniadau: Ar ôl ei orffen, dylai’r adroddiad gwerthuso roi mewnwelediad i effeithiolrwydd y mentrau a gyllidwyd, diben ac amcanion y cynllun grant, ac argymhellion ar sut y gellid gwella’r dull gweithredu hwn.
Allbynnau - 2 adroddiad interim yn dangos darganfyddiadau cychwynnol a chynnydd tuag at yr adroddiad terfynol wedi'i gwblhau.
Adroddiad cyflawn (ar fformat digidol yn unig), yn cynnwys argymhellion y gellir eu defnyddio gan Lywodraeth Cymru ac CGGC i lywio dyluniad cylchau grant yn y dyfodol. Bydd yr adroddiad terfynol ar gael yn Gymraeg a Saesneg. Dylai’r gost o gyfieithu a sicrhau ansawdd y prosiect gael ei chynnwys o fewn y rhestr brisiau a rhaid i’r cynnig nodi sut bydd y gofyniad hwn yn cael ei ateb. Bydd gan gyflenwyr llwyddiannus ddealltwriaeth dda o ofynion darparu gwasanaethau dwyieithog a naill ai’n cynnig y gallu mewnol i ddarparu gwasanaeth o’r fath neu â chytundeb lefel gwasanaeth ar waith gydag is-gontractwr i’w cynorthwyo i ddarparu gwasanaethau dwyieithog. Dylai cyflenwyr sicrhau nad yw’r fersiwn Gymraeg yn cael ei thrin yn llai ffafriol na’r Saesneg a’i bod yn gwbl addas i’r diben ac yn barod i’w chyhoeddi.
Rhaid prawfddarllen yr adroddiad cyn ei anfon i CGGC. Rhaid i hyn gynnwys gwirio bod y ddogfen wedi’i gosod yn dda, yn dechnegol gywir, yn ramadegol gywir a bod iaith briodol wedi’i defnyddio.
Cyflwyno’r canfyddiadau allweddol i Fwrdd Gwirfoddoli Cymru a Grŵp Arwain Traws-sector Gwirfoddoli.
NODER: Ewch i'r Wefan yn https://www.sell2wales.gov.wales/Search/Search_Switch.aspx?ID=117908 i gofrestru eich diddordeb yn yr hysbysiad hwn a chael unrhyw wybodaeth ychwanegol.
Mae'r awdurdod dyfarnu wedi nodi y bydd yn derbyn ymatebion electronig i'r hysbysiad hwn drwy'r cyfleuster 'Blwch Postio Cyflwyno Tendrau'. Mae rhagor o fanylion am y cyfleuster hwn ar gael yn https://www.sell2wales.gov.wales/sitehelp/help_guides.aspx.
Cynghorir cyflenwyr i ganiatáu digon o amser i lanlwytho dogfennau ac anfon yr ymateb electronig ymhell cyn yr amser cau er mwyn osgoi unrhyw broblemau munud olaf.
|