Disgrifiad o'r nwyddau neu'r gwasanaethau sydd eu hangen
S4C yw’r unig sianel deledu Gymraeg yn y byd ac un o’r pum darlledwr teledu gwasanaeth cyhoeddus yn y DU. Mae’n awdurdod darlledu annibynnol a sefydlwyd o dan Ddeddf Darlledu 1981, ac mae’n cael ei rheoleiddio gan Ddeddf Gyfathrebu 2003 a’r Ddeddf Darlledu 1990.
Mae S4C yn darparu ystod eang o raglenni amrywiol o safon uchel. Mae’r sianel yn darlledu dros 115 awr o raglenni Cymraeg bob wythnos. Mae rhaglenni S4C ar gael i’w gwylio’n fyw ar wefan S4C trwy fandllydan a’r gwasanaeth gwylio ar alw ar wefan s4c.cymru, trwy iPlayer y BBC ac ar YouView, teledu clyfar, Sky, Freeview a nifer o blatfformau eraill.
Mae S4C wedi’i hariannu mewn ffordd unigryw trwy gymysgedd o arian grant, incwm masnachol a hysbysebu. Yn ogystal mae'r BBC yn darparu 10 awr o raglenni Cymraeg i S4C wedi ei ariannu gan y ffi drwydded.
Mae’r Gwasanaeth sy’n destun i’r tendr yn gofyn i’r darparwr ddarparu’r canlynol er mwyn cefnogi cynhyrchwyr rhaglenni sy’n darparu rhaglenni i S4C o fewn cyd-destun cyfreithiol:
• cyngor yn gysylltiedig â phob deddfwriaeth, polisi (gan gynnwys polisïau S4C), codau ymarfer perthnasol (gan gynnwys defnydd ymarferol o God Ofcom) a chanllawiau gweithredol sy’n berthnasol i gynhyrchu cynnwys clyw-weledol gan gynnwys, heb gyfyngiad, materion yn ymwneud â iechyd a diogelwch, diogelu data, hawlfraint, y Gyfeireb Oriau Gwaith, deddfwriaeth pensiwn, deddfwriaeth llwgrwobrwyo, cytundebu a diogelu plant a phobl fregus a materion cydymffurfiaeth rhaglenni/cyfreithiol gan gynnwys sicrhau dosbarthiad effeithiol o ddiweddariadau rheolaidd ar ddeddfwriaeth, codau a chanllawiau sy’n newydd neu’n newid;
• gwybodaeth a chyngor cywir a chynhwysfawr yn ymwneud ag ystod llawn o drefniadau cytundebol rhwng cwmnïau cynhyrchu ar un llaw a deiliaid hawliau/cyfranwyr i gynnwys ar y llaw arall ac arweiniad ar sut i sicrhau cliriadau ar gyfer pob hawl a chaniatâd priodol ar gyfer rhaglenni S4C yn ymarferol, yn unol â chytundebau trwydded S4C gan gynnwys cyngor ar reolau cystadlaethau, cytundebau diogelu data a chymalau sy’n sicrhau pob caniatâd priodol ar gyfer prosesu data;
• gwasanaeth cytundebau safonol ac anarferol (gan gynnwys stôr o gynseiliau cyfredol) ar draws gweithgareddau cynhyrchu a chyflogi cwmnïau cynhyrchu sy’n adlewyrchu gofynion cytundebu ac eraill S4C gan gynnwys cytundebau cyfranwyr (gyda chymalau caniatâd a diogelu data priodol), cytundebau lleoliad, cytundebau ffotograffwyr, cytundebau cast a chriw, cytundebau awduron, cytundebau cyfansoddwyr a thelerau ac amodau cystadlaethau;
• hybu perthnasau diwydiannol da o fewn y sector a chynnal perthnasau gyda’r undebau (WGGB, Equity, BECTU, MU a DUK ar hyn o bryd) a chymdeithasau casglu (e.e. MCPS, PRS, ALCS neu eraill) sy’n cynrychioli cyfranwyr cynnwys neu ddeiliaid hawliau trydydd parti; cynrychioli’r sector annibynnol a gofynion S4C yn ystod trafodaethau ar drefniadau cyflogi a thrwyddedu (gan gynnwys fframweithiau hawliau a ffioedd) gydag undebau a chymdeithasau casglu ar delerau safonol ac anarferol ill dau, lle’n berthnasol, gan ystyried gofynion hawliau newydd a/neu hawliau ar gyfer prosiectau arbennig;
• cyngor yn ymwneud â materion cytundebol, cyflogaeth a materion busnes;
• gwasanaeth gwybodaeth, cyngor a chefnogaeth mewn perthynas â chytundebau gyda’r undebau a chymdeithasau casglu ac mewn perthynas â’r stôr o gynseiliau y cyfeiriwyd ato uchod;
• gwasanaeth cynghori a datrys gweithredol mewn perthynas ag unrhyw anghydfodau rhwng y cwmnïau cynhyrchu a’r rhai y maent yn eu cyflogi boed trwy gytundeb, cymodi, cyfryngu neu gyflafareddiad, gan gydnabod hawl yr unigolyn i gael cynrychiolaeth;
• hybu ymarfer da ar draws pob gweithgarwch cynhyrchu, cytundebu a chyflogaeth;
• darparu canllawiau ac anogaeth i’r sector gynhyrchu annibynnol i ymgorffori amrywiaeth a chyfleoedd cyfartal ar draws pob agwedd o gyflogi;
• cymryd rhan, lle’n briodol, mewn sesiynau briffio S4C i’r sector.
Bydd gofyn i’r Tendrwr llwyddiannus ddarparu Gwasanaeth a all gynnig yr agweddau, safonau a sgiliau canlynol:
- dealltwriaeth drylwyr o ofynion S4C fel comisiynydd ac fel darlledwr gwasanaeth cyhoeddus;
- gwasanaeth perthnasau diwydiannol pwrpasol ar gyfer y sector, sy’n rhagweithiol, proffesiynol, deallus a dwyieithog (Cymraeg/Saesneg);
- gwybodaeth gynhwysfawr a gaiff ei gyfathrebu’n effeithiol yn Gymraeg a Saesneg ill dau ac sydd ar gael i gynhyrchwyr S4C;
- dealltwriaeth o gytundebau llafur a hawliau ar gyfer y sector – yng Nghymru a thu hwnt, yn y gorffennol a’r presennol;
- sgiliau negodi cryf;
- gwasanaeth tryloyw, atebol a dealladwy sy’n ymateb yn gyflym ac yn gywir i anghenion defnyddwyr ac sy’n dangos hyblygrwydd;
- gwasanaeth hollol gyfrinachol, gyda thîm sy’n ymddwyn yn onest ac yn ddiduedd;
- gwasanaeth sy’n darparu cyngor o’r safon uchaf;
- gwasanaeth sy’n gynrychioliadol o bob cwmni a gaiff eu comisiynu i gynhyrchu cynnwys ar gyfer S4C.
NODER: Ewch i'r Wefan yn http://www.sell2wales.gov.uk/Search/Search_Switch.aspx?ID=31511 i gofrestru eich diddordeb yn yr hysbysiad hwn a chael unrhyw wybodaeth ychwanegol.
|