Disgrifiad o'r nwyddau neu'r gwasanaethau sydd eu hangen
2. Y Fanyleb
Gofynion CGA
2.1 Y gwaith datblygu cynnwys sy’n ofynnol.
Datblygu cynnwys i hyrwyddo gyrfaoedd ym maes addysg. Dylid cynnwys o leiaf dau fideo (un Cymraeg ac un Saesneg) yn ogystal â ffotograffiaeth ar gyfer pob un o’r grwpiau canlynol:
- Arweinwyr ysgolion
- Staff cyflenwi ysgolion
- Gweithiwr cymorth dysgu Addysg Bellach
- Ymarferydd dysgu seiliedig ar waith
- Rheolwr dysgu seiliedig ar waith
- Arweinwyr a rheolwyr gwaith ieuenctid
- Gweithiwr ieuenctid (awdurdod lleol)
- Gweithiwr ieuenctid gwirfoddol
2.2 Bydd angen i’r cynnwys a nodir yn 2.1 gael ei gwblhau cyn 31.12.22.
2.3 Yn ogystal â’r cynnwys a nodir yng ngofyniad 2.1, bydd yn ofynnol creu cynnwys yn barhaus yn unol â chyfarwyddiadau swyddogion CGA dros gyfnod o ddwy (2) flynedd. Bydd yn ofynnol i’r darparwr a gaffaelir ddarparu dyfynbris penodedig (wedi’i seilio ar y cerdyn cyfraddau a ddarperir) ar gyfer cynnwys ar ôl cael briff llawn oddi wrth swyddogion CGA.
- Rhaid i’r holl gynnwys fod wedi’i gyfieithu ac ar gael yn Gymraeg a Saesneg
- Rhaid i’r holl gynnwys fod yn hygyrch ac yn cydymffurfio â WCAG 2.1 A
2.4 Datblygu a rheoli ymgyrchoedd
Datblygu a rheoli ymgyrchoedd perthnasol i ymgysylltu â grwpiau penodol yn y sector addysg. Mae'r grwpiau presennol yn cynnwys ysgolion, addysg bellach, dysgu seiliedig ar waith a gwaith ieuenctid.
- Bydd angen i’r ymgyrchoedd ystyried a rhoi sylw i ymgysylltu ag unigolion yn y meysydd recriwtio blaenoriaethol: y Gymraeg, Pobl Dduon, Asiaidd ac Ethnig Lleiafrifol a Gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg (STEM).
- Y darparwr a gaffaelir fydd yn gyfrifol am y gwaith o ddatblygu a chyflawni’r ymgyrchoedd. Gan gynnwys y gwaith o ddatblygu strategaeth a chynnwys yr ymgyrchoedd, cyflawni’r ymgyrchoedd, adrodd a thracio a darparu adroddiad gwerthuso pan fydd yr ymgyrch wedi dod i ben.
- Bydd yn ofynnol i’r ymgyrchoedd barhau dros gyfnod o ddwy (2) flynedd yn unol â chyfarwyddiadau swyddogion CGA. Bydd yn ofynnol i’r darparwr a gaffaelir ddarparu dyfynbris penodedig (wedi’i seilio ar y cerdyn cyfraddau a ddarperir) ar gyfer ymgyrchoedd ar ôl cael briff llawn oddi wrth swyddogion CGA.
- Dylai cynnwys yr ymgyrchoedd fod yn ddwyieithog ac ar gael yn Gymraeg a Saesneg
- Rhaid i’r holl gynnwys fod yn hygyrch ac yn cydymffurfio â WCAG 2.1 A
2.5 Rheoli cyfryngau cymdeithasol
Rheoli’r holl sianelau cyfryngau cymdeithasol i Addysgwyr Cymru (Facebook, Twitter, Instagram a LinkedIn) er mwyn helpu i dyfu’r sianelau a’u cyrhaeddiad a gwneud y mwyaf ohonynt. Bydd hyn yn cynnwys:
- Datblygu a gweithredu strategaeth cyfathrebu cyfryngol flynyddol ac adroddiadau misol i swyddogion CGA. Dylai’r adroddiadau misol gynnwys dadansoddiad o draffig y wefan ac ymgysylltu trwy’r cyfryngau cymdeithasol.
- Sicrhau bod yr holl sianelau cyfryngau cymdeithasol yn cael eu defnyddio i hyrwyddo gyrfaoedd a gwella dirnadaethau o yrfaoedd ym maes addysg yng Nghymru. Y darparwr fydd yn gyfrifol am ymateb i gysylltiadau ar y sianelau cyfryngau cymdeithasol cyn pen 24 awr.
- Datblygu cynnwys postiadau ar y cyfryngau cymdeithasol
- Datblygu calendrau cyfryngau cymdeithasol
- Sicrhau bod cynnwys a gyhoeddir ar sianelau cyfryngau cymdeithasol yn gynrychioladol o bob grŵp sector (ysgolion, addysg bellach, dysgu seiliedig ar waith a gwaith ieuenctid) a bod y cynnwys yn amrywiol ac yn gynhwysol
- Cysylltu â swyddogion CGA er mwyn sicrhau bod digwyddiadau Addysgwyr Cymru yn cael eu hyrwyddo trwy sianelau cyfryngau cymdeithasol
- Y darparwr a gaffaelir fydd yn gyfrifol am reoli cyfryngau cymdeithasol ar gyfer hyd y contract (dwy flynedd).
2.6 Gofynion cyffredinol sy’n berthnasol i 2.1, 2.2, 2.3, 2.4 a 2.5
Rhaid i’r holl gynnwys, ymgyrchoedd a gwaith cyfryngau cymdeithasol fod yn gyson â chanllawiau brand a dogfen lleoli Brand ac Ymgyrchoedd Addysgwyr Cymru.
Rhaid i’r gwasanaethau gael eu cyflenwi mewn modd sy’n cydymffurfio â Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 [Deddf yr Iaith Gymraeg 1993] ac â safonau’r Gymraeg [Rheoliadau Rhif 4] y mae’r awdurdod yn agored i gydymffurfio â hwy ar gyfer y Gwasanaethau, fel pe bai’r Tendrwr ei hun oedd yr awdurdod. Rhaid i dendrwyr sicrhau eu bod yn gyfarwydd â’r safonau mae’n ofynnol i’r awdurdod gydymffurfio â hwy. Noder: mae dyletswydd ar CGA i sicrhau na chaiff y Gymraeg ei thrin yn llai ffafriol na’r Saesneg.
Wrth ddarparu’r gwasanaethau a nodir, rhaid i’r cyflenwr (fel y prosesydd data) gadw at y Ddeddf Diogelu Data (a’r GDPR) a darparu i CGA fel y rheolydd data unrhyw dystiolaeth angenrheidiol o gydymffurfiaeth.
NODYN: Mae’r awdurdod yn defnyddio eDendro Cymru i gynnal y broses gaffael hon. I gael rhagor o wybodaeth mynegwch eich diddordeb ar GwerthwchiGymru ar https://www.sell2wales.gov.wales/search/search_switch.aspx?ID=119165
|