Gwybodaeth Ychwanegol
1. Cefndir
Mae Cyngor Sir Ddinbych, Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, gyda darpariaeth i Gyngor Sir y Fflint gael cytundeb ar ddyddiad diweddarach, yn ceisio penodi darparwyr gwasanaeth i gyflenwi gwasanaethau casglu a phrosesu arian parod ar gyfer peiriannau talu ac arddangos meysydd parcio ac ar y stryd.
Yn Sir Ddinbych, mae 87 o beiriannau talu ac arddangos ar hyn o bryd. Mae 68 o'r rhain wedi'u lleoli oddi ar y stryd ar draws 47 o feysydd parcio ac mae'r 19 sy'n weddill ar y stryd ar hyd promenâd y Rhyl.
Ar hyn o bryd, mae 74 o beiriannau talu ac arddangos yng Nghonwy. Mae 29 ohonynt wedi'u lleoli ar draws 25 o feysydd parcio ac mae'r 45 sy'n weddill wedi'u lleoli ar hyd y promenadau ym Mae Colwyn a Llandudno.
Nid yw gwybodaeth Sir y Fflint ar gael ar hyn o bryd a bydd yn cael ei darparu os ydynt am gael mynediad at y cytundeb hwn.
O hyn ymlaen cyfeirir at Gyngor Sir Ddinbych, Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy a Chyngor Sir y Fflint fel y "Cwsmeriaid". Nod y Cwsmeriaid yw sefydlu gwasanaeth cynhwysfawr a hyblyg, sy'n anelu at optimeiddio casgliadau, cydymffurfio â gofynion deddfwriaethol a lleihau'r holl risgiau sy'n gysylltiedig â'r gwasanaethau.
Bydd y cytundeb yn dechrau yn 2019.
Mae'r broses gaffael hon ar gyfer tendro a dyfarnu cytundeb fframwaith newydd, (a elwir "y cytundeb" o hyn ymlaen) ar gyfer cyflenwi gwasanaethau casglu arian i Gyngor Sir Ddinbych, Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy a Chyngor Sir y Fflint.
Mae'r gwaith caffael yn cael ei gynnal gan Gyngor Sir Ddinbych ar ei ran ei hun, Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy a Chyngor Sir y Fflint a bydd yn cael ei gynnal drwy system e-dendro Proactis S2C. Mae darpariaeth i'w gwneud i gynnwys Cyngor Sir y Fflint ar unrhyw gytundeb cyfraddau perthnasol os ydynt yn dymuno cael mynediad at y cytundeb hwn ar unrhyw adeg ym mywyd y fframwaith.
2. Hyd y Cytundeb
Bydd y cytundeb am gyfnod o 5 mlynedd ac mae'n cynnwys Cymalau Terfynu sy'n caniatáu i'r Cleient derfynu'r Cytundeb yn ôl ei ddisgresiwn llwyr ar ddiwedd blynyddoedd tri 30/06/2022 a blwyddyn pedwar 30/06/2023. Y dyddiad cychwyn disgwyliedig yw 1af Gorffennaf 2019 gyda'r cytundeb 5 mlynedd yn dod i ben yn llwyr ar 30ain Mehefin 2024.
NODER: Ewch i'r Wefan yn https://www.sell2wales.gov.wales/Search/Search_Switch.aspx?ID=92439 i gofrestru eich diddordeb yn yr hysbysiad hwn a chael unrhyw wybodaeth ychwanegol.
(WA Ref:136319)
|