Cyfanswm maint neu gwmpas y tendr
Llinell Amser: Rydym yn edrych ar weithio gydag Ymgynghorydd Ymgysylltu Cymunedol rhwng mis Chwefror 2025 a mis Mehefin 2026 gyda mwyafrif y cyflawni’n digwydd yn ystod y 9 mis cyntaf (Chwefror - Hydref 25).
Cyllideb: Uchafswm y dyraniad cyllid ar gyfer y contract hwn yw: £12,000 gan gynnwys TAW. Bydd hyn yn cynnwys eich amser chi ac unrhyw gostau teithio sy'n gysylltiedig â'r rôl. Bydd cyllideb ychwanegol gan y prosiect ar gyfer cynnal digwyddiadau ac ati.
Nodau / Cwmpas y gwaith:
• Ymgynghori â chymunedau gan ddefnyddio amrywiaeth o ddulliau arloesol a chreadigol
• Mapio rhanddeiliaid
• Gwneud gwaith mapio asedau hynod leol
• Cysylltu â grwpiau a sefydliadau cymunedol
• Helpu i ddathlu treftadaeth ac arwyddocâd y safle
• Gweithio ochr yn ochr â thîm cyflawni CCM a gwerthuswr y prosiect
• Darparu diweddariadau rheolaidd i gefnogi datblygiad prosiect ehangach ac ysgrifennu ceisiadau
• Cyfrannu at gynhyrchu cynllun datblygu cynulleidfa manwl erbyn mis Ionawr 2026 gan gynnwys cynigion ymgysylltu ar gyfer cyfnod cyflawni’r prosiect
Adnoddau:
Byddwch yn gweithio ochr yn ochr â Thîm presennol CCM, sy'n cynnwys Rheolwr Prosiect, Gweinyddydd, Swyddog Cyswllt Ffermydd a Gwerthuswr Prosiect annibynnol.
Mae gan grŵp llywio Partneriaeth CCM gynrychiolaeth dda o'r holl bartneriaid ac mae'n cynnwys 4 gweithgor (Ffermio a Pherchnogion Tir, Cymuned a Threftadaeth, Arbenigwyr Technegol, a Mynediad ac Isadeiledd). Felly mae rhwydwaith cadarn yn ei le i helpu gyda datrys problemau, canfasio, rhannu gwybodaeth, ac ati.
Mae'r prosiect yn datblygu adnoddau hyrwyddo ac mae ganddo gyllideb ar gyfer ymgysylltu cymunedol a digwyddiadau a fydd yn cynnwys y celfyddydau, sesiynau blasu, gwyddoniaeth y dinesydd ac ymgysylltu â gwirfoddolwyr.
Cynulleidfa:
Cynulleidfaoedd allweddol y prosiect yw'r bobl a'r cymunedau o amgylch y safleoedd corsdir allweddol. Mae map sy’n dangos ardal y prosiect ar ein tudalen we ni yma:
https://www.northwaleswildlifetrust.org.uk/what-we-do-landing-page/wildlife-conservation/living-landscapes/corsydd-calon-mon
Mae'r prosiect yn ceisio gweithio gyda chynghorau cymuned, grwpiau treftadaeth ac ysgolion ac ati ac, o fewn hynny, hoffai ganolbwyntio'n benodol ar gefnogi pobl sy’n wynebu rhwystrau ychwanegol efallai sy’n eu hatal rhag cymryd rhan neu leisio eu barn. Felly gall ein cynulleidfa darged gynnwys y canlynol:
• Plant 0 i 11 oed (gan gynnwys gofalwyr ifanc)
• Pobl ifanc 12 i 18 oed (gan gynnwys NEET a gofalwyr ifanc)
• Pobl ag anableddau
• Pobl sy'n profi iechyd meddwl a chorfforol gwael
• Pobl hŷn
• Siaradwyr Cymraeg
• Pobl sy'n byw mewn tlodi
• Ffoaduriaid
• Pobl sy'n profi unigedd ac a all fod yn ddihyder
• Pobl sy'n profi lefelau isel o les a hunan-effeithiolrwydd
• Trigolion y gymuned o bob oed
• Ffermwyr a theuluoedd fferm
• Asiantaethau a sefydliadau sy'n gweithio gyda chymunedau
• Grwpiau cymunedol, yn enwedig grwpiau diddordeb arbennig a'r rhai sy'n gweithio gyda gwirfoddolwyr
• Busnesau, gan gynnwys twristiaeth, amgylcheddol, y celfyddydau ac addysg
• Ymchwilwyr academaidd ac arbenigol
• Twristiaid
• Ysgolion
I wneud cais:
Drwy flwch post GwerthwchiGymru, uwchlwythwch CV neu CVs cyfredol, neu grynodeb o’r sefydliad ynghyd â 3 enghraifft berthnasol o brosiectau ymgysylltu cymunedol ymgynghorol rydych chi wedi’u cyflawni, gan grynhoi amcanion y prosiect, eich rôl, y gweithgareddau a gyflwynwyd gennych chi a’r canlyniadau. Gwnewch yn siŵr nad yw eich cyflwyniad chi’n fwy na 4 tudalen o hyd. Efallai y byddwn yn gofyn am fanylion cyswllt dau ganolwr felly gwnewch yn siŵr eich bod yn hapus gyda hynny ac yn gallu darparu'r rhain os oes angen.
SYLWER: I gofrestru eich diddordeb yn yr hysbysiad hwn a chael unrhyw wybodaeth ychwanegol, ewch i Wefan GwerthwchiGymru yn https://www.sell2wales.gov.wales/Search/Search_Switch.aspx?ID=142076.
Mae'r prynwr wedi nodi y bydd yn derbyn ymatebion electronig i'r hysbysiad hwn drwy'r cyfleuster Blwch Postio. Mae canllaw defnyddiwr ar gael yn https://www.sell2wales.gov.wales/sitehelp/help_guides.aspx.
Cynghorir cyflenwyr i ganiatáu digon o amser i uwchlwytho dogfennau ac i anfon yr ymateb electronig ymhell cyn yr amser cau er mwyn osgoi unrhyw broblemau munud olaf.
|