Disgrifiad o'r nwyddau neu'r gwasanaethau sydd eu hangen
Cyflwyniad a Chefndir
S4C yw’r sianel deledu Gymraeg ac mae'n un o’r pum darlledwr teledu gwasanaeth cyhoeddus yn y DU.
Mae S4C yn cynnal proses dendro er mwyn penodi darparwr gwasanaethau glanhau am gyfnod o dair blynedd, gyda dewis i ymestyn y cytundeb am 12 mis pellach. Mae'r gwasanaethau sy'n cael eu tendro yn cynnwys y gwaith o lanhau tu mewn i safle S4C yng Nghaerdydd, sy'n cynnwys swyddfeydd, safleoedd darlledu, safleoedd cegin a ffreutur.
Felly, rhaid bod yr Ymgeiswyr yn gallu darparu gwasanaethau glanhau o'r safon uchaf, rhaid iddynt fod yn ddibynadwy ac mae'n rhaid eu bod yn gallu ymdopi â phatrymau shifft wrth ddarparu'r gwasanaethau. Yn ogystal, bydd angen i'r gwaith glanhau gael ei gyflawni gerllaw offer gwerthfawr a sensitif ac, er na cheir gofyniad i lanhau'r offer arbenigol, bydd angen i'r Ymgeiswyr feddu ar werthfawrogiad a dealltwriaeth o'r amgylchedd glanhau sensitif, ac mae'n rhaid eu bod yn gallu dilyn cyfarwyddiadau glanhau penodedig a gyhoeddir gan S4C.
Rhannwyd y safle yng Nghaerdydd yn 3 adran, yr adran weinyddol, y bloc technegol a'r ardaloedd arlwyo, y maent ar ddau lawr. Maint yr adeilad cyfan mewn troedfeddi sgwâr yw 29,538 tr² ac mae wedi'i rannu rhwng y Llawr Gwaelod sy’n 15,393 tr² a'r Llawr Cyntaf sy'n 14,145 tr². Bydd yn rhaid i'r gwasanaethau glanhau gael eu darparu rhwng 18.00 a 08.00 o'r gloch.
Adran Weinyddol
Mae'r adran weinyddol yn cynnwys y safle gwaith a swyddfeydd y staff gweinyddol, y cyfarwyddwyr a'r prif weithredwr. Oriau gwaith yr adran weinyddol yw 08.30 – 17.45, o ddydd Llun i ddydd Gwener. Mae'r safle hwn yn cynnwys safle swyddfa cynllun agored yn bennaf, ynghyd â nifer bach o swyddfeydd ac ystafelloedd cyfarfod/trafod, a ddefnyddir trwy gydol yr oriau gwaith. Mae prif anghenion glanhau yr adran weinyddol yn cynnwys:
- Carpedi (gan gynnwys carpedi Teressa)
- Desgiau
- Waliau
- Ffenestri mewnol
- Gwaredu holl wastraff y swyddfa
- Casglu gwastraff cardbord
- Safle teilsiog yn y dderbynfa (i'w lanhau yn ôl y cyfarwyddiadau arbennig)
- Grisiau dur a gwydr
- Bleinds
- Swyddfeydd gyda waliau gwydr a drysau gwydr
- Toiledau (gan gynnwys glanhau drychau, cawodydd a basnau ymolchi, lloriau, waliau ac ailgyflenwi nwyddau traul)
- Biniau lludw allanol/a biniau allanol yn y blaen a’r cefn
- Cadeiriau plastig a chlustogog
- Ffonau, peiriannau ffacs, pheiriannau llun-gopïo/rhwygo
- Diheintio biniau allanol a mewnol
- Sychu drysau/ dolenni drysau a platiau ar y drysau.
- Sychu arwyddion rhybuddio/ Diffoddwyr Tan
- Ardal o gwmpas y bwrdd pwl
Bloc Technegol
Mae'r bloc technegol yn cynnwys yr adran gwaith graffig, llyfrgelloedd a'r safle darlledu. Mae oriau gwaith y bloc technegol wedi'u seilio ar batrwm shifft sy'n ymestyn o 05.30 ar ddydd Llun i 01:00 y diwrnod canlynol, ac eithrio ar ddydd Gwener a dydd Sadwrn pan fydd rhywun yno 24 awr y dydd. Mae prif anghenion glanhau y bloc technegol yn cynnwys:
- Carpedi (gan gynnwys carpedi Teressa), lloriau concrid, finyl a metel
- Desgiau
- Waliau
- Ffenestri mewnol
- Gwaredu holl wastraff y swyddfa
- Casglu gwastraff cardbord
- Bleinds metel a bleinds ffibr polyester
- Swyddfeydd gyda waliau gwydr a drysau gwydr
- Toiledau (gan gynnwys glanhau drychau, lloriau, waliau, cawodydd a basnau ymolchi)
- Cadeiriau plastig a chlustogog
- Diheintio biniau allanol a mewnol
- Sychu drysau/ dolenni drysau a platiau ar y drysau.
- Sychu arwyddion rhybuddio/ Diffoddwyr Tan
Ardaloedd Arlwyo
Mae'r safle cegin a'r ffreutur sydd wedi'i leoli yn yr adran weinyddol yn gyfleuster sydd ar agor rhwng 08.30 a 16.30 o'r gloch, 5 diwrnod yr wythnos, ac mae'n gweini bwyd poeth ac oer, byrbrydau a diodydd i staff ac ymwelwyr. Yn ogystal, ceir cegin yn y bloc technegol y bydd modd i staff ei defnyddio pan fyddant ar ddyletswydd, ac mae'r safle hwn yn cynnwys microdon, ffwrn gonfensiynol a pheiriant berwi dwr. Mae prif anghenion glanhau yr ardaloedd arlwyo yn cynnwys:
- Byrddau cinio, byrddau a chadeiriau
- Lloriau finyl a teils
- Teiliau a waliau
- Cefnfyrddau a rhaniadau hir
- Gwaith paentio, dolenni handleni, drysau gwydr a platiau ar y drysiau
- Sgriniau Pryfed
- Siliau ffenestri
- Arwyddion rhybuddio/ Diffoddwyr Tan
- Safle gosod hambwrdd
- Ffitadau goleuo (ddim yn cynnwys ffitadau goleuo uwchben yr ardal weini)
- Byrddau hysbysu
- Cyfarpar cegin gan gynnwys oergelloedd, microdon, peiriant golchi llestri, poptai, fitadau glanweithiol (sinc a’r golchwr sosbenni) ac ailgyflenwi stoc.
- Dodfren yr ardd ar sail tymhorol
- Gwagio, glanhau a di-heintio biniau
- Symud a gwaredu cyfrifol o wastraff gan gynnwys:
- Gwastraff Cegin
- Gwastraff allai ei ailgylchu i’w ailgylchu
- Gwastraff na allai ei ailgylchu i’w waredu.
- Glanhau trylwyr o’r gegin bob chwe mis
Yn Gyffredinol
Bydd S4C yn mynnu bod y tendrwr llwyddiannus yn glanhau'r holl safleoedd yn drylwyr o leiaf bob chwe (6) mis, gan gyflawni gofynion glanhau ad hoc yn ôl y gofyn trwy gydol cyfnod y cytundeb.
Nid yw'r cytundeb yn cynnwys y gwaith o lanhau tu allan y ffenestri.
NODER: Ewch i'r Wefan yn http://www.sell2wales.gov.uk/Search/Search_Switch.aspx?ID=15190 i gofrestru eich diddordeb yn yr hysbysiad hwn a chael unrhyw wybodaeth ychwanegol.
|