Safonau gofynnol a'r cymhwyster sydd ei angen
Rhaid i’r contractwr allu dangos y canlynol yn ei gais:
• ei fod yn gallu gwneud trefniadau i unigolion gyfrannu at yr ymgynghoriad, ac at ddulliau ymgysylltu â phobl ifanc yn y dyfodol, yn Gymraeg neu’n Saesneg
• bod ystyriaeth briodol wedi’i rhoi i wiriadau Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd, os oes angen
• bod yswiriant priodol yn ei le ar gyfer yr holl weithgareddau
Sylwer: Ni fydd ymgeiswyr na all ddangos yn eu cais y gallant ateb y gofynion hyn yn cael eu rhoi ar y rhestr fer.
Gallai wybodaeth a roddir mewn ymateb i 8.2 - 8.7 isod, os annigonol neu'n anfoddhaol, arwain at wahardd yn awtomatig o'r broses dyfarnu.
8.2 Datganiad o Fuddiannau. Nodwch unrhyw wrthdaro posib mewn buddiannau ac egluro sut rydych yn cynnig rheoli’r rhain.
8.3 Euogfarnau troseddol. Nodwch, os gwelwch yn dda, os, yn y pum mlynedd diwethaf, eich mudiad, eich cyfarwyddwyr neu bartner neu unrhyw un arall sydd â grymoedd cynrychioli, penderfynu neu reoli, wedi’u cael yn euog o drosedd.
8.4 Manylion y cwmni. Nodwch enw, rhif a chyfeiriad cofrestredig y cwmni yn eich cais.
8.5 Cyfrifon wedi’u Harchwilio. Amgaewch eich cyfrifon diweddaraf, sydd wedi’u harchwilio, gyda’ch tendr.
8.6 Diogelu Data. Nodwch fanylion mesurau rheoli sydd yn eu lle i sicrhau cydymffurfio â’r Ddeddf Diogelu Data.
8.7 Mesur y Gymraeg. Cadarnhewch eich bod yn fodlon ac yn gallu cydymffurfio â Chynllun Iaith Gymraeg WCVA.
|