Skip to main content

Rydym wedi cadw rhai ffeiliau o'r enw cwcis ar eich dyfais. Y cwcis hyn yw:

  • Hanfodol ar gyfer y safle i weithio
  • Helpu i wella ein gwefan drwy gasglu ac adrodd gwybodaeth am sut rydych chi'n ei defnyddio

Hoffem hefyd arbed rhai cwcis i helpu i deilwra cyfathrebu.

BETA
Rydych yn edrych ar fersiwn wedi'i ddiweddaru o'r gwasanaeth hwn - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Hysbysiad o Gontract

Adolygiadau Ymarfer Oedolion ac Adolygiadau Ymarfer Plant

  • Cyhoeddwyd gyntaf: 24 Medi 2018
  • Wedi'i addasu ddiwethaf: 24 Medi 2018

Nid yw'r prynwr yn defnyddio'r wefan hon i weinyddu'r hysbysiad.

I gofnodi eich diddordeb neu gael gwybodaeth neu ddogfennau ychwanegol, darllenwch y cyfarwyddiadau yn Nhestun Llawn yr Hysbysiad. (NODER: Nid oes angen ymateb i Hysbysiadau Dyfarnu Contractau a Hysbysiadau Gwybodaeth Ymlaen Llaw fel arfer)

Cynnwys

Crynodeb

OCID:
ocds-kuma6s-085354
Cyhoeddwyd gan:
Denbighshire County Council
ID Awudurdod:
AA0280
Dyddiad cyhoeddi:
24 Medi 2018
Dyddiad Cau:
19 Hydref 2018
Math o hysbysiad:
Hysbysiad o Gontract
Mae ganddo ddogfennau:
Nac Ydi
Wedi SPD:
Nac Ydi
Mae ganddo gynllun lleihau carbon:
AMH

Crynodeb

Mae Bwrdd Diogelu Gogledd Cymru yn chwilio i ymgysylltu â chronfa o unigolion profiadol a chymwys (neu sefydliad(au) gyda staff profiadol a chymwys) i ymgymryd ag Adolygiadau Ymarfer Oedolion a Phlant dros gyfnod o 12 – 18 mis gan ddechrau ym mis Hydref / Tachwedd 2018 (Cyfeirnod: Canllaw Adolygiadau Ymarfer Oedolion / Plant yng Nghymru http://www.northwalessafeguardingboard.wales/wp-content/uploads/2015/09/161123guidanceen.pdf). Sylwer bod y gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y gwaith hwn. Mae profiad blaenorol o weithio fel Adolygydd Annibynnol (neu ddarparu gwasanaethau Adolygu Annibynnol) wrth ymgymryd ag Adolygiadau Ymarfer Plant a/neu Oedolion a gwybodaeth ymarferol am brosesau diogelu oedolion yng Nghymru, yn ogystal â gwybodaeth fanwl am ddeddfwriaeth ddiogelu yng Nghymru yn hanfodol.

Testun llawn y rhybydd

HYSBYSIAD O GONTRACT - CENEDLAETHOL

SERVICES

1 Manylion yr Awdurdod

1.1

Enw a Chyfeiriad yr Awdurdod


Cyngor Sir Ddinbych

Gwasanaethau Cymorth Cymunedol, Ffordd Wynnstay,

Rhuthun

LL15 1YN

UK

John L Williams

+44 1824706509

john.l.williams@sirddinbych.gov.uk

www.sirddinbych.gov.uk
https://supplierlive.proactisp2p.com
https://supplierlive.proactisp2p.com

1.2

Cyfeiriad ar gyfer cael dogfennaeth

Fel yn I.1

1.3

Mae'n rhaid dychwelyd dogfennau wedi'u cwblhau at:

Fel yn I.1

2 Manylion y Contract

2.1

Teitl

Adolygiadau Ymarfer Oedolion ac Adolygiadau Ymarfer Plant

2.2

Disgrifiad o'r nwyddau neu'r gwasanaethau sydd eu hangen

Mae Bwrdd Diogelu Gogledd Cymru yn chwilio i ymgysylltu â chronfa o unigolion profiadol a chymwys (neu sefydliad(au) gyda staff profiadol a chymwys) i ymgymryd ag Adolygiadau Ymarfer Oedolion a Phlant dros gyfnod o 12 – 18 mis gan ddechrau ym mis Hydref / Tachwedd 2018 (Cyfeirnod: Canllaw Adolygiadau Ymarfer Oedolion / Plant yng Nghymru

http://www.northwalessafeguardingboard.wales/wp-content/uploads/2015/09/161123guidanceen.pdf). Sylwer bod y gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y gwaith hwn.

Mae profiad blaenorol o weithio fel Adolygydd Annibynnol (neu ddarparu gwasanaethau Adolygu Annibynnol) wrth ymgymryd ag Adolygiadau Ymarfer Plant a/neu Oedolion a gwybodaeth ymarferol am brosesau diogelu oedolion yng Nghymru, yn ogystal â gwybodaeth fanwl am ddeddfwriaeth ddiogelu yng Nghymru yn hanfodol.

2.3

Cod a Dosbarthiad yr Hysbysiad

73000000 Research and development services and related consultancy services
85000000 Health and social work services
85300000 Social work and related services
85321000 Administrative social services
1011 Ynys Môn
1012 Gwynedd
1013 Conwy a Sir Ddinbych
1023 Sir y Fflint a Wrecsam

2.4

Cyfanswm maint neu gwmpas y tendr

Oherwydd natur yr ymholiad hwn a’r gofynion hanfodol ar gyfer profiad blaenorol ac ymwybyddiaeth o arferion diogelu yng Nghymru, dim ond unigolion neu sefydliadau sydd â gwybodaeth, profiad ac arbenigedd perthnasol y gallwn ni eu hystyried.

Bydd y tendr ffurfiol yn cael ei gyflwyno a’i reoli drwy borth e-Gaffael ‘Proactis’. Mae manylion ynglŷn â sut i gofrestru ar 'Proactis' ar gael ar:

https://www.denbighshire.gov.uk/en/business/selling-to-the-council/selling-to-the-council.aspx

Sylwer y bydd angen i bob unigolyn sydd ynghlwm wrth y gwaith fod â thystysgrif uwch gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd a bydd angen copïau o’r tystysgrifau cyn i’r gwaith gychwyn.

Nid oes unrhyw warantiad ar nifer yr adolygiadau a gaiff eu cynnig i unrhyw unigolyn / sefydliad. Gwneir detholiad ar gyfer bob adolygiad ar sail cost ac argaeledd a phriodoldeb ar gyfer adolygiad penodol trwy

ddull tendro-mini.

Sylwer y bydd dewis unigolyn/sefydliad i ymuno â’r gronfa ac ar gyfer pob adolygiad unigol yn cael ei wneud yn erbyn meini prawf.

3 Amodau ar gyfer Cymryd Rhan

3.1

Safonau gofynnol a'r cymhwyster sydd ei angen

4 Gwybodaeth Weinyddol

4.1

Math o Weithdrefn

Un cam

4.2

Rhif cyfeirnod a roddwyd i'r hysbysiad gan yr awdurdod contractio

N/a

4.3

Terfynau Amser



Terfyn amser ar gyfer derbyn tendrau wedi'u cwblhau
     19 - 10 - 2018  Amser   12:00

Dyddiad dyfarnu amcangyfrifedig   31 - 10 - 2018

4.5

Yr iaith neu'r ieithoedd y gellir ei/eu defnyddio i lunio tendrau neu geisiadau i gymryd rhan

EN  

4.6

Blwch Postio Cyflwyno Tendrau

5 Gwybodaeth Arall

5.1

Gwybodaeth Ychwanegol

Cyfarwyddiadau ar gyfer Mynegi Diddordeb a Gweld y Dogfennau Perthnasol

1. Mewngofnodwch i borth e-gaffael Proactis Plaza yn https://supplierlive.proactisp2p.com

2. SYLWCH - Os ydych chi eisoes wedi cofrestru ar y porth Proactis, mewngofnodwch gan ddefnyddio’ch manylion presennol a dechreuwch ar Gam 14 y cyfarwyddiadau hyn. Os nad ydych wedi gwneud hynny, ewch i GAM 3.

3. Cliciwch ar y botwm “Sign Up” ar waelod y ffenestr.

4. Nodwch Enw, Cyfeiriad a Phrif Fanylion Cyswllt eich Sefydliad. Bydd angen i chi greu ID Sefydliad ac Enw Defnyddiwr. Nodwch: os oes gennych gyfeiriad e-bost generig ar gyfer eich sefydliad e.e. tendrau@xxx.co.uk, yna defnyddiwch hwn fel eich prif gyfeiriad e-bost cyswllt gan y bydd hyn yn eich galluogi i dderbyn negeseuon hyd yn oed os bydd unrhyw berson penodol sydd yn y swydd hon ar hyn o bryd yn symud ymlaen yn y dyfodol.

5. Cofiwch gofnodi ID ac Enw Defnyddiwr eich Sefydliad, yna cliciwch ar “Register”.

6. Byddwch yn derbyn e-bost gan y system yn gofyn i chi "Click here to activate your account". Mae hyn yn mynd â chi at Enter Organisation Details.

7. Rhowch yr wybodaeth y gofynnir amdani, cliciwch ar y ">" ar y sgrin a dilyn y cyfarwyddiadau gan sicrhau eich bod yn nodi'r holl fanylion perthnasol.

8. Yn y sgrin Dosbarthiad, sicrhewch eich bod yn dewis y Codau Dosbarthu Cynnyrch (Codau CPV) sy'n ymddangos yn yr hysbysiad tendr, gan y bydd hyn yn rhoi mynediad i chi i'r broses dendro. Sicrhewch fod y codau dethol yn berthnasol i'ch busnes er mwyn gwneud yn siwr eich bod yn cael gwybod am gyfleoedd sydd o ddiddordeb i'ch sefydliad chi.

9. Yn y sgrin Prynwyr, dewiswch Cyngor Sir y Fflint (er gallwch gofrestru gyda sefydliadau prynu eraill ar yr un pryd os dymunwch).

10. Yn y sgrin Prif Fanylion Cyswllt, sicrhewch fod yr holl wybodaeth yn gyflawn. (Gweler nodyn 4 uchod)

11. Derbyniwch y Telerau ac Amodau ac yna cliciwch ar y ">". Mae hyn yn mynd â chi i'r ffenestr Groeso.

12. Yn y sgrin Gorffen, rhowch gyfrinair newydd a gwnewch nodyn o’ch holl fanylion Mewngofnodi ar gyfer y dyfodol.

13. Cliciwch ar "Complete Registration", a fydd yn mynd â chi i’r dudalen Rhwydwaith Cyflenwyr.

14. Ar ganol y sgrin, cliciwch ar "Opportunities". Bydd hyn yn mynd â chi at y rhestr o gyfleoedd sydd ar gael i chi ar hyn o bryd.

15. Cliciwch ar yr ">" sy'n ymwneud â'r hysbysiad hwn; bydd hyn yn mynd â chi i'r PQQ neu'r Cais Tendr, a chliciwch "Register Interest". Sylwch:

Mae’n bosibl y bydd nifer o gyfleoedd yn ymddangos ar y sgrin hon; sicrhewch eich bod yn dewis yr un cywir ar gyfer eich sefydliad.

16. Yn y sgrin "Your Opportunities" nodwch y dyddiad a'r amser cau ar gyfer cwblhau'r prosiect perthnasol. Gwiriwch y tab "Items" (cam Tendr yn unig) a'r tab Dogfennau (PQQ a chamau Tendr) gan y bydd yna wybodaeth sy’n ymwneud â'r prosiect yn y mannau hyn. Mae’r Dogfennau i'w gweld drwy glicio ar y saeth am i lawr o dan y tab Cyffredinol. Sicrhewch eich bod yn lawrlwytho'r holl ddogfennau ar eich cyfrifiadur, gan y bydd gofyn i chi lenwi a llwytho rhai ohonynt fel rhan o'ch cyflwyniad. Mae yna hefyd gyfarwyddiadau ar sut i gwblhau eich cais yn y ddogfen Canllawiau i Gynigwyr sydd yn yr adran hon.

17. Yn awr, gallwch greu eich ymateb neu ddewis "Decline" ar gyfer y cyfle hwn.

(WA Ref:85426)

5.2

Dogfennaeth Ychwanegol

5.3

Dyddiad cyhoeddi'r hysbysiad hwn

  24 - 09 - 2018

Codio

Categorïau nwyddau

ID Teitl Prif gategori
85321000 Gwasanaethau cymdeithasol gweinyddol Gwasanaethau cymdeithasol
85300000 Gwasanaethau gwaith cymdeithasol a gwasanaethau cysylltiedig Gwasanaethau iechyd a gwaith cymdeithasol
85000000 Gwasanaethau iechyd a gwaith cymdeithasol Gwasanaethau eraill
73000000 Gwasanaethau ymchwil a datblygu a gwasanaethau ymgynghori cysylltiedig Ymchwil a Datblygu

Lleoliadau Dosbarthu

ID Disgrifiad
1013 Conwy a Sir Ddinbych
1012 Gwynedd
1023 Sir y Fflint a Wrecsam
1011 Ynys Môn

Cyfyngiadau Rhanbarthol ar y Rhybuddion

Mae’r prynwr wedi cyfyngu’r rhybuddion ar gyfer yr hysbysiad hwn i gyflenwyr yn y rhanbarthau canlynol.

ID Disgrifiad
Nid oes cyfyngiadau ar y rhybuddion ar gyfer yr hysbysiad hwn.

Ynglŷn â'r prynwr

Prif gyswllt:
john.l.williams@denbighshire.gov.uk
Cyswllt gweinyddol:
N/a
Cyswllt technegol:
N/a
Cyswllt arall:
N/a

Gwybodaeth bellach

Dyddiad Manylion
Nid oes unrhyw wybodaeth bellach wedi'i lanlwytho.

0800 222 9004

Mae'r llinellau ar agor rhwng 8:30am a 5pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.

We welcome calls in Welsh.