HYSBYSIAD O GONTRACT - CENEDLAETHOL
|
SERVICES |
1 Manylion yr Awdurdod
|
1.1
|
Enw a Chyfeiriad yr Awdurdod
|
|
S4C |
Canolfan S4C yr Egin, Heol y Coleg, |
Caerfyrddin |
SA31 3EQ |
UK |
Rhys Bevan |
+44 3305880402 |
|
|
https://www.s4c.cymru/cy/ |
|
1.2
|
Cyfeiriad ar gyfer cael dogfennaeth
S4C |
Canolfan S4C yr Egin, Heol y Coleg, |
Caerfyrddin |
SA31 3EQ |
UK |
|
+44 3305880402 |
|
|
https://www.s4c.cymru/cy/ |
|
1.3
|
Mae'n rhaid dychwelyd dogfennau wedi'u cwblhau at:
S4C |
Canolfan S4C yr Egin, Heol y Coleg, |
Caerfyrddin |
SA31 3EQ |
UK |
|
+44 3305880402 |
|
|
https://www.s4c.cymru/cy/ |
|
2 Manylion y Contract
|
2.1
|
Teitl
Gwahoddiad i dendro ar gyfer Cytundebau Fframwaith Cyfieithu
|
2.2
|
Disgrifiad o'r nwyddau neu'r gwasanaethau sydd eu hangen
Gwahoddir ymgeiswyr i fod yn rhan o banel i gyflenwi gwasanaethau cyfieithu. Mae S4C yn tendro am gytundebau fframwaith ar gyfer gwasanaethau cyfieithu ar gyfer llythyrau, dogfennau, adroddiadau, deunyddiau marchnata, canllawiau a pholisïau, yr Adroddiad Blynyddol a’r Cyfrifon a chyfieithu ar y pryd. O bryd i’w gilydd bydd angen hefyd cyfieithu rhai dogfennau cyfreithiol. Bydd angen cyfieithu o’r Gymraeg i’r Saesneg ac hefyd o’r Saesneg i’r Gymraeg. Bydd disgwyl bod cyfieithwyr yn darparu gwasanaeth cywiro lle bo camgymeriadau yn y ddogfen a gyfieithwyd.
Rydym yn edrych am nifer cyfyngedig o gyflenwyr (uchafswm o 6) i ffurfio fframwaith o ddarparwyr. Bydd angen i dendrwyr ddangos profiad helaeth a llwyddiannus yn y maes.
Mae modd i gyflenwr wneud cais am y gwaith o gyfieithu dogfennau penodol, e.e. dogfennau cyfreithiol, neu i gyfieithu ar y pryd yn unig (os oes ganddynt arbenigedd yn y meysydd hyn).
Bydd cyflenwyr sy’n rhan o’r fframwaith yma yn cael cynnig gwaith cyfieithu gan S4C fel bo’r angen yn codi. Bydd y gwaith ar sail prosiect neu brosiectau yn ôl y galw.
Y bwriad yw cynnig cytundebau unigol i ymgeiswyr llwyddiannus er mwyn creu'r fframwaith o gyflenwyr. Noder nad yw bod yn rhan o’r fframwaith er hynny yn gwarantu y byddwch yn cael cynnig unrhyw waith. Gan fod y contract yn ôl y galw, mae swmp y gwaith a fydd ar gael i’r darparwyr yn dibynnu ar lwyth gwaith ac adnoddau dynol ac ariannol mewnol S4C o bryd i’w gilydd. Ar ôl apwyntio fframwaith o gyflenwyr a fedr ddarparu’r gwasanaethau yn y meysydd uchod, bwriedir y bydd S4C yn y lle cyntaf yn cynnig gwaith i’r cyflenwr sy’n cynnig y gwerth gorau am arian o ystyried natur y gwaith. Os nad yw’n bosib i’r cyflenwr hwnnw gwblhau’r gwaith o fewn yr amserlen a nodir, yna bydd S4C yn cynnig y gwaith i’r cyflenwr nesaf sy’n cynnig y gwerth gorau am arian a.y.y.b.
NODER: Ewch i'r Wefan yn https://www.sell2wales.gov.wales/Search/Search_Switch.aspx?ID=134768 i gofrestru eich diddordeb yn yr hysbysiad hwn a chael unrhyw wybodaeth ychwanegol.
|
2.3
|
Cod a Dosbarthiad yr Hysbysiad
|
|
|
|
|
79530000 |
|
Translation services |
|
|
|
|
|
1000 |
|
WALES |
|
1010 |
|
West Wales and The Valleys |
|
1011 |
|
Isle of Anglesey |
|
1012 |
|
Gwynedd |
|
1013 |
|
Conwy and Denbighshire |
|
1014 |
|
South West Wales (Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion) |
|
1015 |
|
Central Valleys (Merthyr Tydfil, Rhondda Cynon Taf) |
|
1016 |
|
Gwent Valleys (Torfaen, Blaenau Gwent, Caerphilly) |
|
1017 |
|
Bridgend and Neath Port Talbot |
|
1018 |
|
Swansea |
|
1020 |
|
East Wales |
|
1021 |
|
Monmouthshire and Newport |
|
1022 |
|
Cardiff and Vale of Glamorgan |
|
1023 |
|
Flintshire and Wrexham |
|
1024 |
|
Powys |
|
2.4
|
Cyfanswm maint neu gwmpas y tendr
Bydd y cytundeb am gyfnod o dair blynedd gydag opsiwn i ymestyn hyd y cytundeb am 12 mis ychwanegol.
|
3 Amodau ar gyfer Cymryd Rhan
|
3.1
|
Safonau gofynnol a'r cymhwyster sydd ei angen
Mae S4C yn chwilio am ymatebion oddi wrth gwmniau sy'n medru dangos profiad o ddarparu gwasanaethau cyfieithu yn llwyddiannus.
|
4 Gwybodaeth Weinyddol
|
4.1
|
Math o Weithdrefn
Un cam
|
4.2
|
Rhif cyfeirnod a roddwyd i'r hysbysiad gan yr awdurdod contractio
N/a
|
4.3
|
Terfynau Amser
|
|
Terfyn amser ar gyfer derbyn tendrau wedi'u cwblhau
04
- 10
- 2023
Amser 12:00
Dyddiad dyfarnu amcangyfrifedig
13
- 10
- 2023 |
4.5
|
Yr iaith neu'r ieithoedd y gellir ei/eu defnyddio i lunio tendrau neu geisiadau i gymryd rhan
EN
CY
|
4.6
|
Blwch Postio Cyflwyno Tendrau
|
5 Gwybodaeth Arall
|
5.1
|
Gwybodaeth Ychwanegol
Ni fydd rheidrwydd ar S4C i dderbyn unrhyw dendr ac mae S4C yn cadw’r hawl: (a) i dynnu yn ôl o a/neu roi’r gorau i a/neu ohirio’r broses dendro hon ar unrhyw adeg; a/neu (b) i beidio dyfarnu unrhyw gytundeb o ganlyniad i’r broses dendro hon.
Am ragor o wybodaeth am ofynion a’r broses dendro hon, cyfeiriwch at y Gwahoddiad i Dendro a’r Cytundeb Drafft sydd ynghlwm. Gallwch ddod o hyd i gopi o’r dogfennau ar wefan S4C (www.s4c.cymru) trwy glicio ar ‘tendrau’ a dilyn y ddolen gyswllt.
Rhaid i gwmnïau sy’n dymuno cymryd rhan yn y tendr hwn gael a chwblhau’r Gwahoddiad i Dendro. Ni fydd ceisiadau nad ydynt yn cael eu cyflwyno yn unol â’r Gwahoddiad i Dendro yn cael eu hystyried.
Mae S4C yn cadw’r hawl i roi’r gorau ddyfarnu’r cytundeb hwn ar unrhyw adeg o’r broses dendro ac i beidio â derbyn unrhyw dendrau a gyflwynwyd.
O fewn y cytundeb fframwaith, bydd S4C yn cadw’r hawl i wneud y gwaith a fwriadwyd ei osod yn unol â’r cytundeb yn fewnol. Lle y caiff contractiwr ei apwyntio o dan y cytundeb fframwaith, ni fydd S4C yn gwarantu lleiafswm gwariant i’r contractiwr hwnnw.
Rhyddid Gwybodaeth
Mae’r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth (“RhG”) 2000 yn weithredol i S4C. Gall fod gofyn i S4C ddatgelu unrhyw wybodaeth a ddarperir gan unrhyw gwmni i S4C yn unol â’r RhG. Os bydd unrhyw Dendrwr o’r farn bod unrhyw wybodaeth a ddarperir ganddo i S4C yn sgil y gwahoddiad hwn, o natur gyfrinachol neu sensitif yn fasnachol, dylai’r Tendrwr nodi hynny yn benodol gan nodi’r rhesymau dros ystyried y fath wybodaeth yn wybodaeth sensitif. Noder, serch hynny, na fydd nodi bod gwybodaeth yn gyfrinachol neu’n sensitif yn fasnachol yn sicrhau y bydd yn cael ei eithrio rhag ei ddadlennu. Mae S4C yn cadw’r hawl i benderfynu yn ei disgresiwn llwyr os yw unrhyw wybodaeth arbennig wedi ei eithrio rhag ei ddadlennu.
Diogelu Data
Trwy gyflwyno ymateb i’r tendr hwn, mae Tendrwyr yn cadarnhau eu bod wedi rhoi gwybod i bob unigolyn a nodir yng nghyflwyniad y tendr y byddant yn rhannu eu data personol fel hyn. Mae Tendrwyr yn cydnabod y bydd S4C yn prosesu’r holl ddata personol a ddarperir fel rhan o ymateb y tendr yn unol â’r ddeddfwriaeth diogelu data berthnasol (gan gynnwys y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data 2016 a Deddf Diogelu Data 2018). Mae Hysbysiad Preifatrwydd S4C ar gael yn www.s4c.cymru ac mae Tendrwyr yn cadarnhau trwy hyn y byddant yn hysbysu pob unigolyn y mae eu data personol yn cael ei ddarparu i S4C. Bydd S4C yn prosesu unrhyw ddata personol a ddarperir yn ymatebion y tendr ar y sail ei bod o fudd cyfreithlon i’r Tendrwr ac S4C i brosesu’r holl ddata personol a ddarperir fel rhan o ymateb y tendr at ddiben gwerthuso ymateb y tendr.
(WA Ref:134768)
|
5.2
|
Dogfennaeth Ychwanegol
|
5.3
|
Dyddiad cyhoeddi'r hysbysiad hwn
13
- 09
- 2023 |