Skip to main content

Rydym wedi cadw rhai ffeiliau o'r enw cwcis ar eich dyfais. Y cwcis hyn yw:

  • Hanfodol ar gyfer y safle i weithio
  • Helpu i wella ein gwefan drwy gasglu ac adrodd gwybodaeth am sut rydych chi'n ei defnyddio

Hoffem hefyd arbed rhai cwcis i helpu i deilwra cyfathrebu.

BETA
Rydych yn edrych ar fersiwn wedi'i ddiweddaru o'r gwasanaeth hwn - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Cyfle Support Services Cyf

Gweld astudiaeth achos Cyfle Cyf Support Services Cyf

Crynodeb

Astudiaeth Achos - Cyfle Support Services Cyf

Mae Cyfle Support Services Cyf yn fenter fach a chanolig ddielw sydd wedi'i lleoli ym Mhwllheli, Gwynedd. Rydym yn cefnogi pobl ifanc 16 i 25 oed sy'n ddigartref, mewn perygl o fod yn ddigartref neu sydd angen cymorth i ddatblygu'r hyder a'r sgiliau ymarferol sydd eu hangen i fyw'n annibynnol. Mae ein gwasanaethau'n cynnwys llety lled-annibynnol, cymorth i atal digartrefedd, cymorth fel y bo'r angen yn y gymuned a chyngor hygyrch drwy ein gwasanaeth galw heibio. Ar hyn o bryd rydym yn cyflogi tua 33 o bobl ac yn gweithio gyda bwrdd o bum aelod a gwirfoddolwyr lleol.


Rhagarweiniad
Mae Cyfle Support Services Cyf yn fenter fach a chanolig ddielw sydd wedi'i lleoli ym Mhwllheli, Gwynedd. Rydym yn cefnogi pobl ifanc 16 i 25 oed sy'n ddigartref, mewn perygl o fod yn ddigartref neu sydd angen cymorth i ddatblygu'r hyder a'r sgiliau ymarferol sydd eu hangen i fyw'n annibynnol. Mae ein gwasanaethau'n cynnwys llety lled-annibynnol, cymorth i atal digartrefedd, cymorth fel y bo'r angen yn y gymuned a chyngor hygyrch drwy ein gwasanaeth galw heibio. Ar hyn o bryd rydym yn cyflogi tua 33 o bobl ac yn gweithio gyda bwrdd o bum aelod a gwirfoddolwyr lleol.
Hanes Byr  
Sefydlwyd Cyfle yn 2005 mewn ymateb i fwlch yn y cymorth oedd ar gael i bobl ifanc a oedd yn gadael gofal. Ers hynny, rydym wedi tyfu'n sylweddol ac rydym bellach yn darparu cymorth ar draws ystod eang o feysydd. Rydym yn ofalus i beidio â dyblygu gwasanaethau sydd eisoes yn gweithio'n dda. Yn hytrach, rydym yn nodi anghenion sydd heb eu diwallu ac yn datblygu gwasanaethau ymarferol ac ymatebol i fynd i'r afael â nhw. Credwn fod y dull hwn wedi bod yn ganolog i'n twf a'n llwyddiant parhaus.
Beth yw eich llwyddiant fwyaf?
Un o'n momentau mwyaf balch oedd sicrhau'r contract i ddarparu'r gwasanaeth Galw Heibio i bobl ifanc ledled Gwynedd ar ôl dod o hyd i'r cyfle drwy GwerthwchiGymru. Mae'r dyfarniad yn cydnabod ansawdd y gwasanaeth rydym wedi'i ddatblygu'n lleol ac yn ein galluogi i ymestyn cymorth hygyrch i bobl ifanc ar draws sir wledig fawr, gan gynnwys cymunedau lle gall trafnidiaeth a phellter ei gwneud yn anodd cael cymorth. I sefydliad dielw cymharol fach, roedd ennill drwy broses gaffael agored hefyd yn dangos y gall tystiolaeth leol gref, canlyniadau clir a gwasanaeth sydd wedi'i gynllunio'n dda gystadlu'n llwyddiannus.
Ydych chi’n defnyddio Cymraeg yn eich busnes?
Mae'r Gymraeg yn ganolog i'n ffordd o weithio. Rydym yn darparu gwasanaethau'n ddwyieithog ac yn galluogi pobl ifanc i gyfathrebu yn yr iaith y maent yn teimlo fwyaf cyfforddus ynddi. Mae hyn yn arbennig o bwysig pan fydd rhywun yn trafod digartrefedd, llesiant neu amgylchiadau sensitif eraill. Mae defnyddio'r Gymraeg yn ein helpu i feithrin ymddiriedaeth, adlewyrchu'r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu a darparu gwasanaeth cyfartal, yn hytrach na thrin yr iaith fel ychwanegiad. Mae hefyd yn cryfhau ein perthynas â phartneriaid a chomisiynwyr lleol.
Beth oedd eich her fwyaf hyd yn hyn? 
Fel sefydliad bach, ein her fwyaf oedd ein profiad cyfyngedig o brosesau caffael ffurfiol ac ysgrifennu ceisiadau tendro cystadleuol. Roedd y broses dendro yn gofyn am gryn dipyn o amser, ymchwil a sylw i fanylion, ac roedd yn rhaid inni gwblhau'r gwaith ochr yn ochr â darparu ein gwasanaethau o ddydd i ddydd. Er gwaethaf ein profiad cyfyngedig, mae'n ymddangos bod ein gwaith caled, ein paratoi gofalus a'n gonestrwydd ynghylch yr hyn y gallem ei ddarparu'n realistig wedi gwneud y gwahaniaeth. Pe baem yn mynd drwy'r broses eto, byddem yn dechrau paratoi'n gynharach ac yn creu llyfrgell ganolog yn cynnwys ein polisïau, canlyniadau, astudiaethau achos, cyfrifon a gwybodaeth sefydliadol safonol. Byddem yn annog sefydliadau bach eraill i beidio â cholli gobaith wrth gystadlu yn erbyn darparwyr mwy neu fwy sefydledig. Mae'n rhaid i bawb ddechrau yn rhywle. Os ydych yn wirioneddol angerddol am eich gwasanaeth, yn deall yr hyn rydych am ei ddarparu ac yn gallu cefnogi'ch cynnig â thystiolaeth glir, mae'r broses gaffael yn darparu cyfle teg i ddangos gwerth eich sefydliad.
Beth yn eich barn chi yw manteision o defnyddio GwerthwchiGymru
Mae GwerthwchiGymru yn rhoi mynediad clir a chyfartal i sefydliadau llai yng Nghymru at gyfleoedd yn y sector cyhoeddus a allai fel arall fod yn anodd dod o hyd iddynt. Mae'r hysbysiadau yn ei gwneud yn haws adnabod cyfleoedd perthnasol, ac mae'r dogfennau a gyhoeddir yn ein helpu i ddeall gofynion y prynwr, yr amserlen a'r meini prawf gwerthuso. Mae'r platfform yn cefnogi proses dryloyw ac yn rhoi hyder i sefydliadau fel ein sefydliad ni gystadlu ar sail ansawdd ein gwasanaeth, ein gwybodaeth leol a'n canlyniadau.
Unrhyw gynghorion i’w gynnig i fusnesau eraill
Cofrestrwch ar gyfer y categorïau cywir, gosodwch hysbysiadau penodol a darllenwch bob dogfen yn ofalus. Cadwch eich polisïau a'ch tystiolaeth yn gyfredol, ac atebwch y cwestiynau'n uniongyrchol - heb fynd dros y terfyn geiriau, fel y llwyddais i ei wneud dro ar ôl tro! Peidiwch â bod yn rhy falch nac yn rhy swil i ofyn am help. Ymatebodd llinell gymorth GwerthwchiGymru yn gyflym pryd bynnag yr aethom yn sownd, a chawsom gymorth ardderchog gan Busnes Cymru. Cysylltwch a manteisiwch ar yr help sydd ar gael - mae'r gefnogaeth yn wych.

0800 222 9004

Mae'r llinellau ar agor rhwng 8:30am a 5pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.

We welcome calls in Welsh.