Mae gwerthwchigymru.llyw.cymru yn defnyddio cwcis sy'n hanfodol er mwyn i'r safle weithio. Rydym hefyd yn defnyddio cwcis nad ydynt yn hanfodol i'n helpu i wella gwasanaethau digidol y Llywodraeth. Mae unrhyw ddata a gesglir yn ddienw. Drwy barhau i ddefnyddio'r safle hwn, rydych yn cytuno i'n defnydd o gwcis

Derbyn ein defnydd o gwcis Gosodiadau cwcis

Lawrlwytho gwybodaeth am hysbysiadau

 

Mae'r holl wybodaeth a gynhwysir mewn hysbysiadau a gyhoeddir ar GwethwchiGymru ar gael mewn fformatau agored y gellir eu hailddefnyddio sy'n cydymffurfio â'r Safon Data Contractio Agored (OCDS), safon a gydnabyddir yn rhyngwladol ar gyfer cyhoeddi gwybodaeth caffael

Cyhoeddir y wybodaeth yn unol â'r Drwydded Llywodraeth Agored sy'n caniatáu i ddefnyddwyr ddefnyddio ac ailddefnyddio'r wybodaeth sydd ar gael o dan y drwydded hon yn rhydd ac yn hyblyg, gyda dim ond ychydig o amodau.

Mae'r wybodaeth hon ar gael ar dudalen tryloywder GwerthwchiGymru ar waelod y dudalen:

 

 

Gallwch hefyd gael mynediad i'r un wybodaeth drwy droedyn y dudalen o dan y ddolen Data Tryloywder Contractio Agored:

 

 

Lawrlwytho gwybodaeth am hysbysiadau

 

Mae'r wybodaeth am hysbysiadau ar gael i'w lawrlwytho swmp yn ôl y math o hysbysiad yn JSON, XML, Excel a CSV. Gellir lawrlwytho'r wybodaeth erbyn y mis y cyhoeddwyd yr hysbysiad.

Mae'r wybodaeth hefyd ar gael fel API trwy glicio ar y ddolen ar frig y dudalen

Sylwch, er mwyn lawrlwytho ffeil JSON, y bydd angen y meddalwedd priodol wedi'i osod arnoch i allu ei weld.

Mae Rhyngwyneb y Rhaglen Ymgeisio (API) yn galluogi swmp-lwytho'r holl wybodaeth am hysbysiadau i lawr mewn fformat y gellir ei ddarllen gan beiriant.

 

Chwilio yn ôl ID Contractio Agored

 

Mae gan bob hysbysiad ar GwerthwchiGymru ID Contractio Agored (OCID) wedi'i ddyrannu iddynt. Mae hwn yn gyfeirnod byd-eang unigryw sy'n berthnasol i deulu o hysbysiadau (Er enghraifft, bydd PIN, hysbysiad cyswllt a dyfarniad contract yn gysylltiedig â'r ID hwn).

Mae hyn i'w weld yn gyhoeddus i ddefnyddwyr a gellir ei ddefnyddio i chwilio am hysbysiadau.

Os ydych am ddarparu rhif OCID yn y maes isod, byddwch yn gallu dod o hyd i'r teulu cyfan o hysbysiadau fel PIN, Hysbysiad Contract a Dyfarniad cysylltiedig.