Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio'n agos gyda busnes a
diwydiant i gael cyflenwadau o gyfarpar critigol, gan gynnwys cynhyrchion glanhau
a PPE i weithwyr rheng flaen sy'n wynebu prinder yn ystod yr achosion o
COVID-19.
Os ydych yn gyflenwr PPE neu offer hanfodol eisoes neu os
ydych yn gallu darparu unrhyw gymorth ychwanegol ar weithgynhyrchu, ail-greu
cynhyrchion neu arloesi, cysylltwch
â'r Ganolfan Gwyddor Bywyd drwy eu porth arloesi.
Cefnogi adeiladu ychwanegol a llety dros dro
i'r GIG
Unrhyw gyflenwyr sy'n gallu cynnig cefnogaeth yn benodol ar
gyfer cynllunio, adeiladu a gweithredu yn y maes llety ychwanegol / dros dro
i'r GIG, cofrestrwch ddiddordeb drwy HSS.COVID-19.PlanningCell@llyw.cymru os
gwelwch yn dda.
Ar gyfer unrhyw gynigion eraill o gefnogaeth
Os rydych yn gallu cynnig unrhyw gymorth arall, nad yw'n
uniongyrchol gysylltiedig ag offer meddygol neu PPE, hoffai ein timau
rhanbarthol glywed gennych. Byddwn yn nodi pob cynnig ar lefel ranbarthol a
lleol. I gofrestru cynigion o'r math yma, a wnewch gwblhau
y ffurlen arlein canlynol.
Cynigion nad ydynt yn ymwneud â Chyfarpar
Diogelu Personol ar gyfer y DU
Gall unrhyw gyflenwyr yng Nghymru sy'n gallu darparu nwyddau
a gwasanaethau i'r sector cyhoeddus a'r trydydd sector y tu allan i Gymru yn
ystod yr achosion o Coronafeirws (COVID-19) gyflwyno eu cynigion o gymorth ar
Gatalog Gwasanaethau Masnachol y Goron (CSS). Mae pob un o'r nwyddau a'r
gwasanaethau a gynigir wedi'u categoreiddio yn ôl yr hyn a gynigir a'r
rhanbarth y'i cynigir ynddo.
Nid yw'r catalog hwn yn cynnwys cynigion Cyfarpar Diogelu
Personol.
Archwiliwch y CCS
COVID-19: catalog o gynigion cyflenwyr.
I wneud cynnig o gefnogaeth cysylltwch â: info@crowncommercial.gov.uk
Cyhoeddwyd gyntaf
28 Mai 2020
Diweddarwyd diwethaf
07 Mawrth 2024