Ydych chi am gael gwybod a yw eich busnes yn gymwys i gael Credydau Treth Ymchwil a Datblygu? Ydych chi'n chwilio am gyllid ar gyfer prosiect arloesol?
Os ydych chi, ymunwch â ni yn nigwyddiad ar-lein nesaf Grŵp Rhyngweithio â Busnesau Dyfrffordd Daugleddau ar y cyd â Busnes Cymru i ystyried sut y gallai eich busnes fanteisio ar Gredydau Treth YaD a chyllid ar gyfer arloesi ar gael gan Lywodraeth Cymru. Cynhelir ar ddydd Iau 28 Ionawr 2021, 9.30yb - 11.30yb.
Llywio i'r digwyddiad Credydau Treth YaD - A ydych chi'n colli allan? Ar Finder Digwyddiadur Busnes Cymru i gofrestru
Ymhlith y cyflwynwyr yn y digwyddiad fydd Robert Cowdery o CThEM, Gregg Williams o Arloesedd SMART Llywodraeth Cymru, a Meurig Jenkins, Cyfarwyddwr Cyllid Mainstay Marine.
Ers lansio cynlluniau credyd treth YaD yn 2000, mae dros 300,000 o geisiadau wedi cael eu gwneud a £33.3 biliwn o ryddhad treth wedi'i hawlio. Fodd bynnag, amcangyfrifodd astudiaeth ddiweddar gan CThEM mai dim ond 5% o'r cwmnïau cymwys sy'n gwneud cais dan y ddeddfwriaeth berthnasol.
Bydd CThEM yn darparu trosolwg cyffredinol o YaD a sut mae CThEM yn gweinyddu'r rhyddhad. Golwg fanylach ar y cynllun BBaCh, gan drafod gweithgareddau a chostau cymwys a all ffurfio rhan o'r ceisiadau hyn, gyda throsolwg o sut y gall grantiau'r llywodraeth a chymorth gwladol arall effeithio ar y rhyddhad hwn, gan gynnwys y grantiau COVID diweddaraf ar gael.
Bydd Meurig Jenkins, Cyfarwyddwr Cyllid Mainstay Marine, yn darparu trosolwg o brofiad y cwmni o'r broses ymgeisio am Gredydau Treth YaD.
Gall Llywodraeth Cymru helpu busnesau i gynnal gweithgareddau Ymchwil, Datblygu ac Arloesi. Gall Arbenigwyr Arloesi helpu busnesau i wneud cynlluniau priodol ar gyfer arloesi a chael mynediad at gymorth arall megis adolygiadau Gweithgynhyrchu a Dylunio. Gall cymorth grant gwerth hyd at 70% o gostau cymwys fod ar gael gan SMARTCymru i gynnal prosiectau Ymchwil a Datblygu, cael mynediad at arbenigedd trydydd parti, amddiffyn eiddo deallusol, gweithredu prosesau cynhyrchu newydd neu brynu offer cyfalaf.
Mewn nifer o achosion, gall busnesau dderbyn grant gan y llywodraeth a chredydau treth YaD ar gyfer yr un prosiect. Fodd bynnag, mae'n bwysig nodi y gall CThEM a Llywodraeth Cymru drin costau prosiect yn wahanol, ac nid yw rhai mathau o grantiau yn gydnaws â chynllun rhyddhad treth YaD BBaCh Byddwn yn egluro'r mathau gwahanol o gymorth grant ac a ellir eu cyfuno â chredydau treth YaD i helpu busnesau i fanteisio i'r eithaf ar fuddion buddsoddi mewn YaD.
Dyma ddigwyddiad na ellir ei fethu, felly cadarnhewch eich lle heddiw, gan y disgwyliwn i leoedd lenwi'n sydyn.
Cyhoeddwyd gyntaf
05 Ionawr 2021
Diweddarwyd ddiwethaf
07 Mawrth 2024