17 Mawrth 2021, 10:00 - 12:00
Digwyddiad ar-lein
Cost: Am ddim
Mae tîm arloesedd Llywodraeth Cymru yn cynnal digwyddiad rhithwir i helpu BBaChau i gael at y cyllid a’r cymorth i’w galluogi i fuddsoddi mewn technoleg newydd a chryfhau eu dyfodol.
Bydd y digwyddiad rhithwir ar 17 Mawrth yn dangos sut mae busnesau yng Nghymru wedi trawsnewid trwy gyllid y llywodraeth a thrwy fabwysiadu agwedd arloesol at dechnoleg.
Bydd y cynrychiolwyr hefyd yn clywed yn uniongyrchol gan bobl fusnes sydd eisoes wedi elwa o weithio gydag arbenigwr ar arloesedd. Cofrestrwch nawr i dreulio diwrnod yn gweithio ar eich busnes, nid dim ond yn eich busnes.
Gallwch gofrestru ar gyfer y digwyddiad rhithwir Technoleg ac Arloesedd I gynorthwyo Bbachau yng Nghymru ar wefan y Waterfront.
Cyhoeddwyd gyntaf
22 Chwefror 2021
Diweddarwyd diwethaf
07 Mawrth 2024