Mae gwerthwchigymru.llyw.cymru yn defnyddio cwcis sy'n hanfodol er mwyn i'r safle weithio. Rydym hefyd yn defnyddio cwcis nad ydynt yn hanfodol i'n helpu i wella gwasanaethau digidol y Llywodraeth. Mae unrhyw ddata a gesglir yn ddienw. Drwy barhau i ddefnyddio'r safle hwn, rydych yn cytuno i'n defnydd o gwcis

Derbyn ein defnydd o gwcis Gosodiadau cwcis

Prif dudalen newyddion

Diweddariad Gwasanaeth Canfod Tendr (FTS): Cyhoeddi hysbysiadau a ariennir gan yr UE ar GwerthwchiGy

 

Mae llywodraeth y DU wedi datblygu system e-hysbysu newydd o'r enw Gwasaneth Canfod Tendr (FTS) i gymryd lle Cyfnodolyn Swyddogol yr Undeb Ewropeaidd (OJEU) a Thendrau Electronig Dyddiol (TED).

Fodd bynnag, mae angen hysbysebu unrhyw gontract/fframwaith newydd ar gyfer rhaglenni neu fframweithiau a ariennir gan yr UE lle bydd unrhyw alwad ddilynol yn amodol ar ddyrannu arian yr UE o hyd ar OJEU/TED. I wneud hyn, bydd angen i chi dicio'r blwch 'a ariennir gan yr UE' (Cwestiwn II.2.13) wrth lenwi'r ffurflen creu hysbysiad contract ar GwerthwchiGymru. Bydd ticio'r blwch hwn yn rhoi gwybod yn awtomatig i GwerthwchiGymru bod angen cyhoeddi'r manylion ar OJEU/TED.

Sylwer y bydd hysbysiadau a ariennir gan yr UE yn cael eu cyhoeddi ar TED a GwerthwchiGymru yn unig, ac na fyddant yn cael eu cyhoeddi ar FTS.

Gellir cyfeirio pob ymholiad at:

  • PolisiMasnachol@llyw.cymru
  • Ymholiadau technegol GwerthwchiGymru – cysylltwch â llinell gymorth cymorth technegol GwerthwchiGymru ar 0800 222 9004.