Mae gwerthwchigymru.llyw.cymru yn defnyddio cwcis sy'n hanfodol er mwyn i'r safle weithio. Rydym hefyd yn defnyddio cwcis nad ydynt yn hanfodol i'n helpu i wella gwasanaethau digidol y Llywodraeth. Mae unrhyw ddata a gesglir yn ddienw. Drwy barhau i ddefnyddio'r safle hwn, rydych yn cytuno i'n defnydd o gwcis

Derbyn ein defnydd o gwcis Gosodiadau cwcis

Prif dudalen newyddion

Achlysur Cwrdd â'r Prynwr Rhithiol trwy Microsoft Teams Kier Construction - Y Matrics Arloesedd

 

25 Mai 2022, 14:30 - 17:00

Digwyddiad ar-lein

Cost: Am ddim

Achlysur Cwrdd â'r Prynwr Rhithiol trwy Microsoft Teams

Disgrifiad o'r Prosiect:

Adeilad Deallus fydd y Matrics Arloesedd. Bydd yn defnyddio'r datblygiadau diweddaraf o ran 5G, Y Rhyngrwyd Pethau ac Ai i ddarparu amgylchedd gwaith sy'n fwy seiliedig ar ddata, ac sy’n effeithlon, yn ddiogel, yn gost-effeithiol ac yn gynhyrchiol yn y pen draw. Bydd yr adeilad yn hawdd ei gyflunio, sy'n golygu bod modd ei drawsnewid i ymateb i'r newid yn y galw, gydag ystafelloedd hyblyg a gofod dros dro i ddarparu ar gyfer ffyrdd newydd o weithio. Nod y prosiect yw defnyddio arferion gorau wrth ddylunio'r Matrics Arloesedd, gan fabwysiadu egwyddorion ynni isel a defnyddio deunyddiau naturiol er mwyn iddo fod yn niwtral o ran carbon dros ei oes.

Gwerth: £8.5m

Pecynnau:

  • Gwaith Paratoi'r Tir (gan gynnwys Palmantu)
  • Gwaith Dur
  • Lloriau Cyfansawdd
  • Grisiau Parod
  • To a Chladin
  • Canllawiau a Rampiau
  • Ffenestri, Llenfuriau a Drysau Allanol
  • Drysau Dur Allanol
  • Waliau Mewnol, Canolfuriau a Nenfydau
  • Drysau Mewnol
  • Llawr Mynediad Uwch
  • Sgrîd
  • Addurno
  • Teils Serameg
  • Gorffeniad y Lloriau
  • Cuddyglau ac IPS
  • Gosodiadau Mecanyddol a Pheirianyddol
  • Gosodiadau'r Lifft
  • Tirweddu Meddal a Phlannu

Archebwch nawr: Achlysur Cwrdd â'r Prynwr Rhithiol trwy Microsoft Teams Kier Construction - Y Matrics Arloesedd