Ydych chi am gyflenwi eich nwyddau, gwaith a gwasanaethau i Gyngor Sir Caerfyrddin?
Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn ymgysylltu'n rhagweithiol â busnesau bach a chanolig lleol, sefydliadau'r trydydd sector a grwpiau lleiafrifol wrth gyflawni'r fenter ymgysylltu â chyflenwyr hon.
Mae'r Cyngor yn awyddus i weld busnesau bach a chanolig yn cystadlu am y cyfle i gyflenwi nwyddau, gwaith a gwasanaethau i'r ddau awdurdod.
Bydd Swyddogion Caffael a Datblygu Economaidd ar gael i gynnig gwybodaeth a chymorth ar gyfleoedd masnachu presennol ac yn y dyfodol, cymorth busnes a chyllid grant.
Bydd Cymhorthfa Caffael a Busnes yn cael ei chynnal yn:
- Canolfan Menter Y Goleudy, Dafen, Llanelli – Mehefin 20fed 2023
- Canolfan S4C Yr Egin, Caerfyrddin – Gorffennaf 18eg 2023
Archebwyd apwyntiad drwy chysylltu ar ebost i: kbaker@sirgar.llyw.cymru
Bydd mwy o ddyddiadau I ddilyn rhwng Medi 2023 a Mawrth 2024 ac yn cynnwys lleoliadau yn 3 prif dref, Porth Tywyn a’r 10 dref gwledig yn Sir Caerfyrddin.
Byddwn hefyd yn cynnal meddygfeydd rhithiol yn ol yr angen.
Cyhoeddwyd gyntaf
07 Mehefin 2023
Diweddarwyd ddiwethaf
07 Mawrth 2024