Cyhoeddwyd gan: Cyngor Gwynedd Council
Dymuna Uchelgais Gogledd Cymru sefydlu rhestr cyflenwyr ffafredig, fydd yn darparu rhestr o gyflenwyr cymeradwy i ymgymryd â gwaith cefnogi ysgrifennu bidiau fel y disgrifir ymhellach isod: Mae Uchelgais Gogledd Cymru yn bwriadu lansio grant cymorth ysgrifennu bid.
Bydd hyn ar gael i sefydliadau cymunedol bychain a mentrau bychain sydd â Phrosiect "Ynni Glân / Datgarboneiddio" sy'n barod i'w weithredu fydd angen cyllid cyfalaf yn y dyfodol agos ac sy'n medru dangos pam eu bod angen cymorth ysgrifennu bid. Mae'r grant ysgrifennu bid hwn yn arian refeniw, a gall ymgeiswyr grant cymwys ("Ymgeisydd Grant") ymgeisio am hyd at £5,000.
Bydd Ymgeiswyr Grant Cymwys yn dewis cyflenwr a ffafrir o’r rhestr cyflenwyr ffafredig i gynnal y gwasanaethau yn uniongyrchol ar ei cyfer. Bydd gofyn i Ymgeiswyr Grant Cymwys gael dyfynbris gan eu cyflenwr dewisol ("Cyflenwr"), i'w ddarparu i Uchelgais Gogledd Cymru, cyn i'r grant gael ei gymeradwyo. Bydd angen i ddyfynbrisiau a ddarparwyd gan bob Cyflenwr fod ar bris arferol y farchnad a bydd unrhyw ddyfynbris a ystyrir yn fwy nag hynny yn cael ei wrthod a bydd y Cyflenwr yn cael ei dynnu oddi ar y rhestr cyflenwyr ffafriedig. Bydd y cytundeb yn cael ei gynnal yn uniongyrchol rhwng yr Ymgeisydd Grant a'i Gyflenwr dewisol.
Darllen mwy: Gweld Hysbysiad - GwerthwchiGymru (llyw.cymru)
Cyhoeddwyd gyntaf
21 Mehefin 2024
Diweddarwyd diwethaf
21 Mehefin 2024