Mae’r sesiwn hon ar gael ar dri dyddiad:
Medi 18fed – 10:00yb – 11.30 yb - Ar lein > Yma.
Medi 24ain – 12.00yp – 13:30yp – Ar lein neu Wyneb yn Wyneb > Yma.
Hydref 8fed - 12.00yp -13:30yp - Wyneb yn Wyneb > Yma.
Cost: Am ddim
Bydd Deddf Caffael 2023 yn dod i rym ar 24 Chwefror 2025 a bydd yn trawsnewid sut y caiff contractau cyhoeddus eu caffael.
Bydd y drefn newydd yn darparu caffael symlach, mwy effeithiol yn y sector cyhoeddus, ac yn helpu busnesau bach a chanolig (BBaChau) i sicrhau cyfran fwy o oddeutu £300bn o wariant y flwyddyn. Bydd dyletswydd benodol ar awdurdodau contractio nawr i roi sylw i'r rhwystrau a allai fod gan BBaChau wrth sicrhau contractau cyhoeddus a chwalu'r rhwystrau hynny.
Beth fydd cynnwys y cwrs?
Bydd y sesiwn hon yn tywys busnesau bach a chanolig drwy brif ddarpariaethau y Deddf Caffael 2023 ac yn rhoi arweiniad ar sut gallent baratoi cyn gystal â phosibl er mwyn sicrhau bod ganddynt y siawns gorau o ennill contractau cyhoeddus.
Pwysig - Mae'r digwyddiad hwn ar gyfer busnesau bach a chanolig eu maint yng nghymru.
Cyhoeddwyd gyntaf
14 Awst 2024
Diweddarwyd diwethaf
12 Medi 2024