Rhwydwaith Busnes Bwyd a Diod Sir Fynwy a Busnes Cymru yn Cyflwyno Gweithdy Cynaliadwyedd Busnes: Camau Syml gyda'r Addewid Twf Gwyrdd.
1 Hydref 2024, 10:00 - 15:00
Little Green Refills, Abergavenny, NP7 5SD
Cost: Am ddim
Mae Busnes Cymru mewn partneriaeth â Rhwydwaith Busnes Bwyd a Diod Sir Fynwy yn gyffrous i gyflwyno’r gweithdy hwn ar gynaliadwyedd ar gyfer busnesau bwyd a diod bach a micro. Byddwn yn edrych ar dair piler cynaliadwyedd – amgylcheddol, economaidd a chymdeithasol (gan gynnwys eich lles fel perchennog busnes) – ac yn defnyddio’r Addewid Twf Gwyrdd i nodi camau syml i wella a dathlu cynaliadwyedd eich busnes penodol.
Mae’r Addewid Twf Gwyrdd yn fenter gan Lywodraeth Cymru sy’n cefnogi busnesau Cymru i gymryd camau rhagweithiol tuag at wella eu cynaliadwyedd, gan ddangos eu heffaith gadarnhaol ar y bobl a’r lleoedd o’u cwmpas.
Gallwch ddefnyddio'ch addewid yn hyderus ym mhob marchnata a chyfathrebiad, gan hysbysu cwsmeriaid yn effeithiol am eich ymrwymiadau cynaliadwyedd, gyda chefnogaeth cynllun cadarn a dibynadwy.
Beth fydd cynnwys y cwrs?
- Sut i gyfleu eich polisïau cynaliadwyedd yn llwyddiannus.
- Addewid Twf Gwyrdd – trosolwg a chyfle i gyflawni addewid gyda Chynghorydd Datgarboneiddio Busnes Cymru.
- Trosolwg o Gymorth Datgarboneiddio Pellach Busnes Cymru.
Archebwch nawr: Business Wales Events Finder - Rhwydwaith Busnes Bwyd a Diod Sir Fynwy a Busnes Cymru yn Cyflwyno Gweithdy Cynaliadwyedd Busnes: Camau Syml gyda'r Addewid Twf Gwyrdd (business-events.org.uk)
Cyhoeddwyd gyntaf
13 Medi 2024
Diweddarwyd diwethaf
13 Medi 2024