Mae'n bleser cael eich gwahodd i'r Gweithdy Adnewyddu Asedau Mawr fydd yn cael ei gynnal ar 10 Hydref 2024 ym Mhrifysgol Wrecsam.
Mae'r gweithdy hwn yn trafod y ffordd newydd y mae Llywodraeth Cymru am ymdrin â Chynlluniau Adnewyddu Asedau Mawr yn dilyn Adolygiad Lugg, a fydd yn cyd-fynd hefyd ag uchelgeisiau a blaenoriaethau Strategaeth Drafnidiaeth Cymru (WTS). Y nod yw creu system drafnidiaeth gynaliadwy, teg a chydnerth, gydag ymrwymiad i ddatgarboneiddio, hyrwyddo lles a sbarduno twf yr economi.
Bydd ymgynghorwyr, contractwyr a rhanddeiliaid allweddol y diwydiant yn dod ynghyd ar gyfer y gweithdy hwn i ystyried y gwaith Adnewyddu Asedau Mawr sydd yn yr arfaeth a sut i integreiddio'r blaenoriaethau strategol hyn wrth gaffael a chynnal cynlluniau adnewyddu asedau ar y Rhwydwaith Ffyrdd Strategol (SRN) yng Nghymru. Gyda'n gilydd, ein nod yw sicrhau bod arloesedd, cynaliadwyedd a chydweithio yn rhan amlwg o'n holl waith. Rydym yn falch o gyhoeddi y bydd Ysgrifennydd Cabinet Gogledd Cymru a Thrafnidiaeth, Ken Skates AS, hefyd yn bresennol yn y digwyddiad.
Manylion y Gweithdy:
-
Dyddiad: 10 Hydref 2024
-
Amser: Cofrestru am 9:30am; gweithdy'n dechrau am 10:00am
-
Lleoliad: Prifysgol Wrecsam a Hybrid
-
Cynulleidfa: Ymgynghorwyr, contractwyr ac arweinwyr diwydiant
-
Diben : Ymgysylltu â phob rhan o'r diwydiant i drafod ffyrdd newydd o gynnal cynlluniau Adnewyddu Asedau Mawr.
Uchelbwyntiau'r Agenda:
-
Sesiwn y bore: Prif anerchiad gan Matthew Lugg OBE, ac yna cyflwyniadau ac astudiaethau achos am gynlluniau Adnewyddu Asedau Mawr (gan gynnwys y diweddaraf am gynllun Pont Afon Dyfrdwy yr A494 a'r llwybr caffael sy'n cael ei ddatblygu).
-
Sesiwn y Prynhawn: Adborth gan ymgynghorwyr a chontractwyr trwy gyflwyniadau ar ffurf Pecha Kucha.
Fel rhan o'r gweithdy, rydym yn gwahodd ymgynghorwyr a chontractwyr i roi cyflwyniadau ar ffurf Pecha Kucha ar y pynciau isod. Bydd y fformat cyflwyno deniadol hwn yn dangos eich arbenigedd gan gadw'r sesiwn yn ddeinamig ac yn berthnasol.
Fformat Cyflwyno Pecha Kucha:
Pynciau posib ar gyfer Ymgynghorwyr:
-
Sut gallwn ni ymgorffori datgarboneiddio yn ein tendrau?
-
Sut gallwn ni sicrhau bod dyluniadau yn ymgorffori egwyddorion Lugg a Strategaeth Trafnidiaeth Cymru
-
Sut gallwn ni sicrhau arbenigedd technegol gan ddefnyddio profiadau'r sefydliad cyfan ac astudiaethau achos?
-
Sut gallwn ni yrru arloesedd trwy Adnewyddu Asedau Mawr?
Pynciau posib ar gyfer Contractwyr:
-
Sut gallwn ni gynnal llif y traffig wrth weithio ar strwythurau mawr?
-
Sut gallwn ni ddenu'r arbenigeddau sydd eu hangen i Gymru i wneud gwaith trwsio cymhleth ar strwythurau?
-
Sut gallwn ni leihau carbon wrth wneud y gwaith hwn?
-
Sut gallwn ni wobrwyo arloesedd wrth gyflawni gan gydnabod hefyd her y costau?
Anfonwch eich cyflwyniadau Pecha Kucha erbyn dydd Mawrth 8 Hydref at john.bennetts@wsp.com. Sicrhewch fod eich cyflwyniad yn dilyn canllawiau Pecha Kucha er mwyn cadw'r sesiwn yn ddeniadol ac effeithlon. Os oes angen mwy o help arnoch am y fformat, holwch.
Credwn y bydd eich dealltwriaeth a'ch profiadau yn cyfoethogi trafodaethau'r gweithdy yn fawr. Mae hwn yn gyfle pwysig i gydweithio â phobl eraill yn y diwydiant a chyfrannu at ddyfodol caffael a chynnal cynlluniau Adnewyddu Asedau Mawr yng Nghymru.
A fyddech gystal â chadarnhau'ch bod am ddod i'r gweithdy a rhoi cyflwyniad erbyn dydd Mawrth 8 Hydref drwy e-bost at Chris.wynn@gov.wales. Anfonwch y gwahoddiad hwn ymlaen i randdeiliaid perthnasol eraill, yn enwedig ymgynghorwyr a chontractwyr.
Edrychwn ymlaen at eich glywed eich cyfraniad at y drafodaeth bwysig hon.
Cyhoeddwyd gyntaf
01 Hydref 2024
Diweddarwyd diwethaf
03 Hydref 2024