19 Mawrth 2025, 09:00 - 17:00
De Valence Pavillion, Tenby, SA67 7JD
Cost: Am ddim
Penodwyd y cwmni Cymreig, Morgan Construction Cymru gan Awdurdod Sir Benfro i gynllunio ac adeiladu prosiect tai proffil uchel Brynhir, yn Ninbych-y-pysgod.
Disgwylir i’r gwaith uchod ddechrau yn Hydref 2025. Bydd cyfanswm o 125 o gartrefi newydd a’r seilwaith cysylltiedig yn cael eu hadeilad i gyd, gyda’r bwriad o gwblhau’r gwaith erbyn 2029.
Bydd y cartrefi yn amrywio o ran maint ac yn cynnwys 93 o dai fforddiadwy (rhent cymdeithasol a chanolradd), 16 o dai rhanberchnogaeth, ac 16 o dai fydd ar werth ar y farchnad agored. Bydd y cartrefi’n cael eu hadeiladu i safon uchel ac yn cydymffurfio ag ymrwymiad yr awdurdod i ddatblygu adeiladau ‘Dim Ynni Mewn Defnydd Net’.
Fel rhan o'u gwaith mae MCW yn awyddus i ymgysylltu â chyflenwyr newydd a rhai presennol, i drafod y cynllun a chyfleoedd fydd yn codi o fewn y gadwyn gyflenwi, yn y meysydd canlynol:
Gwaith maen – o dan y ddaear a waliau cynnal
- Ffrâmiau pren (dylunio, gweithgynhyrchu a chodi)
- Gwaith toi
- Drysau a ffenestri (Gweithgynhyrchu a gosod)
- Gwaith saer mewnol
- Gwaith saer allanol
- Rendro
- Leinin sych a phlastro
- Plymio (gan gynnwys ynni adnewyddadwy)
- Trydanol (gan gynnwys solar)
- Gorffeniadau – lloriau
- Gorffeniadau – addurno
- Teilio
- Gosod sgreed
- Gosod mastig
- Tirlunio meddal a chaled
- Tarmacio
- Rheoli traffig
- Sgaffaldiau
- Inswleiddio llofft
- Gwasanaethau glanhau
- Llawdriniaeth coed
- Gosod palmentydd bloc
Archebwch nawr: Business Wales Events Finder - Morgan Construction Wales Ltd digwyddiad cwrdd a'r prynwr - Prosiect tai Brynhir
Cyhoeddwyd gyntaf
07 Mawrth 2025
Diweddarwyd ddiwethaf
07 Mawrth 2025