Mae Llywodraeth Cymru yn cynnal adolygiad cynhwysfawr o gymorth cyflogadwyedd ar draws Cymru, ac rydym yn eich gwahodd i gymryd rhan mewn digwyddiad ymgysylltu rhanbarthol pwysig yng nghanolbarth Cymru.
Pam mae angen eich mewnbwn
Rydym yn dwyn ynghyd rhanddeiliaid allweddol i’n helpu i gynllunio Rhaglen Cymorth Cyflogadwyedd newydd sy'n gweithio i bawb yng Nghymru. Ar hyn o bryd rydym yn cynnal digwyddiadau rhanbarthol i sicrhau bod anghenion unigryw pob ardal yn cael eu hadlewyrchu yn y ddarpariaeth yn y dyfodol.
Yr wythnos hon, rydym yn cynnal ein digwyddiad cyntaf yng Nghaerdydd. Fodd bynnag, rydym yn gwybod bod cymunedau gwledig yn wynebu heriau gwahanol sy'n wahanol iawn i ardaloedd trefol.
Mae safbwyntiau rhanddeiliaid yng nghanolbarth Cymru yn arbennig o hanfodol i'r broses hon. Bydd eich arbenigedd a'ch dealltwriaeth o'r ddynameg ranbarthol hon yn amhrisiadwy wrth lunio gwasanaethau sy'n gweithio'n effeithiol i drigolion a busnesau yn eich ardal.
Manylion y digwyddiad yng nghanolbarth Cymru
- Dyddiad: 22 Mai 2025
- Amser: 10:00 – 14:00
- Lleoliad: Gwesty’r Metropole, Llandrindod
Cadwch eich lle nawr
Gellir sicrhau lle ar gyfer y digwyddiad yng nghanolbarth Cymru drwy fynd i https://wales.business-events.org.uk/cy/digwyddiadau/ail-lunio-cymorth-llywodraeth-cymru-ar-gyfer-cyflogadwyedd/
Rydym hefyd yn cynnal digwyddiadau yn Abergele (8 Mai) a Llanelli (4 Mehefin). Anogwch eich rhwydweithiau ehangach i fynychu’r digwyddiadau yn y lleoliadau hyn os ydynt yn fwy cyfleus.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau, mae croeso i chi gysylltu â ni: CymorthCyflogadwyedd@llyw.cymru.
Cyhoeddwyd gyntaf
30 Ebrill 2025
Diweddarwyd ddiwethaf
02 Mai 2025