Skip to main content

Rydym wedi cadw rhai ffeiliau o'r enw cwcis ar eich dyfais. Y cwcis hyn yw:

  • Hanfodol ar gyfer y safle i weithio
  • Helpu i wella ein gwefan drwy gasglu ac adrodd gwybodaeth am sut rydych chi'n ei defnyddio

Hoffem hefyd arbed rhai cwcis i helpu i deilwra cyfathrebu.

BETA
Rydych yn edrych ar fersiwn wedi'i ddiweddaru o'r gwasanaeth hwn - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

SIOEAU TEITHIOL CYFLENWYR: Sut i Ddarganfod, Cynnig ac Ennill Contractau Cyhoeddus dan y Deddfau Caf

Dyddiad y digwyddiad: lluosrif.

Cyhoeddwyd gyntaf:
02 Mai 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:
02 Mai 2025
  • 22 Mai 2025, 09:30 - 12:30
    Bangor University - Reichel Main Hall, Bangor, LL57 2TW
  • 4 Mehefin 2025, 09:30 - 12:30
    Metropole Hotel - Llandrindod Wells, Llandrindod Wells, LD1 5DY
  • 5 Mehefin 2025, 09:30 - 12:30
    Wrexham University, Wrexham, LL11 2AW
  • 10 Mehefin 2025, 09:30 - 12:30
    Cardiff University, Cardiff, CF10 3EU
  • 18 Mehefin 2025, 09:30 - 12:30
    National Library of Wales - Aberystwyth, Aberystwyth, SY23 3BU
  • 19 Mehefin 2025, 09:30 - 12:30
    Village Hotel - Swansea, Swansea, SA1 8QY

Ydych chi’n cyflenwi’r sector cyhoeddus ar hyn o bryd, neu hoffech chi gychwyn arni?

Mae diwygiadau caffael NEWYDD yng Nghymru ac yn y DU yn cyflwyno proses haws, fwy hyblyg a thryloyw i gyflenwyr o bob maint, iddynt allu ddarganfod, cynnig ac ennill contractau cyhoeddus.

Ymunwch â ni yn Sioeau Teithiol Cyflenwyr Busnes Cymru mewn chwe lleoliad yng Nghymru i ddarganfod sut y gall rheolau caffael cyhoeddus NEWYDD fod o fudd i fusnesau fel eich un chi.

Mynediad am ddim

Bwriad y digwyddiadau a ariennir yn llawn, gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru, yw helpu cyflenwyr Economi Sylfaenol sydd eisoes yn bodoli ac arweinwyr busnesau eraill sy’n awyddus i ymuno â’r farchnad sector cyhoeddus.

Cewch ddarganfod yn union beth mae prynwyr yn chwilio amdano, a sut i osod eich busnes er mwyn ennill mwy o gontractau. Os ydych yn cyflenwi neu’n gweithio yn y meysydd adeiladu, tai, twristiaeth, gofal ac iechyd, trafnidiaeth, bwyd a diod, manwerthu, cyfleustodau neu ynni, bydd y digwyddiad hwn yn eithriadol o berthnasol.

Beth i'w Ddisgwyl:

Gosod y Cyd-destun – Bydd Arweinydd Polisi a Diwygio’r Broses Gaffael o Lywodraeth Cymru yn ymuno â ni i gynnig cipolygon allweddol i gyflenwyr.

Gwybodaeth gan Arbenigwyr – cewch arweiniad ymarferol clir gan Jane Lynch ar newidiadau caffael allweddol gyda Deddf Caffael Cyhoeddus NEWYDD (2023) a’r Ddeddf Caffael a Phartneriaeth Gymdeithasol NEWYDD (Cymru) 2023, a’r cyfleoedd a gewch o ganlyniad i’r diwygiadau hyn. Sut i gael mynediad at yr offer er mwyn llwyddo.

Cymorth Gam wrth Gam - Gwyliwch ddemo byw ar gofrestru ar gyfer y llwyfan digidol canolog a sut i gael mynediad at gymorth tendro wedi ei ariannu’n llawn gan Busnes Cymru. Dewch i ddeall sut i gydymffurfio’n barhaus, cwrdd â gofynion newydd, a manteisio ar gyfleoedd sydd ar y gweill. I ddilyn yr arddangosiad byw cofiwch ddod â'ch ffon, tabled neu liniadur. 

Cwrdd â’r Prynwyr - Dysgwch am yr hyn sydd ei angen ar brynwyr, sut mae prosesau yn newid, a darganfod cyfleoedd contractau arfaethedig.

Rhwydweithio a Chysylltu - Cewch gwrdd â phrynwyr y sector cyhoeddus, dod i ddeall GwerthwchiGymru, a chysylltu â busnesau eraill dros luniaeth.

Archebwch eich lle heddiw!

Peidiwch â cholli’r cyfle - cadwch ar flaen y gystadleuaeth gyda’r gefnogaeth hon. Mae lleoedd yn brin felly sicrhewch eich lle heddiw i gadw ar flaen y newidiadau pwysig hyn.  Cewch wybodaeth ymarferol, arweiniad arbenigol, a mynediad uniongyrchol at brynwyr allweddol a chyfleoedd newydd . 

Caiff y digwyddiad hwn ei gyflwyno gan Busnes Cymru ar ran Llywodraeth Cymru.

Archebwch nawr: Business Wales Events Finder - SIOEAU TEITHIOL CYFLENWYR: Sut i Ddarganfod, Cynnig ac Ennill Contractau Cyhoeddus dan y Deddfau Caffael Newydd


Cyhoeddwyd gyntaf
02 Mai 2025
Diweddarwyd ddiwethaf
02 Mai 2025
SIOEAU TEITHIOL CYFLENWYR: Sut i Ddarganfod, Cynnig ac Ennill Contractau Cyhoeddus dan y Deddfau Caf

0800 222 9004

Mae'r llinellau ar agor rhwng 8:30am a 5pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.

We welcome calls in Welsh.