8 Hydref 2014, Motorpoint Arena, Mary Ann Street, Caerdydd, CF10 2EQ
Bydd y digwyddiad yn rhoi gwybod i’r ymwelwyr am y datblygiadau a’r cynlluniau diweddaraf ynghyd â’r newidiadau deddfwriaethol sy’n digwydd yn y farchnad sy’n datblygu heddiw.
Bydd y digwyddiad yn cynnwys 4 Parth Trosglwyddo Gwybodaeth ar wahanol themâu:
• Ymchwil a Thechnoleg
• Caffael a’r Gadwyn Gyflenwi
• Allforio a Thwf Busnes
• Rhagoriaeth Prynwyr
Yn ychwanegol bydd 3 ardal i ymweld â nhw
• Pafiliwn caffael Offer a Chefnogaeth Amddiffyn – i wella cydweithio effeithiol a chystadleuaeth ym mhob rhan o gaffael amddiffyn
• parth academia – i ategu rhaglenni ymchwil academaidd o amgylch blaenoriaethau’r Weinyddiaeth Amddiffyn
• pentref ymgysylltu â’r prynwr – i ymgysylltu’n uniongyrchol â phrynwyr a chyflenwyr, rhwydweithio â chydweithwyr a gwneud cysylltiadau newydd
Mae nifer o DOCYNNAU AM DDIM ar gael ar sail gwasanaethu y cyntaf.
Ar gyfer cynrychiolwyr y Sector Breifat, ewch i www.dprte.co.uk/dprte-free-entry
Ar gyfer cynrychiolwyr y Sector Gyhoeddus, ewch i www.dprte.co.uk/mod-free-registration
Cyhoeddwyd gyntaf
16 Medi 2014
Diweddarwyd diwethaf
07 Mawrth 2024