Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio i ddod â
gwasanaeth band eang cyflym a dibynadwy i bob man yng Nghymru.
Mae'n rhaglen
gyfredol, 'Cyflymu Cymru', wrthi'n datblygu seilwaith band eang cyflym iawn
ledled y wlad. Bydd y rhaglen hon, sy'n dod â band eang cyflym iawn i ardaloedd
lle na fyddai’r gwasanaeth ar gael fel arall, yn dod i ben ym mis Mehefin 2017.
Mae mwy o waith eto i'w wneud i gyrraedd yr ychydig fannau yng Nghymru lle nad
yw’r gwasanaeth hwn ar gael ac rydym yn bwriadu gwneud rhagor o waith i fynd
i'r afael â hynny. Yn amodol ar gytundeb terfynol ar gyllid, disgwylir i
ymarfer caffael ar gyfer y gwaith hwnnw ddechrau yn ystod ail chwarter 2017.
Cynhaliwyd Diwrnod Gwybodaeth i'r Farchnad yng Nghaerdydd ym mis Rhagfyr 2016
ac mae sleidiau'r cyflwyniadau a Chrynodeb o'r Sesiwn Holi ac Ateb i'w gweld
drwy glicio ar y ddolen isod. Er mwyn gweld pa fannau cymwys posibl a ddylai gael
eu cynnwys mewn unrhyw ymarfer caffael dilynol, dechreuodd Adolygiad o'r
Farchnad Agored ym mis Ionawr 2017.
Mae'r tîm yn
awyddus i glywed oddi wrth bob parti/rhanddeiliaid sydd â diddordeb mewn helpu
i lywio a pharatoi’r ymarfer caffael arfaethedig. Os oes gennych unrhyw
syniadau / awgrymiadau neu os hoffech gyfarfod â'r tîm wyneb yn wyneb,
cysylltwch â CyflymuCymru2.SuperfastCymru2@wales.gsi.gov.uk
I weld yr adnoddau sy'n gysylltiedig â'r prosiect hwn,
ewch i: https://www.sell2wales.gov.wales/info/InfoCentre.aspx?ID=13620
Bydd yr
adnoddau yn y ddolen hon yn cael eu diweddaru'n aml, felly cofiwch gyfeirio'n
ôl atynt yn rheolaidd.