Mae Arbed am Byth
yn fenter ar y cyd rhwng yr Ymddiriedolaeth Arbed Ynni ac Everwarm er mwyn
cyflawni cam nesaf rhaglen Arbed Llywodraeth Cymru mewn cymunedau ledled Cymru.
Ym mis Ebrill 2018, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru fod Arbed am Byth wedi cael ei
ddewis i reoli cam nesaf Arbed dros gyfnod contract o hyd at bum mlynedd.
Ymhlith y mesurau
a'r technolegau ôl-osod sy'n cael eu hystyried o dan Arbed mae:
Inswleiddio
waliau solet,
Inswleiddio'r
atig a gwrth-ddrafftio,
Uwchraddio
boeleri a systemau gwresogi (rheolaethau),
Pympiau gwres,
Rhoi cyngor ar
arbed ynni.
Ers 2012, mae mwy
na 60 o gynlluniau wedi cael eu cyflwyno o dan ddwy ran Arbed, gan greu dros
1,000 o swyddi lleol a rhagori ar ein targedau ar gyfer lleihau allyriadau
nwyon tŷ gwydr a lleihau effaith tlodi tanwydd ar aelwydydd yng Nghymru.
Rôl Arbed am Byth
yw rheoli'r rhaglen o un pen i'r llall; gan ddechrau drwy ddatblygu cynlluniau
a chydberthnasau lleol, cynnal asesiadau tai cyfan, darparu pecynnau wedi'u
teilwra o fesurau effeithlonrwydd ynni a argymhellir ar gyfer pob cartref,
caffael a gweithio gyda gosodwyr lleol i osod unrhyw welliannau angenrheidiol,
archwilio a chymeradwyo pob mesur cyn cynnal gwerthusiadau o bob cynllun yn
fanwl ac yn gydweithredol.
Mae dull
gweithredu Arbed am Byth yn canolbwyntio ar brofiad cwsmeriaid a gaiff ei
ddarparu mewn cymunedau lleol; gweithio i gontract â Llywodraeth Cymru sy'n
cymell darparu gwasanaeth o safon uchel, sy'n ymatebol a chyson ym mhob cwr o
Gymru. Ni fydd dau gynllun yr un peth, ni fydd dau eiddo yr un peth ac ni fydd
dau gwsmer yr un peth - bydd addasu i amgylchiadau unigol a gweithredu'n hyblyg
ac ymatebol wrth ddelio ag anghenion gwahanol leoliadau a chwsmeriaid yn elfen
allweddol o ffordd Arbed am Byth o weithredu.
Un o ofynion
allweddol cyflwyno Arbed fydd cael y buddiannau hirdymor mwyaf posibl i
gymunedau Cymru, yn enwedig o ran creu swyddi, prentisiaethau a darparu
cyfleoedd hyfforddi mewn ardaloedd allweddol. Bydd disgwyl i holl bartneriaid
Arbed am Byth fabwysiadu dull gweithredu tebyg.
Rhestrir y cyfleoedd i gymryd rhan isod.
Ychwanegwch "Prosiectau
GwerthwchiGymru > Arbed am Byth" i'ch proffil hysbysu os hoffech gael y
wybodaeth ddiweddaraf drwy e-bost am bob hysbysiad a gyhoeddir ar gyfer y
prosiect hwn.
Am ragor o
wybodaeth am y prosiect hwn cysylltwch â info@arbedambyth.wales.