Mae gwerthwchigymru.llyw.cymru yn defnyddio cwcis sy'n hanfodol er mwyn i'r safle weithio. Rydym hefyd yn defnyddio cwcis nad ydynt yn hanfodol i'n helpu i wella gwasanaethau digidol y Llywodraeth. Mae unrhyw ddata a gesglir yn ddienw. Drwy barhau i ddefnyddio'r safle hwn, rydych yn cytuno i'n defnydd o gwcis

Derbyn ein defnydd o gwcis Gosodiadau cwcis

Bargen Ddinesig Bae Abertawe

Mae Bargen Ddinesig Bae Abertawe yn fuddsoddiad o hyd at £1.3 biliwn mewn portffolio o raglenni a phrosiectau mawr ledled Dinas-ranbarth Bae Abertawe, sy'n cynnwys Sir Gaerfyrddin, Castell-nedd Port Talbot, Sir Benfro ac Abertawe.

Mae'r Fargen Ddinesig yn cael ei hariannu, yn amodol ar gymeradwyo achosion busnes prosiectau, gan Lywodraeth y DU, Llywodraeth Cymru, y sector cyhoeddus a'r sector preifat.

Bydd y Fargen Ddinesig yn para am 15 mlynedd ac yn ystod y cyfnod hwn, bydd y portffolio buddsoddi yn rhoi hwb o hyd at £1.8 biliwn i'r economi ranbarthol gan greu mwy na 9,000 o swyddi.

Mae rhaglenni a phrosiectau'r Fargen Ddinesig yn seiliedig ar themâu allweddol gan gynnwys cyflymu'r economi, gwyddor bywyd a llesiant, ynni, gweithgynhyrchu clyfar a digidol.

Mae Bargen Ddinesig Bae Abertawe yn cael ei harwain gan y pedwar awdurdod lleol yn y rhanbarth, sef Cyngor Sir Caerfyrddin, Cyngor Abertawe, Cyngor Castell-nedd Port Talbot a Chyngor Sir Penfro, ynghyd â Byrddau Iechyd Prifysgol Bae Abertawe a Hywel Dda, Prifysgol Abertawe a Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant a phartneriaid o'r sector preifat.

Mae cyfanswm y pecyn buddsoddi a amcangyfrifir ar hyn o bryd yn cynnwys cyllid o £241 miliwn gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig a Llywodraeth Cymru, £330 miliwn o gyllid cyhoeddus arall a £581 miliwn gan y sector preifat.

Bargen Ddinesig Bae Abertwawe hafan 

Bargen Ddinesig Bae Abertwawe hafan

Bargen Ddinesig Bae Abertawe newyddion 

Bargen Ddinesig Bae Abertawe newyddion

Bargen Ddinesig Bae Abertawe cyfrif Twitter 

Bargen Ddinesig Bae Abertawe cyfrif

Bargen Ddinesig Bae Abertawe cyfrif Facebook

Bargen Ddinesig Bae Abertawe cyfrif Facebook

Am fanylion yr eiconau a ddefnyddiwyd, gweler Esbonio'r Eiconau. .

Ni ddaethpwyd o hyd i unrhyw gofnodion sy'n cyfateb i'r categori hwn.