Skip to main content

Rydym wedi cadw rhai ffeiliau o'r enw cwcis ar eich dyfais. Y cwcis hyn yw:

  • Hanfodol ar gyfer y safle i weithio
  • Helpu i wella ein gwefan drwy gasglu ac adrodd gwybodaeth am sut rydych chi'n ei defnyddio

Hoffem hefyd arbed rhai cwcis i helpu i deilwra cyfathrebu.

BETA
Rydych yn edrych ar fersiwn wedi'i ddiweddaru o'r gwasanaeth hwn - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Alun Griffiths (Contractors) Ltd

 

TUDALEN PROSIECT – CONTRACT TYMOR CYNNAL A CHADW PRIFFYRDD A GOLEUADAU STRYD CYNGOR SIR YNYS MÔN 

Wedi'i sefydlu ym 1968, Griffiths yw un o'r contractwyr adeiladu a pheirianneg sifil blaenllaw sy'n gweithio yng Nghymru, siroedd y gororau a gorllewin Lloegr.

Ar hyn o bryd mae gennym drosiant blynyddol o oddeutu £200m sy'n ein gosod ymhlith yr 20 o gontractwyr peirianneg sifil mwyaf yn y DU.

Mae gennym sylfaen gleientiaid gref, yn cynnwys y llywodraeth ganolog, awdurdodau lleol a sefydliadau'r sector preifat.

Drwy flaenoriaethu anghenion ein cleientiaid rydym yn gallu darparu'r datrysiad gorau posib. Profwyd bod ein dull cydweithredol, proffesiynol ar y cyd â'n harbenigedd gwerthfawr ym maes peirianneg yn ychwanegu gwerth wrth leihau aflonyddwch ac effeithiau andwyol eraill.

Mae hyn yn sicrhau ein bod yn darparu fframweithiau llwyddiannus yn gyson a phrosiectau o fri yn brydlon ac o fewn y gyllideb.

Rydym yn ymfalchïo mewn darparu'r cyffyrddiad personol, gan sefydlu a chynnal perthnasoedd sydd o fudd i bawb ar bob lefel o fewn sefydliadau cleientiaid, drwy'r gadwyn gyflenwi a chyda rhanddeiliaid.

Ein pobl yw ein cwmni. Mae gennym weithlu lleol a gyflogir yn uniongyrchol, sydd pan gyfunir gyda'n fflyd helaeth ein hunain, yn rhoi'r adnoddau a'r hyblygrwydd i ni gyflawni'r hyn sydd ei angen pan fo'i angen.

CONTRACT TYMOR CYNNAL A CHADW PRIFFYRDD A GOLEUADAU STRYD CYNGOR SIR YNYS MÔN

Penodwyd Griffiths gan Cyngor Sir Ynys Môn yn 2019 i gyflwyno'r Contract Tymor Cynnal a Chadw Priffyrdd a Goleuadau Stryd

Bydd angen i Is-gontractwyr gael Lefel Arian ‘Constructionline’.

Bydd angen cwblhau ein Holiadur Cyn-gymhwyso cyn unrhyw penodiad: https://community.alungriffiths.co.uk/wp-content/uploads/sites/2/2020/09/AGC-AGC-F36-PRE-QUALIFICATION-QUESTIONNAIRE.docx


Dim cofnodion wedi'u canfod

0800 222 9004

Mae'r llinellau ar agor rhwng 8:30am a 5pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.

We welcome calls in Welsh.