Fforwm Adeiladu Cymru
Mae Fforwm Adeiladu Cymru, sy’n cael ei gadeirio gan
Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth Lee Waters AS, yn dod â ffigyrau
blaenllaw o’r sectorau preifat a chyhoeddus ledled Cymru at ei gilydd, ynghyd â
phartneriaid cymdeithasol Cymru, er mwyn cytuno ar ffordd ymlaen ar gyfer y
diwydiant wrth iddo adfer ar ôl pandemig y Coronafeirws a helpu Cymru i
“ailgodi’n gryfach".
Gan adeiladu ar egwyddorion Cynllun Gweithredu ar yr
Economi Llywodraeth Cymru, bydd cefnogi’r diwydiant adeiladu yn hanfodol er
mwyn helpu economi Cymru i ffynnu. Bydd hefyd yn ffordd o gefnogi busnesau bach
a chanolig, gan dyfu’r economi sylfaenol a datblygu dyfodol carbon isel.
Yn ei gyfarfod cyntaf, mewn ymateb i bryderon y diwydiant
ynghylch goroesiad nifer o gwmnïau, cytunodd y Fforwm ar gynllun gweithredu 12
pwynt ar gyfer y tymor byr er mwyn arwain adferiad y sector yn dilyn argyfwng
Covid-19. Un o'r camau sylfaenol ymlaen yw llunio rhaglen 6-12 mis o waith yn y
sector cyhoeddus er mwyn cynyddu hyder busnesau a sicrhau cyflogaeth.
(Sylwch fod hon yn ddogfen weithio sy’n cael ei hadolygu’n
gyson).
Bydd gwaith y Fforwm yn hanfodol er mwyn helpu’r diwydiant
i ffynnu yn ystod y blynyddoedd nesaf. I gael rhagor o wybodaeth,
cysylltwch ag Ed Evans, Cynghrair
Ffederasiwn Adeiladu Cymru (ed.evans@cecawales.co.uk)
neu Leighton James (leighton.james@gov.wales)
Cynlluniau prynu ar gyfer Awdurdodau Lleol: https://www.gwerthwchigymru.llyw.cymru/info/InfoCentre.aspx?ID=19703
I gael rhagor o wybodaeth am hyn, ewch i: https://businesswales.gov.wales/cy/fforwm-adeiladu-cymru
Am fanylion yr eiconau a ddefnyddiwyd, gweler Esbonio'r Eiconau.
.
Ni ddaethpwyd o hyd i unrhyw gofnodion sy'n cyfateb i'r categori hwn.
|