Skip to main content

Rydym wedi cadw rhai ffeiliau o'r enw cwcis ar eich dyfais. Y cwcis hyn yw:

  • Hanfodol ar gyfer y safle i weithio
  • Helpu i wella ein gwefan drwy gasglu ac adrodd gwybodaeth am sut rydych chi'n ei defnyddio

Hoffem hefyd arbed rhai cwcis i helpu i deilwra cyfathrebu.

BETA
Rydych yn edrych ar fersiwn wedi'i ddiweddaru o'r gwasanaeth hwn - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

SWWRCF - Fframwaith Contractwyr Rhanbarthol De-orllewin Cymru

SWWRCF2020 yw trydydd iteriad Fframwaith Contractwyr Rhanbarthol De-orllewin Cymru (SWWRCF) ac mae'n drefniant cydweithredol a arweinir ac a reolir gan Gyngor Sir Caerfyrddin ar ran Awdurdodau Lleol rhanbarthol De-orllewin Cymru (Cyngor Sir Ceredigion, Cyngor Sir Castell-nedd Port Talbot, Cyngor Sir Penfro a Chyngor Abertawe). Mae gan y Fframwaith gontractwyr lleol a chenedlaethol profiadol iawn a chymwys, ac mae'n rhoi llwyfan caffael cystadleuol ac ateb i waith adeiladu'r sector cyhoeddus o £0+.

Daeth SWWRCF 2020 i rym ar 1 Chwefror 2020 a bydd ar waith am 4 blynedd tan 31 Ionawr 2024. Sefydlwyd y Fframwaith yn unol â gofynion Rheoliadau Contractau Cyhoeddus 2015 at ddibenion darparu gweithgareddau sy'n gysylltiedig ag Adeiladu.

Mae chwech o brif nodau ac amcanion gan strategaeth SWWRCF 2020. Dyma'r materion allweddol sydd wedi'u cynnwys yn y Strategaeth:
- Hyrwyddo cynhwysiad a chyfraniad BBaCh fel Cyflenwyr Fframwaith, gyda phwyslais ar ddarpariaeth cyflenwad lleol
- Cynyddu a chynnal Safonau Gofynnol i gefnogi Twf Contractwyr ar draws rhanbarth De-orllewin Cymru
- Cefnogi arferion gorau a gwelliant parhaus ymhlith cyflogwyr, contractwyr a chyflenwyr yn Rhanbarth De-orllewin Cymru
- Gwelliant sicr i'r amgylchedd adeiliedig drwy ddarparu'r gwerth gorau
- Hyrwyddo'r defnydd o ddulliau adeiladu modern a thechnegau adeiladu arloesol
- Sicrhau gwerth am arian i'r cleient a'r contractwyr

Gweledigaeth y Fframwaith SWWRCF yw datblygu trefniadau contractiol cydweithredol buddiol i'r naill ochr a'r llall gyda chontractwyr y sector preifat. Wrth wneud hynny, rydym yn ymdrechu i integreiddio sgiliau'r sector cyhoeddus a'r sector preifat wrth gyflawni prosiectau adeiladu, sicrhau ymarferion caffael cystadleuol sy'n cydymffurfio, hyrwyddo gwelliant parhaus a sefydlu'r pethau hyn i gyd. 

Mae SWWRCF wedi ymrwymo i sicrhau cymaint â phosibl o Fudd i'r Gymuned ar draws Rhanbarth De-orllewin Cymru ac mae wedi ymgorffori Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (2015) yn y fframwaith a'r dyfarniadau dilynol dan y fframwaith. Bydd hyn yn helpu i gefnogi a meithrin gwerth gorau a gwelliant parhaus ac i gefnogi'r gwaith o gaffael yn gyfrifol mewn modd sydd o fudd i lesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol ar draws y rhanbarth. 

Fel rhan o Gymdeithas Genedlaethol y Fframweithiau Adeiladu (NACF), gall SWWRCF helpu i gyfrannu at ddyfodol y strategaeth gaffael genedlaethol ledled y DU, gan rannu arfer gorau gydag aelodau a fframweithiau ehangach y sector cyhoeddus sydd o natur debyg, sydd o fudd i gyflogwyr, contractwyr a'r cyhoedd. 

Mae'r fframwaith yn agored i nifer fawr o gyflogwyr ac asiantaethau sector cyhoeddus ar draws y rhanbarthau, y maent i gyd wedi'u rhestru yng nghanllawiau cynhwysfawr y fframwaith SWWRCF.

Dylid cyfeirio pob ymholiad at TSSWWRCF@sirgar.gov.uk

Darganfyddwch fwy yma: https://www.gwerthwchigymru.llyw.cymru/info/InfoCentre.aspx?ID=19796


Am fanylion yr eiconau a ddefnyddir, gweler Esbonio'r eiconau.

Dim cofnodion wedi'u canfod

0800 222 9004

Mae'r llinellau ar agor rhwng 8:30am a 5pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.

We welcome calls in Welsh.