Mae Pentre Awel
yn ddatblygiad ‘unwaith mewn cenhedlaeth’ a fydd yn cael ei leoli ar draws 83
erw o dir yn Ne Llanelli. Hwn fydd y datblygiad cyntaf o'i fath yng Nghymru,
gan greu ecosystem unigryw a fydd yn cydleoli busnes, ymchwil, y byd
academaidd, iechyd a hamdden o fewn seilwaith nodedig.
Mae Pentre Awel
yn cael ei ddarparu gan Gyngor Sir Caerfyrddin mewn partneriaeth â Bwrdd Iechyd
Prifysgol Hywel Dda, Prifysgolion a Cholegau gan gynnwys Coleg Sir Gâr,
Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, Prifysgol Abertawe a Phrifysgol
Caerdydd. Mae
Pentre Awel yn brosiect gwerth miliynau o bunnoedd sy'n cael ei ariannu gan
Cyngor Sir Gaerfurddin, Fargen Ddinesig Bae Abertawe a cyllid sefydliadol.
Yn ogystal â
gwella iechyd a llesiant, bydd y prosiect yn creu bron 2,000 o swyddi a
chyfleoedd hyfforddi/prentisiaethau, a disgwylir iddo roi hwb o £467 miliwn i'r
economi leol dros y 15 mlynedd nesaf.
Bydd y prosiect
dan arweiniad y Cyngor yn cael ei ddatblygu fesul cam ar draws pedwar parth.
Mae Cyngor Sir Caerfyrddin wedi penodi Bouygues UK i ddylunio ac adeiladu Parth
Un o ddatblygiad mawreddog Pentre Awel.
Bydd Parth Un
yn elwa ar fuddsoddiad o tua £70miliwn o'r sector cyhoeddus a bydd yn cynnwys:
- canolfan hamdden a fydd yn cynnwys: pwll nofio wyth lôn 25 metr a phwll dysgwyr sy'n cynnig nofio lôn traddodiadol a dosbarthiadau dysgu nofio, Pwll hydrotherapi, Campfa a stiwdios dawnsio, chwilbedlo ac amlbwrpas
- cyfleusterau addysg i darparu sbectrwm eang o raglenni addysg a hyfforddiant, o Addysg Bellach ac Addysg Uwch, i Barod am Waith a Datblygiad Proffesiynol Parhaus
- Canolfan Darpariaeth Glinigol i ddarparu gofal amlddisgyblaethol mewn lleoliad cymunedol, a bydd Chanolfan Ymchwil Glinigol gyfagos yn canolbwyntio ar ymchwil, arloesi a gwelliannau o ran iechyd y boblogaeth
Parthau eraill
yn cynnwys:
- llety byw â chymorth (Parth 2, Parth 3)
- Datblygiad tai cymdeithasol a fforddiadwy (Parth 2)
- Gofod ehangu busnes (Parth 3)
- Datblygiad tai (Parth 4)
- Gwesty (Parth 4)
Adnoddau ychwanegol: Adnoddau Tudalen y Prosiect