Rydym wedi cadw rhai ffeiliau o'r enw cwcis ar eich dyfais. Y cwcis hyn yw:
Hoffem hefyd arbed rhai cwcis i helpu i deilwra cyfathrebu.
Mae’r Prosiect Ôl-osod er mwyn Optimeiddio yn drefniant cydweithredu rhwng 68 o bartneriaid sy’n cynnwys 26 o ddarparwyr tai cymdeithasol. Mae cyllid wedi’i ddyfarnu iddo gan Lywodraeth Cymru, ac ar y dechrau bydd yn golygu bod dros 1,700 o gartrefi ledled Cymru yn defnyddio ynni’n fwy effeithlon. Caiff hynny ei gyflawni drwy gyfuno gwelliannau i adeiladwaith cartrefi; technolegau carbon isel a di-garbon (megis paneli solar, batris storio ynni, a phympiau gwres); a systemau rheoli gweithredol parhaus sy’n ddeallus. Mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi clustnodi £50 miliwn arall i ddatgarboneiddio cartrefi ledled Cymru yn ystod y flwyddyn ariannol hon – bydd angen i bob cartref ledled Cymru a’r DU fod yn rhan o brosiect ôl-osod er mwyn bod yn ddi-garbon erbyn 2050. Mae’r Fframwaith Systemau Prynu Deinamig hwn wedi’i ddatblygu er mwyn darparu dull caffael a fydd yn galluogi awdurdodau lleol, landlordiaid cymdeithasol a chyrff eraill yn y sector cyhoeddus i gael gafael ar gyflenwyr arbenigol a fydd yn gallu cyflawni gwaith ôl-osod, fel bod cartrefi ac adeiladau cyhoeddus yn defnyddio ynni’n fwy effeithlon. Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn bwriadu defnyddio’r fframwaith hwn o Systemau Prynu Deinamig ar gyfer gwaith cysylltiedig arall. Gallwch gael gwybod mwy am y Prosiect Ôl-osod er mwyn Optimeiddio yma:
Am fanylion yr eiconau a ddefnyddir, gweler Esbonio'r eiconau.
Mae'r llinellau ar agor rhwng 8:30am a 5pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.
Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.