Mae gwerthwchigymru.llyw.cymru yn defnyddio cwcis sy'n hanfodol er mwyn i'r safle weithio. Rydym hefyd yn defnyddio cwcis nad ydynt yn hanfodol i'n helpu i wella gwasanaethau digidol y Llywodraeth. Mae unrhyw ddata a gesglir yn ddienw. Drwy barhau i ddefnyddio'r safle hwn, rydych yn cytuno i'n defnydd o gwcis

Derbyn ein defnydd o gwcis Gosodiadau cwcis

Floventis Energy

Mae Floventis Energy ar flaen y gad wrth drosglwyddo i gynhyrchu pŵer gwyrdd o ynni gwynt arnofiol ar y môr yn fyd-eang ac ar raddfa fawr. Menter ar y cyd ydyw, rhwng SBM Offshore, sef arbenigwyr byd-eang mewn ynni arnofiol ar y môr, a Cierco, sef y cwmni sy’n datblygu prosiectau ynni adnewyddadwy.

Cafodd Floventis y cytundeb ar gyfer lesio datblygiadau Llŷr yn y Môr Celtaidd gan Ystad y Goron ym mis Gorffennaf 2021. Roedd hyn yn amodol ar Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd. Mae hyn yn caniatáu i Floventis - fel y datblygwr - i fwrw mlaen ag asesiadau ac arolygon amgylcheddol, er mwyn sicrhau mynediad at y grid ac i geisio cael caniatâd cynllunio drwy’r prosesau statudol.

Mae Datblygiadau Llŷr (a elwir yn Llŷr 1 a Llŷr 2) 31km oddi ar arfordir Sir Benfro, a byddant yn arddangos technoleg ynni adnewyddadwy glân ar y môr i’r genhedlaeth nesaf, cyn diwydiannu.  Byddant yn pweru tua 200,000 o gartrefi gyda 200MW o ynni glân a gwyrdd, unwaith y bydd ar waith erbyn 2027.  Gyda gwerth gwariant cyfalaf o tua £800 miliwn, a’r disgwyl iddo fod ar waith am 25 mlynedd, bydd pob un o brosiectau Llŷr yn cynnwys rhwng chwech ac wyth tyrbin, a bydd pob un o’r rheini yn fwy na 12MW.

Mae arolygon benthig a geoffisegol bellach wedi cael eu cwblhau, yn barod ar gyfer cyflwyno Asesiad o’r Effaith Amgylcheddol yn llawn. Disgwylir i’r ymgynghoriad ddechrau ym mis Mai a bydd cais cynllunio llawn yn cael ei gyflwyno ddiwedd 2023.

Mae gan Floventis swyddfa yn Noc Penfro, ac mae wedi ymrwymo i weithio gyda rhanddeiliaid lleol a rhanbarthol er mwyn manteisio i’r eithaf ar y cyfleoedd i borthladdoedd a busnesau lleol gefnogi economi gynaliadwy. Mae Floventis yn cael ei gefnogi gan Busnes

Cymru a GwerthwchiGymru, a bydd yn cynnal digwyddiad ymgysylltu â chyflenwyr am 10:30yb ddydd Gwener 30 Mehefin er mwyn cyflwyno’r prosiect ac i ymgysylltu â phartneriaid cadwyn gyflenwi posibl ar hyd a lled Cymru.

Adnoddau Floventis: Cyflwyniad digwyddiadau ymwybyddiaeth Floventis - Mehefin 2023

Mae Floventis yn partneru â Catapult Ynni Adnewyddadwy Alltraeth (ORE) i helpu cwmnïau lleol i wneud cais am waith yn y diwydiant gwynt alltraeth sy'n arnofio.

Wedi'i lansio ym mis Medi 2023, bydd y rhaglen ynni adnewyddadwy alltraeth Ffit 4 (F4OR) gyntaf yng Nghymru yn rhoi'r sgiliau a'r arbenigedd i fusnesau Cymru i sicrhau llwyddiant yn y sector hwn sy'n tyfu'n gyflym. Mae'n rhaglen ddatblygu benodol ar gyfer y diwydiant gwynt sy'n arnofio sydd wedi'i chynllunio gan arbenigwyr y diwydiant. Bydd Floventis yn darparu mewnwelediad technegol a marchnad i'r rhai sy'n cymryd rhan.

Bydd y rhaglen F4OR yn cael ei chyflwyno fesul cam gan ddechrau yn 2024, gyda charfan gychwynnol o dri chwmni. Anogir ceisiadau gan gwmnïau sydd â mwy na deg o weithwyr a/neu sydd â throsiant o fwy na £1 miliwn, gyda chynnyrch neu sgiliau sy'n berthnasol i'r sector gwynt ar y môr.

Am fwy o wybodaeth ewch i  F4OR – ORE (catapult.org.uk)Y ac i lenwi ffurflen Mynegi Diddordeb, cliciwch yma.

Y dyddiad cau ar gyfer cofrestru yw dydd Gwener 10 Tachwedd 2023.

Am fanylion yr eiconau a ddefnyddiwyd, gweler Esbonio'r Eiconau. .

Ni ddaethpwyd o hyd i unrhyw gofnodion sy'n cyfateb i'r categori hwn.