Mae Menter Môn yn fenter di elw sydd yn gwireddu cynlluniau
ar draws Gogledd Orllewin Cymru. Mae ganddo Fwrdd Cyfarwyddwyr sydd yn rhoi eu
hamser yn wirfoddol er mwyn darparu cyfeiriad strategol i’r cwmni.
Mae Menter Môn yn ychwanegu gwerth at adnoddau’r ardal er
budd trigolion lleol. Mae’r rhain yn cynnwys yr amgylchedd naturiol ac
adeiladol, treftadaeth, iaith, pobl a chynnyrch amaethyddol.
Ers ei sefydlu mae Menter Môn wedi denu £70
miliwn i’r ardal.
Mae’r arian wedi ei fuddsoddi mewn cynlluniau fel Llwybr
Arfordirol Môn, cefnogi cynlluniau bwyd, adnewyddu adeiladu a gwarchod
rhywogaethau cynhenid. Yn y mwyafrif o achosion ni fyddai’r ardal wedi derbyn
cymorth heb gais gan Menter Môn.
Menter Môn - Home (mentermon.com)
Tudalennau prosiect cysylltiedig: Prosiect - Menter Môn Cyf – Egni - GwerthwchiGymru (llyw.cymru)