Rydym wedi cadw rhai ffeiliau o'r enw cwcis ar eich dyfais. Y cwcis hyn yw:
Hoffem hefyd arbed rhai cwcis i helpu i deilwra cyfathrebu.
Ym mis Chwefror 2016 cadarnhaodd Aston Martin fod Sain Tathan ym Morgannwg wedi cael ei ddewis fel lleoliad ei ail gyfleuster gweithgynhyrchu. Rhagwelir y caiff hyd at 750 o swyddi newydd eu creu yn Sain Tathan rhwng nawr a 2020. Ar draws y gadwyn gyflenwi a busnesau lleol, mae'n debygol y caiff 3,000 o swyddi pellach eu creu o ganlyniad uniongyrchol i'r buddsoddiadau hyn. Bydd y cyfleuster Aston Martin newydd yn Sain Tathan, a fydd yn ymestyn dros tua 90 erw, yn addasu rhai o'r cyfleusterau a ddefnyddir ar hyn o bryd gan y Weinyddiaeth Amddiffyn at ddibenion newydd. Gan ganolbwyntio ar drawsnewid y tri 'uwch awyrendy' presennol yn Sain Tathan, bwriedir i'r gwaith adeiladu ddechrau yn 2017 gyda'r nod o gynhyrchu cerbydau yn llawn erbyn 2020. Sain Tathan fydd yr unig gyfleuster cynhyrchu ar gyfer cerbyd nodweddion cymysg Aston Martin newydd. Dangoswyd cerbyd nodweddion cymysg cysyniadol o'r enw 'DBX' yn gyntaf yn gynnar yn 2015 gan ddangos bwriad a chyfeiriad y cwmni ar gyfer y rhan lewyrchus hon o ben uchaf y farchnad. Rhestrir cyfleoedd i gymryd rhan isod. Ychwanegwch "Prosiectau GwerthwchiGymru > Aston Martin – Cyfleuster Sain Tathan" at eich proffil hysbysiadau os hoffech gael y wybodaeth ddiweddaraf drwy e-bost am yr holl hysbysiadau sy'n cael eu cyhoeddi ar gyfer y prosiect hwn.
Am fwy o wybodaeth am y prosiect hwn, cysylltwch efo Graham Palmer – Rheolwr Prosiect Cyfleusterau - Ffôn: +44 (0) 1926 692824 E-bost: graham.palmer@astonmartin.com
Am fanylion yr eiconau a ddefnyddir, gweler Esbonio'r eiconau.
Mae'r llinellau ar agor rhwng 8:30am a 5pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.
Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.