Cyfanswm maint neu gwmpas y tendr
Cwmpas Gwasanaethau Rheoli Cyfleusterau yng Nghanolfan Mileniwm Cymru
Bydd Cwmpas y Gwasanaeth yn cynnwys Gwasanaethau Rheoli Cyfleusterau Caled (HFM) a Gwasanaethau Rheoli Cyfleusterau Meddal (SFM). Ar hyn o bryd mae’r gwasanaeth wedi’i allanoli fel Gwasanaeth Rheoli Cyfleusterau Integredig. Fodd bynnag, mae Canolfan Mileniwm Cymru yn dymuno edrych ar opsiynau amgen i ddarparu’r gwasanaethau o dan gontract newydd.
Felly, bydd y Contract naill ai yn cael ei ddyfarnu fel dwy lot ar wahân neu un lot gyfunol:
• Lot 1 – Gwasanaethau Rheoli Cyfleusterau Caled
• Lot 2 – Gwasanaethau Rheoli Cyfleusterau Meddal
• Lot 3 – Gwasanaeth Rheoli Cyfleusterau Integredig
Bydd y Contract yn para rhwng 3 a 5 mlynedd, yn ystod perfformiad y Cyflenwr/Cyflenwyr Rheoli Cyfleusterau newydd ar sail y Contract Rheoli Cyfleusterau NEC4.
Caiff cwmpas manwl o’r gwasanaethau ei gynnwys yn y Fanyleb ar y cam tendro fel trosolwg lefel uchel. Fodd bynnag, dylai Cyflenwyr sydd â diddordeb dybio y bydd y gwasanaethau rheoli cyfleusterau cyfan yn cynnwys gwaith cynnal a chadw mecanyddol, trydanol ac adeiladu a gwasanaethu adeiladau eraill, lleihau defnydd o ynni ar wasanaeth wedi’i gynllunio, rhagweithiol ac ymatebol, glanhau, glanhau ffenestri, cynnal a chadw, rheoli gwastraff, rheoli plâu, cynnal a chadw tir ac yn y blaen, yng nghwmpas y gwaith.
Bydd y gwasanaeth yn canolbwyntio ar y sioeau a’r digwyddiadau a gynhelir naill ai yng Nghanolfan Mileniwm Cymru neu ym Mae Caerdydd yn gyffredinol a bydd pwyslais cryf ar gydymffurfio a risg, boddhad cwsmeriaid, rheoli a chyflawni’r contract mewn ffordd ragorol a helpu Canolfan Mileniwm Cymru i gyflawni ei hamcanion a’i thargedau cymdeithasol, amgylcheddol a datgarboneiddio.
Caiff y Gwasanaethau i’w darparu o fewn y Contract eu disgrifio’n gyffredinol isod:
Lot 1 – Gwasanaethau Rheoli Cyfleusterau Caled (HFM):
• Defnyddio’r Contract newydd
• Paratoi, cyflwyno a rhoi System Ansawdd Contract ar waith
• Sefydlu prosesau, gweithdrefnau a dogfennau cofnodi gwaith Rheoli Cyfleusterau ac yn y blaen
• Gwasanaethau Rheoli Cyffredinol
• Cynlluniau a Rheoli Amgylcheddol, Cymdeithasol a Datgarboneiddio
• Rheoli’r Gadwyn Gyflenwi
• Gwasanaethau Rheoli a Chynnal a Chadw Lleihau Defnydd o Ynni
• Gwasanaethau Rheoli Gwerth ac Arloesedd
• Gwasanaethau Cleient a Rheoli Cleient
• Gwasanaethau Rheoli Iechyd, Tân, Diogelwch ac Amgylcheddol
• Datblygu a Chyflwyno’r Cynllun Cynnal a Chadw Blynyddol
• Datblygu, gweithredu a chyflwyno Cynllun Contract addas fel sy’n ofynnol gan y system NEC4 i Reoli a Gweinyddu’r Gwasanaethau Cynnal a Chadw
• Cofnodi Galwadau i’r Ddesg Gymorth
• Darparu System Dechnegol Rheoli Cyfleusterau i reoli a gweinyddu gwaith cynnal a chadw
• Cynnal a Chadw Mecanyddol a Thrydanol
• Cynnal a Chadw Adeiladwaith yr Adeilad
• Cynnal a Chadw Technegol Asedau Arbenigol
• Cynnal a Chadw Statudol
• Cynnal a Chadw Ataliol wedi’i Gynllunio
• Cynnal a Chadw sy’n Canolbwyntio ar y Busnes
• Cynnal a Chadw Lleihau Defnydd o Ynni
• Cofrestr Cynnal a Chadw
• Cynnal a Chadw Brys
• Cynnal a Chadw Ymatebol
• Prosiectau bach yn ôl cyfarwyddyd
• Gwasanaethau Cynnal a Chadw Paratoadol ac Ymatebol i Archwiliadau ac Adroddiadau Trylwyr
• Gwasanaethau Tasgmon
• Cynnal a Chadw Amrywiol
• Darparu defnyddiau traul a darnau sbâr
• Gwasanaethau Rheoli Gwastraff (gellir eu darparu drwy Lot 1 neu Lot 2)
Gwasanaethau Prosiectau a Gwaith Proffesiynol (Opsiwn i’w darparu ond nid yw’n orfodol)
Gellir darparu’r Gwasanaeth yma neu beidio drwy’r Contract (Lot 1 neu Lot 3)
• Dylunio Prosiect
• Gwasanaeth Tendro Prosiect
• Gwasanaethau Rheoli Prosiect
• Dylunio a chyngor dichonoldeb
• Arolygon a chyngor arbenigol
• Darparu adnoddau Dylunio ac Adeiladu Proffesiynol ar sail wedi’i chynllunio neu yn ôl y gofyn
Lot 2 – Gwasanaethau Rheoli Cyfleusterau Meddal (SFM)
• Defnyddio’r Contract newydd
• Paratoi, cyflwyno a rhoi System Ansawdd Contract ar waith
• Sefydlu prosesau, gweithdrefnau a dogfennau cofnodi gwaith Rheoli Cyfleusterau ac yn y blaen
• Cynlluniau a Rheoli Amgylcheddol, Cymdeithasol a Datgarboneiddio
• Gwasanaethau Rheoli Cyffredinol
• Rheoli’r Gadwyn Gyflenwi
• Gwasanaethau Rheoli Gwerth ac Arloesedd
• Gwasanaethau Canolfan Mileniwm Cymru a Rheoli Canolfan Mileniwm Cymru
• Gwasanaethau Rheoli Iechyd, Tân, Diogelwch ac Amgylcheddol
• Datblygu a Chyflwyno’r Cynllun Gwasanaethau Meddal Blynyddol
• Datblygu, gweithredu a chyflwyno Cynllun Contract addas fel sy’n ofynnol gan y system NEC4 i Reoli a Gweinyddu’r Gwasanaethau Meddal
• Gwasanaethau Glanhau Rhagweithiol
• Gwasanaethau Glanhau Ymatebol
• Gwasanaethau Glanhau Cyfnodol
• Cynnal a Chadw Tir
• Darparu defnyddiau traul a darnau sbâr cyfarpar
• Gwasanaethau Rheoli Gwastraff (gellir eu darparu drwy Lot 1 neu Lot 2)
Lot 3 – Gwasanaethau Rheoli Cyfleusterau Caled a Meddal
• Gwasanaethau Cyfunol a nodwyd ar gyfer Lot 1 a Lot 2
|