Disgrifiad o'r nwyddau neu'r gwasanaethau sydd eu hangen
Cyflwyniad
Mae Fframwaith Sefydlu Cymru Gyfan i reolwyr y blynyddoedd cynnar a gofal plant yn set o safonau sy’n deillio o ganlyniadau dysgu gorfodol cymwysterau Lefel 4 Paratoi i Arwain a Rheoli a Lefel 5 Arwain a Rheoli Gofal Plant, Chwarae, Dysgu a Datblygu.
Mae Fframwaith Sefydlu Cymru Gyfan yn fframwaith strwythuredig sydd wedi’i ddylunio i gefnogi sefydlu gweithwyr newydd i rolau yn y blynyddoedd cynnar a gofal plant yng Nghymru. Mae’n rhoi sylfaen i ddatblygu’r sgiliau, yr wybodaeth a’r gwerthoedd sydd eu hangen i ddarparu gofal a chymorth o ansawdd uchel.
Mae dwy ran i’r Fframwaith Sefydlu Cymru Gyfan (AaB). Dim ond ar ran A bydd y prosiect hwn yn canolbwyntio, sy’n edrych ar yr wybodaeth y bydd ei hangen ar weithwyr newydd ei deall cyn ymarfer yn ddiogel ac yn effeithiol mewn lleoliadau iechyd a gofal cymdeithasol. Mae’n rhoi dull strwythuredig o ddysgu am gysyniadau, gwerthoedd a chyfrifoldebau allweddol sy’n ofynnol yn eu rôl.
Cefndir
Bydd y prosiect hwn yn rhedeg ochr yn ochr â’r rhaglen beilot i gefnogi’r gwaith o weithredu’r Fframwaith Sefydlu Cymru Gyfan a gwneud gwaith darganfod i ganfod unrhyw anghenion cynnyrch digidol.
Mae’r cynllun peilot yn cynnwys gweithio gyda phedwar awdurdod lleol i sefydlu dulliau safonol i sicrhau ansawdd fframweithiau sydd wedi’u cwblhau, gan nodi arferion gorau a meysydd i’w gwella. Ochr yn ochr â hyn, bydd y cam darganfod yn asesu sut mae’r ardaloedd peilot yn defnyddio fersiwn dogfen Word y fframwaith ar hyn o bryd ac yn archwilio a allai ateb digidol wella ymgysylltiad a phrofiad defnyddwyr, ar sail gwybodaeth o’r cynllun peilot.
Os bydd y peilot a Cham 1 (darganfod) yn cadarnhau bod angen adnodd newydd, byddwn yn dechrau comisiynu Cam 2 - Datblygu. Bydd y cam hwn yn canolbwyntio ar greu Llyfr Gwaith Fframwaith Sefydlu Cymru Gyfan y Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant i Reolwyr.
Beth sydd ei angen / ‘Y Gofynion’
Cam 1 – Darganfod
O dan y contract hwn, rydym yn chwilio am gyflenwr sydd â’r sgiliau a’r profiad priodol i gynnal Cam Darganfod cyntaf y prosiect hwn.
Bydd y cyflenwr yn:
- Cynnal ymchwil i ddeall ac i ddogfennu anghenion penodol defnyddwyr y mae’n rhaid i Lyfr Gwaith Fframwaith Sefydlu Cymru Gyfan y Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant i Reolwyr eu diwallu.
- Asesu effeithiolrwydd y llyfr gwaith presennol (ar ffurf Word ar hyn o bryd) o ran diwallu anghenion defnyddwyr.
- Canfod unrhyw rwystrau neu heriau a allai gyfyngu ar ba mor ddefnyddiol neu effeithiol ydyw.
- Canfod cyfleoedd i wella, gan gynnwys posibilrwydd datblygu ateb digidol i fynd i’r afael ag anghenion sydd heb eu diwallu neu oresgyn heriau a nodwyd.
- Gwerthuso sut mae Llyfr Gwaith newydd Fframwaith Sefydlu Cymru Gyfan y Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant (sy’n cael ei gyflwyno fel modiwl e-ddysgu) yn diwallu anghenion defnyddwyr.
- Echdynnu gwybodaeth mae modd ei defnyddio gyda fersiwn y rheolwyr er mwyn ei wneud yn fwy effeithiol.
- Datblygu prototeipiau o lyfr gwaith diwygiedig y rheolwyr.
- Cynnal profion defnyddwyr i gasglu adborth ac i fireinio’r dyluniad ar sail profiad y defnyddiwr.
- Gweithio’n agos gyda Thîm Digidol a Thechnoleg Gofal Cymdeithasol Cymru i archwilio dichonoldeb gwahanol atebion.
- Rhoi argymhellion ar y fformat a’r dull cyflwyno mwyaf effeithiol ar gyfer y cynnyrch terfynol.
Gweler manyleb am fwy o fanylion
NODER: Ewch i'r Wefan yn https://www.sell2wales.gov.wales/Search/Search_Switch.aspx?ID=149804 i gofrestru eich diddordeb yn yr hysbysiad hwn a chael unrhyw wybodaeth ychwanegol.
Mae'r awdurdod dyfarnu wedi nodi y bydd yn derbyn ymatebion electronig i'r hysbysiad hwn drwy'r cyfleuster 'Blwch Postio Cyflwyno Tendrau'. Mae rhagor o fanylion am y cyfleuster hwn ar gael yn https://www.sell2wales.gov.wales/sitehelp/help_guides.aspx.
Cynghorir cyflenwyr i ganiatáu digon o amser i lanlwytho dogfennau ac anfon yr ymateb electronig ymhell cyn yr amser cau er mwyn osgoi unrhyw broblemau munud olaf.
|