Disgrifiad o'r nwyddau neu'r gwasanaethau sydd eu hangen
Mae Tîm Ewropeaidd Trydydd Sector CGGC (3-SET) am gomisiynu cyflenwr er mwyn cynhyrchu adroddiad ymchwil ar sut mae Cronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF) a Chronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop (ERDF) wedi cefnogi'r sector gwirfoddol yng Nghymru, ar draws pob cyfnod rhaglen (2000 - 2006, 2007 – 2013, 2014 – 2020).
Dyma ddiben yr adroddiad:
1. Pennu a chofnodi cyfraniadau a chyraeddiadau’r sector – rhai meintiol ac ansoddol.
2. Amlygu cyfraniad y sector at lefel ddylunio a monitro’r rhaglenni.
3. Dangos yr effaith y mae’r cyllid a’r sector yn ei chael drwy ddetholiad o astudiaethau achos prosiect.
4. Nodi’r prif wersi a ddysgwyd o gyfranogiad y sector gwirfoddol yn y rhaglenni Cronfeydd Strwythurol Ewropeaidd, yn enwedig yn ystod ac ers pandemig Covid-19.
5. Amlygu effeithiolrwydd y gwasanaeth cymorth technegol, gan gynnwys y defnydd o’r model Corff Cyfryngol i annog y sector gwirfoddol i gymryd rhan drwy ddosbarthu grantiau maint hygyrch i fudiadau gwirfoddol.
Mae gan CGGC fynediad at rywfaint o’r data sydd ei angen i lunio’r adroddiad, gan gynnwys:
- Rhai astudiaethau achos ysgrifenedig a fideo
- Adroddiadau gwerthuso
- Ychydig o ddata rhifyddol – fel faint o gyllid a gafodd y sector o dan raglenni 2007 – 13 a 2014 – 20
- Cydberthnasau â chyflawnwyr blaenorol a chyfredol
- Gwybodaeth fewnol am y gwasanaeth cymorth technegol
Bydd y cyflenwr llwyddiannus yn:
- Deall y Cronfeydd Strwythurol Ewropeaidd a’r dirwedd polisi yng Nghymru yn llwyr.
- Cynnal gwaith ymchwil wrth ddesg a ategir gan gyfweliadau â rhanddeiliaid o’r sector gwirfoddol a staff allweddol WEFO.
- Gorfod trafod syniadau cychwynnol gyda grŵp llywio bach (a drefnir gan CGGC) a chyflwyno fersiwn ddrafft o’r adroddiad i’r grŵp cyn y fersiwn derfynol.
- Llunio adroddiad a fydd yn galluogi CGGC i greu cyfathrebiad diddorol ac effeithiol i’w dosbarthu’n eang a fydd yn dangos yr effaith y mae’r cyllid a’r sector wedi’i chael.
Ceir rhagor o wybodaeth yn y ddogfen Cais am Ddyfynbris lawn.
NODER: Ewch i'r Wefan yn https://www.sell2wales.gov.wales/Search/Search_Switch.aspx?ID=124076 i gofrestru eich diddordeb yn yr hysbysiad hwn a chael unrhyw wybodaeth ychwanegol.
Mae'r awdurdod dyfarnu wedi nodi y bydd yn derbyn ymatebion electronig i'r hysbysiad hwn drwy'r cyfleuster 'Blwch Postio Cyflwyno Tendrau'. Mae rhagor o fanylion am y cyfleuster hwn ar gael yn https://www.sell2wales.gov.wales/sitehelp/help_guides.aspx.
Cynghorir cyflenwyr i ganiatáu digon o amser i lanlwytho dogfennau ac anfon yr ymateb electronig ymhell cyn yr amser cau er mwyn osgoi unrhyw broblemau munud olaf.
|